29/11/2008



Neil yn Lithwania.

Penwythnos diwetha es i i Filnius yn Lithwania. Pan ro'n i 'na, ymwelais i ag amgueddfa carchar y KGB. Mae'r llun yn dangos cell dirboen. Cafodd ei defnyddio tan 1990. Roedd llawr y gell yn cael ei llenwi gyda dwr oer. Roedd rhaid i chi sefyll (yn noeth) ar y trofwrdd a cheisio cydbwyso. Os fyddech chi’n syrthio, byddech chi’n syrthio i ddwr oer iawn.

Hefyd, ymwelon ni â marchnad (ar gyfer brandi a choffi wrth gwrs), a gwestai (mwy o frandi a choffi - mmm dim coffi’r tro hwn). Aethon ni i dai bwyta i fwyta llawer o fwyd Lithwaneg (tatws)!

06/11/2008



Gêm ola' yn Strade - Stori ymweliad Neil

Nos Wener diwetha es i i Barc Y Strade i wylio'r Scarlets yn chwarae eu gem ola ym Mharc Y Strade! Ro'n nhw'n chwarae yn erbyn Bryste yng Nghwpan yr EDF.

Mae'r llun yn dangos cais gyntaf y gêm. (Cafodd y cais ei sgorio gan Morgan Stoddart).
Enillodd y Scarlets 27 - 0 ond doedd y gêm ddim yn bwysig. Hon oedd gêm ola'r Scarlets yn Strade a dyna'r peth mwya pwysig.

Am hanner amser canodd Caryl Parry Jones 'West is Best' i gofio am 'Grav'.

Ar ôl y gem - gorymdeithiodd cyn gapteiniaid y Scarlets o gwmpas Parc Y Strade, canodd Cor Meibion Llanelli a Chor Y Scarlets 'Sosban Fach', 'Hen wlad fy nhadau' ac 'Yma o hyd'.

Cwplodd y noson gyda sioe tan gwyllt.

27/10/2008



Priodas mab Gareth

Dyma lun hyfryd o fab Gareth yn ei briodas yn Barbados. Mae Gareth a'i wraig yn y llun hefyd.

16/10/2008



Hanes Neil yn mynd i weld "Queen" yng Nghaerdydd

Neithiwr, es i i Gaerdydd i weld 'Queen' (gyda Paul Rodgers o 'Free'). Ro'n nhw'n wych! Ffantastig! Canon nhw pob un o ganeuon 'Queen', a rhai o ganeuon 'Free' (Paul Rodgers oedd y prif ganwr gyda 'Free'). Chwaraeodd Brian May unawd gitar a chwaraeodd Roger Taylor unawd drwm ac wrth gwrs roedd teyrngedau i Freddie Mercury. Ro'n i'n amheus gan taw Paul Rodgers oedd yn canu ond roedd e'n dda iawn.

29/09/2008


Penwythnos Elvis
Wel - dyn ni wedi bwcio am y flwyddyn nesa yn barod! Arhoson ni yn y Rhosyn a Choron yn Nottais (ger Porthcawl). Roedd y gwesty'n dda iawn - gyda bwyd gwych!.
Nos Wener, aeth Neil 'y bachgen Teddy' i'r Hi-Tide am noswaith o ddawnsio ac yfed gwin coch! Dych chi'n gallu gweld cwrddodd e â Marylin Monroe!
Bore ddydd Sadwrn - brandi a choffi i ddechrau'r diwrnod am hanner awr wedi deg yn y bore. Ar ol 'na aeth popeth braidd yn niwlog!
Nos Sadwrn yn yr Hi-Tide eto - mwy o win coch ac roedd Neil 'Yr Elvis tew' yn dawnsio eto.

