29/04/2010

Newyddion Tadcu
Does dim byd cyffrous wedi digwydd i fi dros y penwythnos diwetha. Beth bynnag mwynheuais i’r tywydd yn yr ardd ac ar fy meic.
Dyn ni wedi dechrau ymarfer gyda’r Grwp Opera am y sioe nesa Il Trovatore gan Verdi. Does dim plot ‘da fe ond mae’r gerddoriaeth yn ardderchog.
Bydd fy ngwraig a fi'n mynd i weld ein merch ac wyrion fory yn Sili.
Byddwn ni'n dod nôl trannoeth
Mae Morgannwg yn chwarae’n well. Maen nhw wedi ennill dwy gêm a cholli un erbyn hyn.
Newyddion Allan (ma's)
Cawson ni benwythnos tawel. Fore dydd Sadwrn ro'n i'n brysur yn glanhau fy ngarej. Wedyn gweithiais i yn yr ardd. Torrais i'r lawnt yn gyntaf cyn torri hen goeden i lawr (dim ond tua wyth troedfedd oedd y goeden.) Es i â sbwriel yr ardd i'r dymp yn Trostre. Wedyn, es i i fwydo ceffylau fy nhad yng nghyfraith. Es i ddim ma's nos Sadwrn. Bues i'n helpu fy nhad yng nghyfraith fore dydd Sul achos daeth ffermwr â llwyth o wair i'r ceffylau. Ces i ginio gyda rhieni Gaynor. Gwyliais i'r Sgarlets yn curo Connought ar y teledu yn y prynhawn.

Newyddion Laura
Wnes i ddim llawer dros y penwythnos. Es i i redeg fore Dydd Sadwrn ac ar ôl i ni gael cinio es i â Joe i Barc Howard i fwydo'r hwyaid a chwarae. Es i i redeg fore dydd Sul hefyd ond es i ddim i unman drwy'r dydd. Edrychon ni ar DVD 'Transformers' yn y prynhawn ac ymwelodd mam Neil â ni amser te.

28/04/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Ddydd Gwener diwetha aeth fy nheulu i i Lundain dros y penwythnos i weld Richard, fy mab ifanca yn rhedeg dros plant â Leukaemia ym Marathon Llundain ar fore dydd Sul. Mwynheuon ni gyd y penwythnos. Rhedodd Richard yn dda iawn yn yr hanner cyntaf, ond cafodd e fola tost yn yr ail hanner, cwplodd e mewn pedair awr, pum munud a deugain.Y peth pwysig yn fy marn i yw ei fod wedi cwpla’r ras, dim yr amser.

27/04/2010

Neges Mike
Penwythnos arwyddocaol. Cawson ni nos Fercher neis yn y ‘stafell haul gyda photel o win coch a bwyd bys a bawd. Roedd dydd Sul yn brysur, es i i’r gampfa ffitrwd yn y bore ac yn y prynhawn es i a fy nau mab i gwrs golff Pentre Nicholas a tharon ni belau golff ar y “Driving range”. Edrychais i ar y rygbi ar y teledu, hefyd.
Nos Sadwrn aethon ni i’r Clwb Trydan. Brynhawn Ddydd Sul es i i Barc Y Scarlets ac edrychais i ar y Scarlets yn erbyn Connaught o Iwerddon. Enillodd y Scarlets.

22/04/2010

Neges Gareth (tadcu newydd)
Rhan orau'r Pasg oedd dyfodiad ein hŵyr, Osian, yn ysbyty Glangwili. Mae’n merch a'r babi yn iawn. Dw i wedi bod am dro sawl gwaith gyda fe (fe mewn pram wrth gwrs!) yn barod.
Dw i wedi edrych ar lawer o rygbi a mwynheuais i gêm y Gweilch yn erbyn Biarritz yng Nghwpan Heineken.
Dw i wedi cael llond bol o'r Etholiad a so dwirnod yr etholiad yn gallu dod yn ddigon cyflym. Diolch byth am y tywydd braf felly dw i wedi bod ma’s yn yr ardd ac ar fy meic yn aml.

Neges Allan (ma's)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i'n gobeithio bod pawb wedi mwynhau gwyliau’r Pasg. Roedd y tywydd yn fendegedig. Es i Poole yn Dorset gyda Gaynor i weld fy chwaer yn ei thŷ newydd am un penwythnos. Roedd ei thŷ yn hyfryd. Cyrhaeddon ni brynhawn dydd Gwener ac arhoson ni mewn trwy'r nos. Cawson ni bryd o fwyd blasus.Fore dydd Sadwrn aethon ni am dro i "Poole Quay." Gwylion ni'r "Grand National" mewn tafarn ar bwys tŷ fy chwaer yn y prynhawn. Yn anffodus enillon ni ddim byd ar y râs. Aethon ni ma’s am bryd o fwyd mewn bwyty Eidalaidd nos Sadwrn. Gwnaethon ni gyd gael amser da.

