02/08/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,Nos Iau diwetha es i i ddosbarth cynta y Cwrs Adolygu Dros yr Haf yng Nghanolfan Hamdden, Llanelli. Dafydd yw enw ein tiwtor ni, roedd deg o bobl yn y dosbarth ar y noson - roedd Mike o’n dosbarth ni i fod i ddod, ond ffaelodd e ddod am ryw reswm, efallai bydd e’n dod nos Iau nesa. Brynhawn dydd Sadwrn aeth fy nheulu i i Dafarn y Deri Llanedi am bryd o fwyd, roedd y bwyd yn eitha da. Cawson ni sgwrs da gyda’n gilydd, mwynheuon ni i gyd y prynhawn. Aeth fy ngwraig a fi i’r gampfa fore dydd Sul, ar ôl y gampfa aeth fy ngwraig i’r ardd am gwpwl o oriau, roedd y tywydd yn ddigon da i fi i wneud tasgau bach o gwmpas y tŷ hefyd. Wel dyna fe am nawr.

Newyddion Mike
Roedd yr wythnos diwetha’n brysur. Gofalon ni am ein hwyrion ddydd Llun a dydd Mawrth trwy’r dydd, gwaith caled, ond neis. Ar y dydd Mercher ac ar y dydd Iau ymwelais i â fy mrawd yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Mae e wedi colli un coes yn barod, dwy flynedd yn ôl, achos am broblem cylchrediad gwaed. Roedd hyn o ganlyniad i ddamwain car yn 1960. Mae’n bosib bydd e’n collui’i goes arall, dw i ddim yn siŵr. Dros y penwythnos siopiais i gyda fy nwraig a chadw’n heini yn y clwb ffitrwd yn ogystal ag ymarfer golff ym Mentre Nicholas.

No comments: