03/01/2012



Parti Nadolig 2011

Cafodd y dosbarth noson hyfryd yn nhafarn y "Cauldfield", Porth Tywyn i ddathlu'r Nadolig. Roedd pawb wedi mwynhau'u bwyd, cwrw a gwin. Fel arfer, roedd Neil wedi gwisgo'n smart iawn mewn coch a gwyrdd gyda het arbennig Nadoligaidd. Roedd rhai wedi cyrraedd Porth Tywyn ar y tren, cwpwl wedi gyrru ac ambell un wedi cerdded.

Bydd y dsoabrth yn ail ddechrau ar ôl gwyliau'r Nadolig, nos Iau, 12 Ionawr 2012.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!

21/10/2011

Darn Allan
Ces i fy ngeni yn Stoke-On Trent ond ces i fy magu ym Mhorth Tywyn. Ro'n i'n arfer byw mewn tŷ gyda thair ystafell wely gyda gardd yn y cefn ac yn y blaen. Ro'n i'n arfer chwarae yn yr ardd gyda fy nwy chwaer. Roedd e'n gyfleus iawn ble o'n i'n arfer byw. Ro'n i'n byw ar byws fy ysgol gynradd a doedd y parc lleol ddim yn bell ychwaith. Roedd y siopau'n agos ac roedd hi ddim ond deg munud i gerdded i'r dociau a'r traeth o fy nhŷ. Ro’n i’n mwynhau byw ym Mhorth Tywyn ac mae llawer o atgofion hapus gyda fi am pan o'n i'n ifanc.

19/10/2011

Darn Gareth
Ces i fy ngeni yn Stryd Buddelph yn ardal ‘Y Doc Newydd’, Llanelli - yn nhŷ fy modryb i - chwaer fy mam. Fy mam oedd yr un ifanca o un ar ddeg o frodyr a chwiorydd - roeddwn nhw i gyd yn gofalu amdani hi wrth gwrs. Ro’n i’n byw yn ‘Y Doc Newydd’ am bum mlynedd cyn symud i Lwynhendy. Ro’n i’n byw ar bwys fferm yn Llwynhendy, ro’n i’n mwynhau chwarae ar y fferm pan ro’n i’n ifanc.


Darn Neil
Wel, ces i fy ngeni a magu ym Mirmingham. Mae dau tîm pel-droed ‘na - Aston Villa ac un arall. Ro'n i'n arfer mynd i Barc Villa i edrych arnyn nhw yn chwarae. Fy atgofion cyntaf ym Mirmingham oedd fi a mam yn mynd i'r swyddfa drws nesa i'r orsaf tram. Gadawais i Firmingham ym 1963, es i yn ôl cwpwl o weithiau ond nawr dw i'n hapus iawn i deithio drwodd heb yn stopio.


Darn Mike
Ces i fy ngeni yn Llanerch, ardal Llanelli, ar bwys Parc Howard. Ces i fy magu mewn tŷ cyngor gyda fy rhieni a thad-cu a mam-gu, ym Mrynmelyn Avenue. Es i i ysgol Hen Ffordd pan o’n i’n ifanc cyn symud i Lwynhendy yn wyth oed. Dw i’n.cofio Llanerch yn dda, atgofion hapus. Mwynheuais i chwarae rygbi, pêl-droed a griced ar y cae mawr ar bwys yr afon Lliedi.
Yn y dyddiau hynny roedd yr holl deulu yn byw yn yr ardal. Yn y dyddiau hyn, mae’r teulu yn symud i bobman. Trist!


Newyddion Tony
Ddydd Gwener chwaerais i golf yn nglwb golff Machynys gyda “Hen fechgyn Ysgol Tregwyr” ond chwaerais i fel twpsyn ac ennill dim byd!
Ddydd Sadwrn oedd y dydd mwyaf dirywiol yn fy mywyd ar ôl i Gymru golli yn erbyn Ffrainc yng Nhgwpan y Byd!
Yn y prynhawn gwelais i glwb rygbi Cydweli yn ennill y gêm yn erbyn clwb rygbi Feleinfoel ym Mharc Stevens, Cydweli
Ddydd Sul chwarais i golf yn nglwb golff Ashburnham ym Mhorth Tywyn ac roedd y tywydd yn braf iawn.
Yn y prynhawn torrais i’r gwair yn yr ardd.


