11/12/2009











Parti Nadolig y dosbarth - lluniau a neges Caryl
Cawson ni noson hyfryd yn nhafarn y Caulfield ym Mhorth Tywyn neithiwr. Roedd Neil yn edrych yn smart iawn gyda'i 'sgidiau coch. Roedd y bwyd yn wych. Cafodd Gareth drwg a Gareth drwg (ambell waith) stecen, cafodd Neil gamwn, cafodd Caroline fwydd llysieiol a ches i bysgod a sglodion. Cafodd Mike ac Allan gril cymysg - roedd y platiau'n enfawr ond dw i'n credu mwynheuon nhw'r bwyd. Doedd dim lle 'da nhw am bwdin ond ces i a Gareth crymbl mwyar ac afal.
Nadolig llawen a Blwyddyn newydd dda i bawb a gwela i chi nos Iau, 7 Ionawr.

07/12/2009


Neges Neil
Nos Wener, aeth Gareth a fi i'r 'Hen Bont’ yn Llangennech gyda ein ffrindiau Neil a Diana a fy chwaer Eileen (a’u partneriaid) i swper.
Cawson ni fwyd da, gormod o win coch a lot o hwyl mewn cwmni da iawn. Dw i'n meddwl ein bod wedi mwynhau’r noson.
Wythnos diwetha, prynais i anrheg Nadolig i fi fy hunan. (Wel dau). Lori Ffoden gyda lifrau 'Llynges Brenhinol - Ysgol Torpedo, H.M.S. Vernon' ac un arall, ambiwlans Ffoden gyda lifrau 'Llynges Brenhinol' hefyd. Maen nhw'n modelau prin iawn, dim ond 50 cafodd eu gwneud. Nawr - mae H.M.S. Vernon yn ganolfan siopa! (Pam ddylai Prydain grynu eh?)
Hefyd, dw i wedi bod brysur yn ysgrifennu fy nghardiau Nadolig a lapio anrhegion yn barod am Nadolig. Dw i'n mynd i weld fy wyrion penwythnos nesa yn Nghaint.

06/12/2009

Neges Caryl - Dydd Sadwrn hyfryd
Es i Gaerdydd ddoe i weld "Only Men Aloud". Dyma lun ohonyn nhw'n canu carolau.
Aethon ni i Gaerdydd yn syth ar ôl cinio - aeth Max at fy mab Aled am y dydd. Roedd Aled a'i gariad a dau ffrind arall yn cael eu cinio Nadolig, felly aeth Max i ymuno yn y parti!
Cwrddodd fy ngwr a finne ein ffrindiau mewn tafarn yng Nghaerdydd cyn y cyngerdd am gwpwl o wydraid o win. Gorffennodd y cyngerdd am 10.30 ac aeth y deg ohonon ni am bryd o fwyd Eidalaidd. Cyrhaeddon ni adre tua 2 o'r gloch fore Sul - ro'n i wedi blino ond wedi mwynhau'r diwrnod.
Gwela i bawb nos Iau am barti Nadolig y dosbarth.

04/12/2009

Neges Eileen
Sut mae Bawb?
Edrychais i ar y gem rygbi dydd Sadwrn diwetha, a ro'n i'n meddwl bod Awstralia mewn dosbarth gwahanol i Gymru. Aethon ni i Barc Trostre prynhawn dydd Llun. Roedd y lle yn brysur iawn. Bydd hi'n mynd yn waeth pob dydd tan Nadolig, siwr o fod.

02/12/2009

Neges Neil
Penwythnos diwetha daeth fy wyres a gor wyr i weld fi o Coventry cyn Nadolig. (NAGE - dwi'n rhy ifanc!!!). Arhoson nhw trwy'r penwthnos ac aethon nhw yn ôl adref ddydd Sul. Nos Wener, aethon ni ma’s i Westy’r Diplomat yn Felinfoel i ginio. Roedd e'n hyfryd iawn i’w gweld nhw eto. Sa i wedi’u gweld nhw am bum mis.
Y bore 'ma, (dydd Mawrth) roedd rhaid i fi fynd at y deintydd a thynnodd e ddau ddant. Felly - wrth gwrs, i ginio heno, byddaf i'n cael pasta meddal! Ar ôl i fi ddod ma’s o'r deintydd - ces i wers golff yn Nhrimsaran. Roedd Gareth (da iawn nawr?) 'na hefyd.
Y bore fory, dw i'n mynd i Lantrisant i weld ffrind a falle af i i siopa ym Mharc Sarn am anrhegion Nadolig hefyd.
Neges Mike

Es i ddim yn unman dros y penwythnos. Dydd Gwener ro’n ni gofalu am ein hŵyr ac ŵyres, nos Wener ro’n ni wedi blino! Bore Dydd Sadwrn es i i’r clwb ffitrwdd, fel arfer. Prynhawn dydd Sadwrn, gweithias i yn yr ardd, roedd y tywydd yn ddiflas ond roedd rhaid i fi blannu bwlbiau Cennin Pedr cyn y Nadolig! Ro’n i’n wlyb! Nos Sadwrn es i i’r clwb i gweld sioe, roedd merch yn canu - dim ond eitha dda, roedd y cwrw’n well. Am Dydd Sul, ymwelodd fy nhri mab i ginio a dau ŵyr hefyd. Cinio swnllyd! Gwnes i’r gwaith cartref a’r blog nos Sul.


