24/05/2011

Newyddion Gareth (golff)
Annwyl Gyfeillion,
Wel, mae’r tywydd tamaid bach yn wyntog ar hyn o bryd - mae‘n chwarae hafoc gyda fy ngolff i, ond mae’r gwynt yn well na’r glaw pan dw i’n chwarae. Siaradais i’n rhy fuan – ces i, Jackie a’r ddau Neil i gyd eu dal mewn cawod fawr y bore yma (dydd Llun) yn Abaty Glyn, ro’n ni’n wlyb trwodd. Dylen ni fod wedi chwarae prynhawn yma, mae’r haul yn disgleirio nawr. Mae popeth yn tyfu yn yr ardd, moro, tatws, ffa dringo, ciwcymber, tomato a winwns. Dyna i gyd dw i’n tyfu eleni.

20/05/2011

Newyddion Victoria
Annwyl Caryl a phawb,
Mae flin da fi golli dwy wers. Dwi’n brusr iawn gyda fy ngwaith a dwi’n gweithio yn y nos pryd mae Justin yn dod nôl o’r gwaith. Dy’n ni’n mynd Dyddewi yn y caravan dros hanner tymor a mae rhaid i fi gorffen 6 archebu cyn i ni fynd!
Dechreuodd Justin ei swydd newydd ddydd Llun ma. Mae e wedi bod i lawer o gyfarfodydd yr wythnos ma ac mae e’n edrych ymlaen i ddechrau’r gwaith!
Mae newyddion cyffrous gyda Owain, mae e’n dechrau defnyddio’r “potty”. Mae e’n ddoniol…pan mae e’n gorffen, mae e’n rhoi clap i’w hunan a dweud ‘Da iawn, bachgen da). Mae dydd lluniau ysgol heddi i Seren ac Evan ac mae nhw’n gallu gwisgo dilliad smart. Mae Seren wedi paratoi ei “outfit” hi neithiwr yn barod!
Mae Owain yn mynd i aros gyda Mamgu am y dydd heddi i fi gael gweithio (a dwi’n mynd i gael fy ngwallt wedi torri hefyd achos sai’n gallu gweld trwy fy “fringe” i!)
Dwi’n gobeithio eich gweld chi wythnos nesa.
Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Roedd fy chwaer i, Ann, lawr o Basingstoke dros y penwythnos diwetha. Arhosodd hi gyda fy nai i Mark yn ei dŷ e yng Nghaerfyrddin. Aethon ni i gyd i weld y beddfaen newydd sy wedi cael ei ddodi ar feddau ei fam a’i dad e (fy chwaer a fy mrawd yng nghyfraith i) ym Mynwent Box, Llanelli. Roedd hi braidd yn emosiynol i weld eu henwau nhw ar y beddfaen, Collon ni'r ddau ohonyn nhw dros chewch wythnos ac un flynedd yn ôl. Aeth Ann a fy nai Mark yn ôl i Basingstoke a Llundain ddydd Mawrth diwetha. Chwaraeais i golff gyda Jackie,Neil (Saesneg) a Neil (Cymraeg) fore dydd Llun, ces i gêm eitha da hefyd.

16/05/2011

Newyddion MIke

Wythnos ddiwetha aethon ni- fy ngwraig a fi - i Ddyfnaint dros pedwar
diwrnod i Dawlish Warren. Arhoson ni mewn carafan statig, roedd pob
cymhwyster ‘da’r carafan - cawod, oergell, micro-wave ac yn y blaen, newydd
sbon. Roedd y gwyliau’n dawel ond roedd yn neis i ymlacio. Aethon ni i Torquay am un diwrnod a Dawlish y diwrnod nesaf. Mae’r afon yn rhedeg trwy canol Dawlish - trwy'r parc. Mae Dawlish yn enwog am yr elyrch du yn yr
afon. Cawson nhw eu rhoi fel anrheg cof gan ddyn pwysig can
mlynedd yn ôl. Nos Wener, enillais i lotri Ewrop! Dim ond pum
punt - peidiwch cynhyrfu.

Newyddion Gareth (drwg)

Annwyl Gyfeillion,


Brynhawn dydd Sadwrn es i i Barc Pemberton gyda fy mab-yng-nghyfraith a fy ŵyr i. Gwelon ni Y Reds yn erbyn Bangor yng Nghwpan Cymru. Enillodd Y Reds 4-2, chwaraeon nhw’n dda iawn ar y dydd. Dw i a Jackie wedi edrych ar ôl ein hŵyr Rocco ddwywaith, a wedi bod i’r gampfa dair gwaith, a chwarae golff gyda ffrindiau dair gwaith hefyd ers ddydd Sadwrn diwetha, dyn ni’n brysur iawn ar hyn o bryd, ymddeol!! Beth yw hynny???