Darn Julie
Ces i fy ngeni yn Llanelli ond yn gadael yr ardal pan o'n i'n chwe mis oed. Nid yw ardal Llanelli lle y cefais fy ngeni yn grand iawn o gwbl, ond dwi wastad yn teimlo fel ei fod yn gartref. Mae pob un fy mherthnasau yn byw o fewn ychydig o strydoedd o’i gilydd. Ces i fy magu yn Affrica a Seland Newydd, ond bob tair blynedd ro'n ni'n teithio yn ôl i ymweld â’n teulu yn Llanelli.

13/10/2011

Darn Allan
Galla i gofio y tro cyntaf es i ma’s gyda fy ngwraig. Roedd hi'n fis Ebrill 1985. Aethon ni i "Streets" yn yr Uplands ger Abertawe. Roedd hi'n dafarn ble roedd llawer o fyfyrwyr yn arfer galw. Ro’n i’n meddwl bod y dafarn yn wahanol i dafarnau yn Llanelli. Cafodd argraff ar Gaynor ac mae'r gweddill yn hen hanes.
Darn Tony
Fy enw i yw Anthony, ond yn y gwaith mae pawb yn galw fi’n Tony. Felly gall y myfyrwyr yn y dosbarth Cymraeg, Cwrs “Uwch”, fy ngalw i yn Tony hefyd.
Dw i’n gweithio gyda Dwr Cymru Welsh Water fel Rheolwr Cynllun. Mae’s swyddfa yng nghaerfyrddyn ond rwyf fy’n gweithio dros gorllewyn Cymru, o Aberystwyth i Llanelli. Rhwy’n gweithio tri diwrnod yr wythnos yn arolygu adeiladydd yn gosod pibell newydd am ddwr yfed.
Rwyf wedi gweithio gyda Dwr Cymru dros tri deg blwyddyn a rwy’n hoffi gweithio allan yn y wlad.
Fy dioddordeb i yw sbort. Rwyn hoffi iawn rygbi a golff, rwyn chwarae golff yn y clwb golff Ashburnham

12/10/2011

Newyddion Victoria
Dwi’n gobeithio bod yn well erbyn nos Iau, ond dw i ddim yn siwr. Roedd rhaid i fi fynd i’r ysbyty nos Sadwrn diwetha gyda migraine / poen yng nghefn fy mhen i. Gwnaeth y meddygon llawer o brofion, a rhoi painkillers cryf i fi a dwi’n lwcus taw dim ond sinusitis difrifol oedd e.
Dw i’n teimlo tamiad bach yn well nawr, ond ddim yn iawn. Mae angen 2 wythnos yn yr haul rhywle arna i!


Darn Laura
Gaethon ni ein priodas yn Las Vegas. Hedfanon ni 'na tri dydd cyn y briodas i gael y drwydded. Daeth fy nhad a fy llysfam i gyda ni i fod ein tystion. Arhoson ni yng Ngwesty Bellagio ac roedd e'n ffantastig! Roedd y tywydd yn boeth iawn ond roedd pobman wedi'i aerdymheru. Priodon ni yng Nghapel Bach Gwyn ac roedd y gwasanaeth yn deimladwy iawn. Cafodd y briodas ei dangos ar y we felly gwyliodd ein ffrindiau a teulu gartre. Ar ol i ni briodi gaethon ni dro o'r 'Strip' mewn limo. Roedd e'n ddiwrnod hyfryd!

11/10/2011



Darn Neil

Mis: mis Hydref
Blwyddyn: 2010
Teitl: 'Take Me Out'

Ym mis Medi 2010 (ar y ffon ac yng Nghaerdydd) ces i gyfweliad ar gyfer y rhaglen deledu 'Take Me Out'. Un dydd Mercher ym mis Medi ffonion nhw fi i ofyn os gallan nhw ddod i ffilmio y dydd nesa.

Cwrddon ni yn y clwb golff y bore nesa a ffilmion nhw fi, Gareth a Mike yn chwarae golff i lawr y ffairffordd/twll cyntaf. Wedyn aethon ni i borthladd Porth Tywyn i ffilmio 'na. O'r diwedd, ffilmion ni yn fy nhy.

Ro'n ni'n ffilmio am naw awr am glip ffilm 30 eiliad yn y rhaglen.

Cafodd y rhaglen ei darlledu ym mis Chwefror 2011.