Neges Gareth newydd (drwg ambell waith)

POENUS. Dyna’r unig ffordd i ddisgrifio Cymru yn erbyn Awstralia ar ddydd Sadwrn diwetha. Ond mae rhaid i ni longyfarch Awstralia am ddangos i ni’r ffordd i chwarae rygbi nawr.
Heddiw mae fy ngwraig a fi wedi bod ar ein beiciau ar y ffordd arfordirol.
Mwynheuon ni ddiwrnod braf. Dw i’n ysgrifennu’r blog yma tra bod fy ngwraig yn edrych ar ' Strictly ' ar y teledu. Dw i'n casau 'Strictly'
a 'X factor'. Dw i wedi darganfod Elin Fflur ar YouTube yn canu 'Colli iaith ' - cyfareddol !


Neges Allan

Mae flin 'da fi am ddim dod i'r dosbarth Cymraeg ar nos Iau diwetha. Roeddwn i'n llawn anwyd.Es i i barti penblwydd a penblwydd Priodas Aur nos Fawrth diwetha yng Ngholfan Selwyn Samuel. Roedd e'n benblwydd ar fy nhad yng nghyfraith. Roedd e'n wyth deg mlwydd oed ar ddydd Mawrth. Roedd hefyd yn benblwydd Priodas Aur fy rhieni yng nghyfraith.Roedd popeth yn mynd yn iawn yn y dechrau ond yna roedd newyddion drwg. Roedd modryb, Gaynor wedi cael trawiad (strôc), cyn dod i'r parti ac roedd rhaid iddi hi fynd i'r ysbyty yng Nghaeerfyrddin. Roedd y dathlu’n dawel ar ôl hyn achos roedd pawb yn becso am fodryb Gaynor.Mae newyddion da nawr achos mae modryb Gaynor yn gwella.


Neges Gareth (drwg)

Yr unig newyddion sy’n ‘da fi heddiw yw, mae Richard fy mab ifanca wedi cael lle i rhedeg ym Marathon Llundain, dros blant â Leukaemia. Rhedodd fy ngwraig a fi yr un ras un mlynedd ar hugain yn ôl, bydd rhaid iddo fe ymarfer yn galed dros y misoedd nesa’ dw i’n credu!.Oh! cafodd Neil dau ddant allan bore ‘ma, ond cafodd e wers golff ar ôl, felly mae e siŵr o fod yn iawn.





26/11/2009

Neges Scott
Yr wythnos hwn, licwn i fod wedi ymlacio mwy achos roedd y tywydd yn ddrwg, ond doedd e’n ddim yn bosibl!
Nos Wener, es i gyda fy ffrindiau i Gaerdydd i weld sioe comedi gan Eddie Izzard. Roedd hi’n noson ardderchog. Mwynheuais i yn fawr iawn - digon o hwyl!
Bore Dydd Sadwrn, helpais i gyda’r Clwb Rhedeg yn paratoi y cwrs am y râs y dydd nesa ym Mharc Gwledig Penbre. Ofnadwy! Roedd y tywydd yn rhy wyntog, stormus a gwlyb. Ar ôl i fi helpu ma’s, es i adre i weld y gêm rygbi rhwng Cymru ac Ariannin.
Bore Dydd Sul, ro’n i nôl ym Mhenbre, i helpu trefnu’r râs. Roedd tua tri-chant o redwyr yn y râs o dros Cymru gyfan, yn cystadlu yn y tywydd ofnadwy eto. Ron i’n helpu ma’s ar y traeth – stormus iawn, gyda gwyntoedd cryf tua 75 milltir yr awr, ond… mwynheuais i!!!
Y penwythnos nesa bydda i’n mynd i Newcastle i weld y gêm pêl droed rhwng Newcastle ac Abertawe – dw i’n edrych ymlaen!

