28/07/2010

Newyddion Gareth (newydd/garlleg/tadcu/drwg ambell waith)
Arhosodd fy ngwraig a fi gyda’n merch a'i theulu yn Sili am dri diwrnod yr wythnos diwetha.
Rhwng pethau eraill aethon ni â nhw i’r sinema i weld Toy Story 3 (mewn 3D!). Mwynheuon ni i gyd y ffilm. Ddydd Sul diwetha es i eto i Sili ond gyda fy merch arall a fy wyrion i barti Go-Kart ym Mhenarth i ddathlu penblwydd Gregor.
Gobeithio bydd fy ngwraig a fi’n mynd a'n hwyres i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent yr wythnos nesa.

27/07/2010

Newyddion Mike
Wythnos diwetha aethon ni i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Roedd llawer o bethau cyffrous yn y sioe. Mwynheuais i’r “Cloddwyr Dawnsio” ond roedd y prif cylch mewn cyflwr ofnadwy, roedd hi’n bwrw cyllyll a ffyrc ddydd Mawrth, aethon ni ddydd Mercher. Ar ôl y Cloddwyr Dawnsio perfformiodd Milwyr y Brenin RHA. Roedd y ceffylau’n llithro yn y llaid, cwympodd un o’r milwyr yn cwmpo o’i geffyl, yn y llaid! Fy ffefryn i ar y diwrnod oedd y cobiau Cymreig. Roedd y traffig yn ysgafn ar y fford nôl ac arhoson ni mewn Tŷ Bwyta ar bwys Llandeil - dydd neis

25/07/2010




Max yn barod am ei wyliau
Bydd Max yn mynd i "Woofers Paradise" pan byddwn ni'n mynd ar ein gwyliau eleni. Dw i'n credu ei fod wedi dewis ei fag yn barod!
Cofiwch anfon lluniau eich gwyliau ata i i'w rhoi ar y blog.
Caryl















Dathlu diwedd y flwyddyn
Daeth dosbarth Canolradd ac Uwch nos Iau Ysgol y Strade at ei gilydd i ddathlu diwedd y flwyddyn yn y Thomas Arms Llanelli. Cawson ni fwyd a gwin hyfryd a mwynheuodd pawb. Roedd yn hyfryd hefyd croesawu Neil nôl aton ni - yn enwedig gyda'i het newydd!

22/07/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfellion,
Cawson ni noswaith bleserus yng Ngwesty Thomas Arms nos Iau diwetha, gyda’n dosbarth ni a phobl o ddosbarth uwch y Strade. Roedd y bwyd, y cwrw a’r gwin yn hyfryd iawn, roedd y noswaith yn llawn hwyl hefyd. Brynhawn dydd Sadwrn es i i Ddafen i weld gêm o griced gyda’n ffrindiau Bob a Mike, gwelon ni Ddafen yn batio, cawson nhw dri chant a thri rhediad mewn hanner cant o belawdau. Aethon ni adre pan aeth y ddau dîm mewn i gael te yn y pafiliwn. Fore dydd Sul daeth plymwr i weithio yn ein tŷ ni, doedd y gawod ddim wedi bod yn gweithio’n iawn. Gwnaeth e job dda hefyd. Dw i wedi cael digon o’r tywydd gwlyb yn barod, ble mae’r haul wedi mynd?

15/07/2010

Newyddion Mike
Aethon ni - fy ngwraig ac wyrion, Eli a Lewis, i garnifal Porth Tywyn wythnos yn ôl, ar y dydd Sadwrn. Roedd y tywydd yn dda a mwynheuon ni’r hwyl a chystadlaethau. Cafodd Eli ei hwyneb ei beintio fel teigr. Roedd hi wedi crio pan roedd ei mam hi’n golchi ei hwyneb hi nos Sul! Gwelais i Victoria a’i theuelu hi ‘na. Dros y penwythnos, hefyd, es i i’r clwb ffitrwd a chwaraeais golff ar y “driving range” ym Mhentre Nicholas, yr un peth bob wythnos!!

14/07/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfellion,
Gorffenais i’r Cwrs Haf ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Gwener diwetha.
Roedd gwaith y cwrs yn ddiddorol iawn fel arfer, Roedd rhaid i ni i gyd siarad Cymraeg bob dydd gyda Angharad, ein tiwtor ni. Cawson ni ddwy ddarlith yn ystod yr wythnos, un am hanes yr Iaith Gymraeg, ac un am hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, roedd y ddwy ohonyn nhw’n ddiddorol iawn. Brynhawn dydd Llun aeth fy ngwraig a fi, gyda’n merch, mab-yng-nghyfraith a hŵyr ni i’r cyfarfod rasys yn Ffos Las, roedd y tywydd yn braf iawn, enillodd i ddim y tro hwn, gwell lwc y tro nesa efallai?

08/07/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfellion,
Ces i ddiwrnod tawel ddydd Sadwrn, es i ddim i unman. Fore dydd Sul gweithiais i yn yr ardd ac yn y prynhawn chwaraeodd fy ngwraig a fi gêm o golff yng nghlwb golff Glyn Abaty, roedd y tywydd yn braf iawn.
Ddydd Llun dychrueais i ar Gwrs Haf ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r cwrs yn ddiddorol a dw i’n dysgu rhywbeth bob dydd.

06/07/2010

Newyddion Allan
Annwyl bawb,Ces i benwythnos tawel yn ymlacio. Aethon ni i'r Thomas Arms Nos Wener i weld sut roedd e cyn ein noson ni yno ar yr unfed ar bymtheg o Orffennaf. Roedd y bwyd yn flasus iawn a digon ohono fe. Cafodd Gaynor fyrger cig oen a rhosmari a ches i "Steak Melt" gyda madarch. Cawson ni botel o win gwyn i olchi'r bwyd i lawr.Ddydd Llun roedd rhaid i fi fynd â fy nghar i am "M.O.T." Mae e wedi pasio’r prawf. Dw i'n hapus iawn.