21/09/2008

Gwyliau Gareth
Aeth fy ngwraig a fi gyda fy mab a’i gariad e i Barbados ar y trydydd ar hugain o fis Awst am bythefnos. Priododd fy mab a’i gariad e pan o’n ni yno. Aeth diwrnod y briodas yn dda iawn, roedd yr haul yn disgleirio ac roedd y priodfab a'r briodferch yn edrych yn hapus iawn.
Cawson ni amser diflas ar y ffordd ma’s. Cychwynnon ni ar ein taith ni o Gatwick hanner awr yn hwyr. Ar ôl i ni fod yn yr awyr am hanner awr, gwnaeth yr awyren sŵn ofnadwy. Nesa’, clywon ni’r peilot yn siarad a dwedodd e fod rhaid iddo fe droi yn ôl i Gatwick. Cawson ni ddeg awr o oedi yn aros am awyren arall i ddod o Heathrow.
Hanner awr ar ôl eistedd lawr ar yr awyren newydd, penderfynodd un teithiwr, dyn o’r enw Mohammed, doedd e ddim eisiau teithio. Felly, roedd rhaid iddyn nhw ffeindio ei fagiau e a gadawodd e’r awyren.
Tamaid bach o ddrama ar ddechrau fy ngwyliau i....... !!!!!

11/09/2008


Gwyliau Mike yn Florida - 2008.
Ar 4 Gorffennaf aethon ni i Florida am wyliau - fy ngwraig, Wendy, fy nau fab, Dean a Warren, fy merch yng nghyfraith, Sue a fy nwy wyres, Elli a Lewis. Mae Elli yn ddwy oed ac mae Lewis yn flwydd oed.
Cyrhaeddon ni’r Unol Daleithiau ar Ddiwrnod Annibyniaeth. Roedd llawer o ddathlu. Arhosodd Dean, Suzy a’r plant yng Ngwesty’r Dolphin yn Disney.
Arhoson ni mewn condominiwm yn “Cain Island”, yn Kissimmee, ar ffordd 192.
Cawson ni broblemau - roedd y tywydd yn llaith, roedd y tymheredd yn naw deg, ac ar ôl wyth awr ar awyren doedd dim dwr twym yn y condo. Doedd pethau ddim yn dda!
Cwynais i ar y diwrnod nesaf a cawson ni gondominiwm newydd.
Arhoson ni yn Florida am bythefnos. Aethon ni i lawer o barciau Disney – Animal Kingdom, Epcot, Magic Kingdom, Kennedy Space Centre, a phob dydd cawson ni Crispy Cream Doughnuts!
Fy ymweliad i Ganolfan Gofod Kennedy oedd fy ffefryn. Aethon ni ‘na ddwywaith. Hoffwn i fynd eto yn y dyfodol. Mae gofodwyr yn ddewr iawn a chafodd llawer o ofodwyr eu lladd mewn damweiniau.
Cwrddodd Elli a Lewis ag Alice in Wonderland, y Mad Hatter, Tigger ac eraill yn y parciau. Mae Lewis yn ifanc iawn, a thorrodd e ddau ddant newydd ar ei wyliau.
Cawson ni wyliau hapus a hoffwn i fynd i Florida eto.

08/09/2008


Neithiwr aeth Gareth a Neil i'r ty bwyta Gurkha newydd yn Stryd Murray yn Llanelli. Roedd y bwyd yn flasus iawn! (a'r gwin coch wrth gwrs). Roedd y noson ar gyfer codi arain i Gôr Meibion Llanelli. Ar ol y bwyd - dawnsiodd merched ifanc o Nepal a dyma nhw!
Wyr newydd Neil.
Dyma fy wyr newydd Daniel. Dw i'n meddwl bydd e'n chwarae rygbi dros Gymru cyn bo hir! Wythnos diwetha oedd y tro cyntaf i fi ei weld e ers iddo fe gael ei eni. Mae e'n bedwar mis oed nawr. Mae fy nwy wyres Charlotte a Sophie a fy nghyn wraig yn eistedd gyda fi hefyd. Maen nhw'n byw yng Nghaint. Arhosais i yng Nghaint fel gallwn i ymweld â'r wyl gwrw yn Earls Court. Hefyd, es i i Hastings (ble maen nhw'n ffilmio Rhyfel Foyle) i gael pysgod a sglodion. Mae 'na siop 'sgod a 'sglod gwych yn Hastings yn agos i'r cytiau pysgota dan y clogwyni.

