14/12/2007



Cawson ni noson hyfryd neithiwr yn Altalia yn ein parti Nadolig. Cafodd llawer o win coch ei yfed - fel arfer! Roedd y bwyd a'r cwmni'n hyfryd.

Diolch eto i Alatlia am leoliad mor gyfforddus ar gyfer y dosbarth ac ar gyfer y parti!

Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

13/11/2007



Aeth Neil ma's gyda'i ffrindiau i gael pryd o fwyd Indiaidd y penwythnos diwethaf. Yfon nhw lawer o win coch, mae'n debyg a mwynhau cyri ardderchog.


Neil yn dathlu Noson Calan Gaea' gyda'i ffrindiau.

14/10/2007



Victoria a'r teulu ar eu gwyliau yn Tenerife gyda "Peter" y neidr - cobra 16 troedfedd!

01/10/2007

Neil "Elvis Presley" Price


Mae Elvis yn byw a chanu yn Mhorthcawl.

Penythnos 'ma es i i Borthcawl. Roedd gwyl 'Elvis' yno gyda llawer o ganwyr 'Elvis'. Gwisgodd pawb fel 'Elvis' gan gynnwys fi! Cafodd pawp lot o hwyl ag yfed gormod o win coch wrth gwrs.

Roedd un canwr da iawn, o'r enw Jelvis. Rhaid i fi fynd eto y flwyddyn nesa. Ces i amser campus!

29/09/2007

Atebion i gwestiynau Pennod 12.
1. Doedd Debra ddim eisiau mynd yn y car gyda Miguel achos ei bod hi wedi gweld ei gar e yn El Plantio.
2. Roedd Miguel yn El Plantio y prynhawn ‘na.
3. Gofynnodd Debra i ddau Americanwr am help yn y bar.
4. Nac oedden, do’n nhw ddim yn gallu siarad Sbaeneg.
5. Cymrodd hi ddau aspirin ac yfodd hi laeth twym cyn mynd i gysgu.

Cofiwch bydd y dosbarth yn ail ddechrau yn Altalia, nos Iau 11/10/07 am 7 o’r gloch.

27/09/2007


Dyma Neil yn chwarae golff ar ei wyliau. Edrychwch - 'birdie'

Neil ar ei wyliau yn Groeg.
Mmmmm - dim newid 'ma 'te! Gwin coch eto.

Neil yn mwynhau wystrys a siampen yn yr Wyl Gwrw yn earls Court - ar ôl yfed cwrw!

24/09/2007

Atebion cwestiynau Pennod 11

1. Roedd hi wedi bod i’r clwb sawl gwaith.
2. Bwytodd Debra paella.
3. Anrheg wrth ei rhieni oedd y bag.
4. Roedd e’n olygus gyda hen graith ar ei foch.
5. Cafodd e gig oen gyda salad.
6. Miguel oedd ei enw.
7. Citroen llwyd oedd gyda’r dyn.

21/09/2007

Gwyliau yn Sicily




Llun 1
Pwy yw'r dyn golygus 'na?


Llun 2

Dyma fi'n mwynhau nofio yn y môr.

Stori Neil

Wythnos nesaf, bydd lluniau ar y blog o Neil ar ei daith i Lundain i flasu cwrw - enw'r daith yw "Perygl yn Earls Court". Dw i'n gobeithio y bydd Neil yn gallu rhoi'r stori i ni pan fydd y dosbarth yn ail-ddechrau.

Stori Ruth

Dyma stori wrth Ruth am taith dros yr haf.

Taith ryfeddol!
Aethon ni, yn yr haf , ar gwch gyda deuddeg seddau, o Fwmbwls i Ben Pyrhod.
Roedd yr haul yn gwenu!
Roedd y môr mor las!
Roedd y tywydd yn hyfryd!
Gadawon ni Mwmbwls ac aethon ni heibio baeau De Gŵyr;
Bracelet,
Langland,
Caswell,
Pwll Du,
Three Cliffs,
Porth Einon,
tan i ni gyrraedd Pen Pyrhod.

Golygfa ysblenydd!

Ar ôl cael picnic bach, dywedon ni ffarwél i Ben Pyrhod a dechreuon ni ar ein taith yn ôl i Fae Mwmbwls.
Y tro yma gwelon ni Ogof Paviland yn glir ac aethon ni i fae prydferth, Bae Oxwich.
Cyrraeddon ni Mwmbwls ar ôl taith fythgofiadwy a phrofiad arbennig!

Croeso nôl!

Dw i nôl o fy ngwyliau nawr ac wedi anfon cwpwl o gwestiynau ma's am bennod 11. Bydd yr atebion ar y blog yn gynnar yr wythnos nesaf.

14/08/2007

Grwp sgwrsio newydd
Mae grwp sgwrsio newydd yn dechrau heno yn nhafarn y Farmers Porth Tywyn am 7.15. Bydd y grwp yn cwrdd bob nos Fawrth.
Ewch draw am sgwrs!

09/08/2007

Atebion Pennod 6.

1. Nage, pobl gyfoethog oedd yn byw yn El Plantio.
2. Cyrhaeddodd debra El Plantio ar y metro ac ar y bws
3. Roedd e’n ifanc, tua ugain oed.
4. Roedd y bws yn gadael El Plantio am Fadrid am chwech o’r gloch.
5. Menyw atebodd ddrws Senor Lopez.
6. Meddygon, peirianwyr, cyfreithwyr a phenseiri oedd swyddi rhai o’r bobl oedd yn byw yn El Plantio.