Neges Laura
Dyn ni'n wedi cael gwyliau hyfryd. Aethon ni rhywle pob dydd achos bod y tywydd mor braf. Aethon ni i Barc Howard, Parc y Dre, Penclacwydd a Pharc Gwledig Penbre. Hefyd, aethon ni i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Aeth Joe ar helfa Wyau Pasg yn ein gardd ni ar Sul Pasg a ffindiodd e wyth wy Pasg. A chwarae teg, mae tri ar ôl o hyd! Es i i siopa yng Nghaerdydd gyda fy ffrind i o'r gwaith ddydd Llun diwetha - roedd hi'n neis i gael amser ar fy mhen i hun.

20/04/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i wedi bod yn brysur iawn dros y Pasg, chwarae golff, bwyta mas, garddio, ac yn mynd i’r Cwrs Pasg ym Mhrifysgol Abertawe am dri diwrnod yr wythnos hon. Mae’r tywydd wedi bod yn braf iawn dros y Pasg, mae hi’n gwneud gwahaniaeth i ragolwg pawb dw i’n credu. Gobeithio bod pawb wedi cael Pasg neis.

Neges Mike
Mae gwyliau’r Pasg yn dod i ben. Dw i’n meddwl bod y Pasg yn bleserus, mae’r plant yn mwynhau wyau siocled ac mae cristnogion yn mwynhau mynd i’r eglwys. Edrychais i ar y Pab ar y teledu ar Ddydd Sul y Pasg. Pa fodd bynnag, mae’r eglwys gatholig mewn trwbl gyda’r offeriaid Gwyddeleg.Taw piau hi.
A fi, ymlaciais i drwy’r gwyliau a wnes i ddim arbennig. Ro’n i’n arfer chwarae golff ers llawer dydd a hoffwn i chwarae golff eto. Es i i gwrs golff Pentre Nicholas a tarais i lawer o bêlau golff ar y “driving range”.
Beth am y llosgfynydd yn Ynys yr Iâ? Dyn ni’n mynd (dw i’n meddwl!) i Hong Kong am wyliau byr ar 2 Mai!!

11/04/2010


Taith mewn balwn
Ddoe aeth Dyfrig a finne ar daith mewn balwn. Teithion ni i Gaerdydd fore dydd Sawdrn a gadael Max gyda fy mab Aled am y dydd. Nesa' aethon ni i Fryste - roedd Emyr yn mynd nôl i'r Brifysgol. Mae dwy arholiad 'da fe wythnos nesa'. Wedyn teithion ni lawr i Yeovil erbyn 4 o'r gloch. Cymerodd hi tua awr i baratoi popeth ar gyfer yr hediad ac roedd rhaid i ni orwedd yn y fasged pan oedd y balwn yn codi. Roedd deg ohonon ni ac roedd llawer o chwerthin nerfus ar y dechrau. Aeth y balwn lan i 2700 troedfedd - uchel iawn. Pan laniodd y balwn, neidiodd y fasged tairgwaith ac wedyn cwympodd y fasged ar ei hochr. Daeth Land Rover y cwmni i gasglu ni a chawson ni cwpwl o wydraid o siampên cyn dechrau nôl am Gaerdydd.
Roedd Max wedi mwynhau ei ddiwrnod gyda Aled a chysgodd e'r holl ffordd nôl i Lannon. Roedd Aled wedi blino'n lan hefyd!!!


01/04/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Ddydd Sadwrn es i i’r ‘Sadwrn Siarad’ yn Ysgol Gymunedol Cwrt Sart, Llansawel. Mwynheuais i’r diwrnod, roedd llawer o’r bobl yn ein dosbarth ni’n dod o ardal Castell-Nedd, ond ro’n nhw’n eitha da a dweud y gwir. Nos Sadwrn aeth fy ngwraig a fi gyda’n hŵyr ni i Theatr Elli i weld ‘Oliver’, cynhyrchiad wedi’i wneud gan ‘Ysgol St.Michael’s’. Roedd hi’n noswaith bleserus iawn. Cysgodd ein hŵyr ni dros nos Sadwrn yn ein tŷ ni, cawson ni fore diog dydd Sul, y tri ohonon ni’n cysgu’n hwyr. Gobeithio bod pawb wedi troi’u clociau nhw ymlaen nos Sadwrn!!.