01/08/2008


Penwythnos diwetha roedd 'Cwrdd â'ch Llynges' yn Nociau Hanesyddol Portsmouth. Aeth Neil gyda'i ffrindiau i weld y llongau a chwrdd â'r dynion.

Roedd llawer o ddramau hanesyddol o gwmpas y dociau ac er roedd Neil yn y llynges am amser hir so fe'n cofio bod dynion y llynges yn edrych fel hyn!

22/07/2008



Parti arall!

Dathlodd dosbarth Altalia ddiwedd y tymor gyda pryd o fwyd hyfryd. Fel y gwelwch, cafodd pawb noson o hwyl a dim ond un gwydraid o win coch yfodd Neil - ond dylech chi weld maint y gwydr!

23/06/2008


Neithiwr aeth Neil i weld Neil Diamond yn Stadiwm y Millennium, Caerdydd. Am gyngerdd!! Roedd Neil Diamond yn wych! Canodd e bob un o'i hen ganeuon ydyn ni'n eu gwybod a'u caru.

12/05/2008


Dyma Neil yn derbyn ei fedal 'Pingat Jasa Malaysia' ar gyfer ei wasanaethau yn Malaysia yng Ngwrthdaro Malaysia yn 1965/6.

Roedd y seremoni yng Nghasnewydd mis diwetha.

O Gibraltar. Neil gyda'i ffrindiau. Nage! Nage! Dim gwin coch eto! Mae e wedi cael digon yn barod!

02/04/2008


Ddydd Sul es i i Aberystwyth gyda fy mab a fy wyron i edrych ar Llanelli yn chwarae yn erbyn Rhyl yn rownd cynderfynol Cwpan Cymru (pêl-droed wrth gwrs).

Chwaraeodd Llanelli yn dda iawn a threchon nhw Rhyl 5 - 2.

Dyma lun y bedwaredd gôl, gôl gosb!

Cawson ni ddiwrnod gwych!

31/03/2008


Pasg gartre gyda Neil. Dyma teulu Neil. Mab (rhif dau), ei wyres, hen ŵyr a'i ddau ŵyr.

12/03/2008


Mae Neil gyda’i ffrindiau yn y gwesty yn Riga (Latfia). Mae'r ffrind gyda'r het wrth Fwrdd y Capten ar gyfer cael cosb y Capten. (Mae hi’n stori hir - gadawodd e gath y llong yn ystod 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd). Derbyniodd e 'ataliaeth o rwm'. Ar ol Bwrdd y Capten aethon ni am 'amser tot' - heblaw fy ffrind Les wrth gwrs. Wylodd e!

11/02/2008

Ymweliadau Neil â Theatr Y Grand, Abertawe.
Nos Fercher diwetha, es i i weld grwpiau o’r chwedegau yn y Grand, Abertawe. Y grwp cyntaf oedd Marmaled, canon nhw Ob-la-di, Ob-la-da wrth gwrs. Nesa, y “Fortunes” - ydych chi'n cofio’r “Fortunes”? Canon nhw 'Coke - y peth go iawn!'. Canon nhw hefyd 'Mae eich drygau ‘da chi' ac 'Ewch nawr'. Canodd y “Barron Knights” hefyd. Y grwp diwetha i ganu oedd Y Tremeloes. (Gwelais i Brian Poole a’r Tremeloes yn 1963 yn yr Hippodrome, Birmingham gyda - Roy Orbison!). Canodd Y Tremeloes 'Trowch a gweiddwch' ac 'Ydych chi'n fy ngharu i?' wrth gwrs. Roedd hi’n noson enfawr. Wrth gwrs dw i'n rhy ifanc i gofio’r grwpiau neu’r caneuon!

Yna, neithiwr, es i i'r Grand, Abertawe eto. Tro 'ma, es i i weld Jethro, y digrifwr. Es i gyda fy mrawd yng nghyfraith. Cawson ni amser da iawn. Roedd e'n ddoniol iawn.

07/01/2008



Nos Galan - Neil a'i ffrindiau wedi yfed gormod o win coch eto ac yn ceisio canu!
Mae Neil wedi bod bant yn joio unwaith eto - dyma fe ar ddydd Nadolig yn Lanzarote!