Dw i’n mynd ar fy ngwyliau nawr felly darllennwch pennod 7 – 10 ac ysgrifennwch 2 gwestiwn ar gyfer pob pennod. Anfonwch nhw ata i ar e-bost.

Diolch ac fe anfona i e-bost atoch chi ar ôl i fi ddod nôl o fy ngwyliau - mwynhewch y darllen!
Neges wrth Neil:-

Dw i'n teithio i Lundain yfory i fynd i'r Ŵyl Gwrw yn Earls Court pan dw i wedi gorffen yn y dosbarth Cymraeg yn Altalia. Bydda i’n dod yn ôl ddydd Mawrth. Dw i'n meddwl bydda i’n mwynhau - mae naw cant cwrw i’w trio!

06/08/2007

Sut mae?

Sut mae pawb? Gobeithio eich bod yn mwynhau'r llyfr - beth am anfon neges ata i a galla i ei roi ar y blog drosto chi?
Dyma atebion ar gyfer cwetiynau Pennod 5 a dw i wedi anfon cwestiynau Pennod 6 atoch chi ar e-bost.


Atebion Pennod 5

1. Roedd Debra wedi cysgu’n wael.
2. Roedd e’n ddyn tew, hapus.
3. Roedd annwyd arni hi.
4. Fel arfer mae’r tywydd yn sych yn Leon.
5. Un person gyda’r enw “Lopez” oedd yn byw yn Stryd Menendez, El Pantio.
6. Cafodd Debra frechdan salami a choffi i frecwast.

31/07/2007

Croeso

Mae dau aelod newydd wedi ymuno â'n grwp darllen ni. Felly croeso i Tracy a Ruth! Gobeithio eich bod yn mwynhau'r llyfr.
Atebion cwestiynau Pennod 4.

1. Naddo, cerddodd hi.
2. Roedd ofn arni hi.
3. Y Gran Via yw enw’r brif stryd ym Madrid.
4. Roedd hi’n gwisgo “lipstick” coch. Minlliw yw’r gair Cymraeg am “lipstick”.
5. Roedd pum deg mil o besetas (£300) yn yr amlen.
6. 15 Stryd Menendez, El Pantio yw cyfeiriad Senor Lopez?

Unrhyw newyddion?

Oes unrhywun â newyddion neu luniau i'w rhoi ar y blog. Cofiwch eu hanfon ata i ar e-bost a rhoia i nhw ar y blog drostoch chi. Bydd eisiau i chi wneud hyn cyn 14 Awst - bydda i'n mynd bant ar fy ngwyliau!

24/07/2007

Atebion cwestiynau Pennod 3, Perygl yn Sbaen


1. Fflat 2, 33 Stryd Laredo oedd cyfeiriad Susan.

2. Aeth Debra at flat Susan ar y metro.

3. Roedd gwallt Debra yn goch.

4. Roedd y golau’n awtomatig.

5. Roedd hi wedi bwriadu gwigo ffrog las.

6. Roedd hi wedi cael ei saethu.


Cawson ni noson hyfryd yn Altalia nos Iau diwetha. Mwynheuodd pawb y gwin coch, y gwin gwyn, y lagyr ac wrth gwrs yr armanac. Roedd pawb yn hapus i weld Lowri eto ac fe wnaeth bawb fwynhau eu sgyrsiau Cymraeg.
Atebion cwestiynau Pennod 3, Perygl yn Sbaen


1. Fflat 2, 33 Stryd Laredo oedd cyfeiriad Susan.

2. Aeth Debra at flat Susan ar y metro.

3. Roedd gwallt Debra yn goch.

4. Roedd y golau’n awtomatig.

5. Roedd hi wedi bwriadu gwigo ffrog las.

6. Roedd hi wedi cael ei saethu.

19/07/2007

Atebion cwestiynau Pennod 2

1. Betty oedd y mwya cyfoethog.
2. Roedd arian ‘da hi i’w losgi ac roedd hi’n gwisgo ffrog newydd bob dydd – roedd digon o arian ‘da hi.
3. Roedd Betty’n dod yn wreiddiol o Lundain.
4. Roed trên Betty am bump o’r gloch.
5. Prynodd hi’r tocyn y bore ‘na.
6. Roedd ffrind Betty’n byw ger Sgwâr Quevedo.
7. Rhoiodd Betty pum mil o besetas i Debra.

11/07/2007

Atebion i waith cartref 28 Mehefin

1. Roedd Debra wedi dod i Sbaen i edrych am waith.
2. Collodd hi ei swydd yn y bar gan fod y twristiaid wedi mynd adre'.
3. Roedd Betty'n yfed Coca Cola fe arfer yn y caffi.
4. Roedd y tywydd yn braf.
5. Roedd hi'n ddau o'r gloch.
6. Roedd cloch yr eglwys yn taro.
7. Roedd hi wedi astudio ieithoedd yn y brifysgol.

27/06/2007

Dosbarth Altalia


Dosbarth Altalia yn mwynhau sgwrs a cappuccino yn ystod eu gwers Gymraeg