Newyddion Mike

Penwythnos dda! Enillodd y Scarlets yn erbyn Y Gleision 38-23,
chwaraeodd y Scarlets yn dda iawn ac roedd y Scarlets yn haeddu ennill. Yn
anffodus mae’r Gweilch wedi ennill lle yn y rownd derfynol yn lle y Scarlets. Newyddion da eto, enillodd y “Reds” (Clwb pêl droed
Llanelli) y Cwpan Cymraeg yn erbyn Bangor ar Barc y Scarlets, 4-1.Yr
wythnos nesaf awn ni i Ddyfnaint am bedwar diwrnod, hoffwn i
ymlacio ‘na, ond mae fy ngwraig yn hoffi siopa!

















Newyddion Caryl

Aeth Dyfrig a finne i Blackpool dros y penwythnos - roedd fy mab a'i bartner yn chwarae mewn cystadleuaeth bandiau pres ddydd Sadwrn a gwelon ni nhw'n chwarae fore Sadwrn. Roedd y tywydd yn oer a gwyntog ar y dydd Sadwrn. Felly yn y prynhawn aethon ni nôl i'r gwesty a gorwedd yn y jacuzzi a nofio yn y pwll nofio.

Teithion ni lan brynhawn dydd Iau a chawson ni gyri (twym iawn) i swper - a botel o win wrth gwrs! Fore Gwener aethon i Madame Tussards - chwaraeodd Dyfrig golff 'da Tiger Woods a ches i beint yn y "Rovers Return". Gwnaethon ni damaid bach o siopa hefyd ac yn y nos aethon ni i gael pryd o fwyd a gweld grwp yn canu. Roedd y lleoliad yn newydd sbon - lle o'r enw "The Sands Venue". Cawson ni bryd o fwyd tri chwrs ac roedd grwp o'r enw "The Komitments" yn canu. Canon nhw llawer o ganeuon o'r ffilm enwog "The Comitments" - stori am fand o Iwerddon.

Roedd llawer o waith yn cael ei wneud yn Blackpool ar y prom ac ar y twr - roedd scaffaldau ar y twr. Aethon ni ddim lan y twr eleni achos dyn ni wedi bod ddwywaith o'r blaen ac roedd hi'n wyntog iawn!

Buodd Max yn aros 'da Monti nos Iau a rhedon nhw o gwmpas yr ardd am oriau!

03/05/2011

Newyddion Mike
Mae’r tywydd yn parhau’n dda - tywydd da ar gyfer golff a garddio eto. Dathlais i fy mhen-blwydd ddydd Iau diwetha - os byddai’r dosbarth Cymraeg yn cwrdd byddwn i wedi dod â chacen ben-blwydd i’r dosbarth! Aethon ni i dafarn Y Caulfields i ddathlu. Roedd y bwyd yn flasus iawn. Edrychais i ddim ar briodas William a Kate, es i i chwarae golff, wrth gwrs. Penwythnos brysur ar y ceir - newidais i’r olew yng nghar fy ngwraig a car fy mab ifanca. Roedd hi’n wyntog ac oerach nos Lun, dw i’n meddwl bod y tywydd yn newid.
Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfellion,
Wythnos diwetha, es i a Jackie i angladd ffrind ein teulu ni, yn Basingstoke. Arhoson ni gyda fy chwaer i, Ann, am dri diwrnod. Ar ôl yr angladd ddydd Mercher ro’n i’n gallu gwneud tasgau bach o gwmpas y tŷ i fy chwaer, Roedd hi’n ddiolchgar iawn i fi hefyd. Fore dydd Llun chwaraeon ni, (Jackie a fi), gêm o golff gyda Mike a Neil Blower yn Abaty Glyn. (Mae Neil Price yn Bulgaria ar hyn o bryd). Dyn ni’n mynd i warchod ein hŵyrion ni dros nos dydd Mawrth, yr amser cyntaf i fy merch i i adael y baban ers cafodd e ei eni. Mae hi a’i gŵr hi’n mynd i Gaerdydd i ddathlu eu priodas arian nhw.
Newyddion Mike
Mae’r tywydd yn ardderchog, mae’n neis i wneud ddim ac eistedd ar y “deck” ac yfed cwrw oer. Ond, dw i wedi torri lawnt - eto, mae’r gwair yn tyfu yn gyflym. Wrth gwrs, chwaeraeais i golff ddwywaith yr wythnos diwetha ac edrychais i ar y Scarlets yn erbyn Glasgow ar y teledu nos Wener. Enillodd y Scarlets o’r diwedd a bydd y Scarlets yng Nghwpan Cystadlaeaeth Ewrop y tymor nesaf. Es i i Dafarn Y George Nos Fawrth i gyfarfod cymdeithasol i siarad Cymraeg.
Heddiw yw Sul y Pasg a daeth pob u o fy wyrion i gasglu wyiau Pasg ond casglodd fy wyres hena arian i fynd siopa!