30/09/2010

Newyddion Gareth (golff/drwg)
Annwyl Gyfellion,
Dydy’r tywydd ddim wedi bod yn rhy wlyb dros y penwythnos diwetha. Ro’n i’n gallu gweithio ar y patio, barod i ddodi fflagenni newydd lawr.
Chwaraeais i golff ’da ffrindiau fore dydd Llun a bore dydd Mercher - chwaraeodd Mike ’da ni fore dydd Mercher. Fore dydd Mercher roedd criw yn ffilmio Neil am raglen deledu, roedd rhaid i ni fynd rownd y cwrs golff ’da fe pan ro’n nhw’n ffilmio fe. Mae e’n seren nawr dw i’n meddwl.
Newyddion Allan
Sut mae bawb,
Brynhawn dydd Sadwrn es i i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin i weld fy ffrind. Roedd e wedi cael llawdrineaeth ar ei fola ddydd Gwener. Ces i sypreis i weld e'n eistedd yn y gadair ac nid yn y gwely. Roedd e'n dweud wrtha i ei fod e'n eistedd i stopio'r "infection" fynd ar ei "chest" e. Roedd e'n edrych tamaid bach yn wan ond roedd e'n teimlo'n dda iawn.Ddydd Sul aeth Gaynor a fi i Westy Parc y Strade i gael cinio dydd Sul. Ro’n ni’n dathlu penblwydd fy mam yng nghyfraith. Cawson ni amser gwych ac mwynheuodd pawb.

28/09/2010


Newyddion Victoria
Es i i barti gwisg ffansi y 70’s ar ddechrau’r mis ‘ma, yn y dafarn leol ‘The Ship Aground’ yn Mhembre gyda Justin a’n ffrindiau. Roedd y parti i ddathlu y pedwardegfed blwyddyn i’r tafarnwr redeg y dafarn. Roedd e yn y papur achos fe yw’r person sy wedi wedi gweithio hira yn y wlad fel tafarnwr!
Prynais i fy ffrog yn Oxfam am £1.99!
Cawson ni amser da - dawnsio, canu ac yfed gwin, ond yn anffodus yfais i ormod o win, ac roedd bola tost ‘da fi’r diwrnod nesa!
Newyddion Mike
Dyma ni’n dechrau ar flwyddyn newydd i fynd ymlaen i ddysgu Cymraeg. Dechreuodd y dosbarth Cymraeg ddydd Iau diwetha a cawson ni lawer o hwyl yn y dosbarth! Dyma’r ffordd orau i ddysgu Cymraeg, dw i’n meddwl. Dros y penwythnos es i i glwb DW ym Mharc Trostre, Hefyd, ymarferais i golff ar y safle gyrru yng nghlwb Pentre Nicholas fore dydd Sadwrn. Ddydd Sul, ymwelodd fy wyres hena o‘r Hendy, i ginio dydd Sul, Alicia yw ei henw hi, mae hi’n ddeuddeg oed, (mwy fel ugain mlwydd oed)! Mae hi’n ymarfer fel Cheerleader ar gyfer y Scarlets.

23/09/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Ddydd Sul diwetha aeth fy ngwraig a fi i Fae Caerdydd am y dydd. Roedd y tywydd yn braf iawn. Cerddon ni tua milltir i’r argae o’r maes parcio, wedyn, cawson ni gwch yn ôl i gael cinio canol dydd mewn tŷ bwyta ar y rhodfa. Roedd y bwyd yn hyfryd ac roedd y tâl am wasanaeth yn werth pob ceiniog - roedd y gwasanaeth yn ardderchog. Fore dydd Llun chwaraeon ni golff ’da’r ddau Neil. Brynhawn dydd Llun gweithais i yn yr ardd, newid y ddelltwaith (lattice) ar ôl iddo gael ei beintio gan fy ngwraig i. Ddydd Mawrth (heddiw) - a dw i’n ymlacio, gwneud fy ngwaith cartref, ar ôl smwddio i fy ngwraig.

21/09/2010

Newyddion Mike
Wythnos dawel,eto. Chwaraeais i golf gyda Neil a Gareth, dwywaith, yng Nglyn Abbey ar bwys Trimsaran, roedd y tywydd yn iawn. Collais i ugain ceiniog iddyn nhw! Es i i’r clwb ffitrwydd sawl gwaith. Siopais i ym mharc Trostre gyda fy nghwraig, Wendy ac wedyn paned o Latte yn Starbucks. Dathlodd fy wyr ei ben-blwydd ddydd Gwener - llongyfarchiadau ar ei ben-blwydd yn dair oed, am ddyn ifanc! Edrychais i ar y Pab ar y teledu - dyna olygfa! Gormod o wastraff arian, dw i’n meddwl. Mae llawer gormod o bobl tlawd a newynog yn y byd. Hefyd, dwedodd un o grŵp y Pab bod Prydain fel gwlad trydydd byd!!