Neges Laura
Es i i weld Carnifal y Nadolig yn Llanelli Nos Wener gyda fy ngŵr i a fy mab i. Roedd y tywydd yn sych-diolch byth! Roedd y tân gwyllt yn ardderchog a gaethon ni amser da. Es i i siopa yn Tesco bore dydd Sadwrn ac yn y prynhawn es i a'r mab i'r sinema i weld y ffilm 'A Christmas Carol'. Aethon ni ddim i unman Dydd Sul achos roedd y tywydd yn ofnadwy!

25/11/2009

Neges Gareth (drwg)
Mae’r tywydd wedi bod yn ofnadwy dros y penwythnos, bwrw glaw a gwyntog trwy’r amser. Arhosais i yn y tŷ dydd Sadwrn, ond es i ma’s i’r gampfa bore dydd Sul. Dydd Llun es i i’r cyfarfod rasys yn Ffos Las gyda fy nheulu i, cawson ni bryd o fwyd yn y tŷ bwyta cyn i’r ras gyntaf ddechrau. Ro’n ni’n gallu sefyll yn y tŷ bwyta trwy’r prynhawn, roedd e’n gyfleus iawn achos roedd y tywydd yn rhy oer a gwyntog i sefyll ma’s trwy’r prynhawn. Enillais i ddim, ond mwynheuais i y prynhawn gyda fy nheulu i.

Neges Gareth (newydd)
Mae fy merch ifanca, sy'n byw ym Mhorth Tywyn gyda ei theulu yn disgwyl babi ym mis Ebrill nesa. Clywon ni dros y penwythnos diwetha bydd y babi yn fachgen. Cafodd fy merch scan yn yr ysbytty yn Llanelli. Bydd e’n frawd i Haf a bydd e'n mynd i ysgol Parc y Tywyn fel ei chwaer.
Wedyn bydda i'n ymarfer mwy o'r iaith!
Do'n i ddim wedi mynd ma’s neithiwr i westy’r George i weld dysgwyr eraill achos roedd fy ngwraig yn sâl ar ôl cael pigiad ffliw. Chysgon ni ddim yn iawn dros nos Lun. Mae hi'n well nawr.

24/11/2009

Neges Neil
Ha ha ha
Mae Gareth mewn trwbwl mewn bwncer (ETO) ar y cwrs golff yn Nhrimsaran.

WPS. Siaradais i’n rhy fuan. Nawr dw i mewn trwbwl hefyd!

Dydd Gwener diwetha es i i'r ocsiwn yng Nghross Hands a phrynais i eitemau i werthu ar e-bay. Gobeithio fy mod yn gallu gwneud elw pan dw i'n eu gwerthu nhw.
Heddiw (Dydd Mawrth) dw i'n mynd at y deintydd y bore 'ma a'r nyrs y prynhawn 'ma ar gyfer fy mhigiad fliw moch.
Y penwythnos 'ma, mae fy wyres yn dod o Coventry i ymweld â fi. Dw i'n edrych ymalen i'w gweld hi.

















23/11/2009






Neges Caryl
Ddoe, es i, Dyfrig ac Aled i Fryste i weld fflat newydd Emyr. Wrth gwrs daeth Max 'da ni a dyma cwpwl o luniau ohono fe.
Cawson ni ddiwrnod hyfryd. Coginiodd Emyr gyw iâr i ginio a daeth cariad newydd Emyr, Izzi draw i gael cinio 'da ni hefyd. Es i â phwdin 'da fi ar gyfer y cinio - dwy gateaux (un siocled ac un mefys).

Neges Victoria
Es i i Barc Gwledig Penbre dydd Sul diwetha, gyda’r plant a fy nith a nai i. Roedd y tywydd yn wyntog, a chawson ni hwyl yn hedfan barcud. Aethon ni i’r lle chwarae ac wedyn mwynheuodd y plant ddringo coeden! Mae Owain yn rhy fach i ddringo coeden eto, felly mwynheuodd e daith yn y buggy yn lle!
Dw i’n brusur heddi achos dw i’n neud tamaid bach o addurno yn y tŷ.
Neges Eileen
Aethon ni i'r feddygfa ddoe, i gael pigiadau "ffliw moch". Byddwn ni’n mynd i Rydaman yfory, os bydd y tywydd yn braf. Mae'r gwynt yn uchel iawn yng Nglanymor ar hyn o bryd. Mae Andrew wedi dal drws y car i fi, i’w stopio fe i chwythu i ffrwdd.
Neges Mike
Es i i dafarn Caulfields Nos Iau diwetha. Archebais i ford i bymtheg o bobl ar y degfed o fis Rhagfyr, cinio Nadolig y dosbarth Cymraeg. Dros y penwythnos es i i gadw’n heini yng Nghlwb Ffitrwdd MW ym Mharc y Trostre ac edrychais i ar y teledu brynhawn dydd Sadwrn, roedd Cymru’n chwarae yn erbyn Ariannin. Ennillod Cymru ond bydd rhaid i Gymru chwarae’n well os ydyn nhw’n mynd i ennill yn erbyn Awstralia.’Fory, a’i at y deintydd, rhaid i fi dynnu dant ma’s.