16/09/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Roedd y tywydd ddydd Gwener yn ofnadwy, bwrw glaw mân trwy’r dydd, felly, do’n i ddim yn gallu chwarae golff ’da Mike a Neil. Gobeithio bydd hi’n gwella wythnos nesa. Brynhawn dydd Sadwrn es i i Barc Pemberton, gwelais i ‘Y Scarlets’ yn erbyn ‘Conaught’. Es i gyda fy mab yng nghyfraith i, a fy wŷr i. Roedd ‘Y Scarlets’ yn lwcus iawn i ennill y gêm yn y pen draw. Cwrddais i â Scott a’i ffrindiau e yn y gêm, siaradais i â fe yn ystod hanner amser. Ddydd Llun chwaraeais i golff gyda Neil a ffrind arall o’r enw Neil hefyd. Ddydd Mawrth, gweithiais i ar y patio, yn y glaw mân, dw i’n codi’r fflagenni hen lan i ddodi fflagenni newydd lawr, mae hi’n dasg fawr a dweud y gwir. Fore dydd Mercher ges i gêm o golff gyda fy ngwraig i, chwaraeodd Mike ’da Neil Price a Neil Blower. Gwela i chi i gyd yr wythnos nesa yn y dosbarth.
Newyddion Mike
Wythnos dawel. Ymwelais i â fy mrawd yn Ysbyty Glangwili yng Ngaerfyrddin sawl gwaith a gofalon ni am fy wyrion, Eli a Lewis ddydd Llun a dydd Mawrth fel arfer, ond, hefyd, gofalon ni amdanyn nhw ddydd Sul, achos aeth fy ail mawb, Dean a’i wraig e, Sue, i Henley ar Thames ar bwys Llundain i ymweld â theulu Sue . Roedd ei modryb ac ewythr yn dathlu pen-blwydd priodas chwedeg mlynedd! Gaethon ni fwyd tri chwrs gyda llawer o win Champagne yn gynta, ac wedyn, teithon ni mewn cwch ar y Thames am dair awr, ac eto, llawer o win Champagne, ac wedyn, te a sgonau hufen. Roedd ewythr Sue wedi ymddeol, wrth gwrs, ond roedd e’n arfer gweithio fel cyfarwddwr yn “Lyons Cakes”. Mae e’n ddyn cyfoethog iawn. Roedd chwe deg o westeion! Dw i’n edrych ymlaen i “burgers a fries” yn Florida yn mis Tacwedd. Am wledd!

07/09/2010

Newyddion Mike
Dw i’n edrcyh ymlaen i Ganolradd II yn mis Medi! Mae gwyliau’r Haf yn gorffen a wedi mynd yn gyflym, yn rhy fuan. Dw i ddim wedi bod am wyliau eto ond hoffen ni fynd i Disney UDA yn mis Hydref/Tachwedd gyda fy ail mab Dean a’i deulu e - Sue, Eli a Lewis.
So hi wedi bod yn Haf da. Mae fy mrawd i, Keith, wedi bod yn Ysbyty Glangwili ers wyth wythnos a mae e wedi colli ei ail goes. Mae’n amser drwg ar y funud. Bydd hi’n amser caled trwy’r ychydig fisoedd nesaf. Hefyd, buodd fy nghyfnither, Marilyn, farw dwy wythnos yn ôl.
Newyddion da – dw i wedi dechrau chwarae golff cywir, dim ar y “driving range”, ond gyda Neil a Gareth yn Nglyn Abbey, Trimsaran. Dw i’n dysgu geirfa newydd!!
Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Wel, mae’r tywydd yn braf iawn ar hyn o bryd. Yn ôl y blog, cafodd Caryl a’i gŵr hi Dyfryg wyliau hyfryd yng Nghanada, mae e’n neis i glywed hynny. Mae fy ngwraig a fi wedi bod yn brysur iawn yr wythnos hon - helpu ein mab hena Stuart a’i wraig Karin, wneud sianel draeniad tu allan i’w tŷ nhw. Ro’n nhw wedi cael problem gyda dŵr pan roedd hi’n bwrw’n drwm. Gobeithio ein bod ni wedi gwella’r broblem nawr. Roedd y gwaith yn galed iawn, dyn ni’n rhy hen i wneud gwaith fel yna nawr – mae’r ddau ohonon ni’n “cream crackered” ar ôl y gwaith. Dyn ni’n mynd i ymlacio brynhawn yfory (Dydd Gwener) - chwarae golff gyda Mike a ffrindiau eraill.