18/11/2009

Neges Neil
Wel! Mae'r tywydd wedi bod mor ofnadwy dw i ddim yn wedi chwarae golff ers dydd Llun diwetha. Heddiw, ces i wers golff yn Abaty Glyn yn Nhrimsaran. Roedd hi’n wers dda iawn. Dw i'n meddwl fy mod i wedi dysgu rhywbeth (o'r diwedd) - mae'r chwaraewr proffesiynnol (Mike) yn dda iawn.
Penwythnos diwetha, es i i'r clwb golff am noson wobrwyo. Yn anffodus roedd Julie a Lorraine wedi cael gormod o win coch ac roedd rhaid i fi fynd â nhw i fyny.
Heddiw dw i wedi archebu ceir model newydd.
Ddydd Iau dw i'n mynd 'da Vivienne (fy ffrind) i chwilio a phrynu teledu newydd iddi hi.

Neges Allan
D'on i ddim wedi gweld Cymru'n curo Western Samoa ar nos Wener. Es i weld sioe gan blant Ysgol y Strade yng Nghanolfan Adloniant Llanelli. Enw'r sioe oedd "Crotchet." Roedd popeth yn Gymraeg ac roedd hi’n sioe arbennig. Roedd hi’n ddoniol iawn ac roedd y canu'n dda iawn hefyd yn enwedig achos dim ond plant oedden nhw. Y peth gorau oedd r'on i'n deall beth oedd yn digwydd yn y sioe trwy'r amser.

17/11/2009

Neges Gareth (newydd)
Edrychais i ar lawer o rygbi ar y teledu dros y penwythnos. Roedd Cymru yn erbyn Samoa a'r Gweilch yn erbyn Caerfaddon yn ddiflas, fel y tywydd! Mwynheuais i Iwerddon yn erbyn Awstralia yn arbennig y dauddeg munud olaf.
Ond pam bod y chwaraewyr yn cicio cymaint. Mae angen iddyn nhw redeg mwy gyda'r bel. Bydd Cymru yn angen hynny yn erbyn Yr Ariannin y penwythnos nesa. Gallwn ni obeithio!

Neges Mike
Dros y penwythnos es i dafarn Caulfields a thafarn “The Cornish Arms”. Gwaith caled!
Mae’r dosbarth Cymraeg eisiau mynd i dafarn am bryd Nadolig. Rhaid i fi acherbu bwrdd erbyn y penwythnos nesaf. Mae dwy garden fwyd ‘da fi a do’i â’r ddwy garden fwyd i’r dosbarth Cymraeg Nos Iau.
Carden fwyd “The Cornish Arms” yw’r ddruta. Er enghraifft: Mae Gammon stake yng Nghaulfields yn £6.95, ond yn y Cornish Arms y pris yw £12.95, ond mae’r Cornish Arms yn lle neis. Mae fy ngwraig yn mynd i’r Cornish Arms heno gyda ei ffrindiau. Bydda i’n gwybod mwy erbyn Nos Iau.

Neges Gareth (drwg)
Es i lan i weld ‘Y Reds’ yn erbyn ‘Y Seintiau’ yn Stebonheath ar brynhawn dydd sul, roedd ‘Y Reds’ y collwr ar y dydd, collon nhw y gêm 2-0, Roedd ‘Y Seintiau’n rhy dda iddyn nhw ar y dydd. Es i i’r gampfa bore ’ma, wedyn aeth fy ngwraig a fi i ganol y dref i siopau cyn daethon ni adref.

16/11/2009

Neges Allan
Roedd hi'n noson hwyr i mi nos Wener. Roedd rhaid i mam fy ffrind, Steve, fynd i'r ysbyty mewn ambiwlans.Roedd fy ffrind yn rhy sâl i fynd i'r ysbyty, dyna pham es i i gwrdd â'r ambiwlans. Ar ôl i'r meddyg weld mam Steve roedd rhaid i fi fynd â thad Steve adref i Borth Tywyn.Roedd e'n hanner awr wedi pedwar bore dydd Sadwrn pryd es i i'r gwely. Roedd rhaid i mi godi am hanner awr wedi wyth i fynd â fy nghar i'r garej. Roeddwn i wedi blino’n lân.

Neges Scott
Dydd Sadwrn diwetha, es i i’r dafarn i wylio llawer o chawaraeon. Yn gyntaf, gwelais i’r gêm bêl droed rhwng Dinas Abertawe a Chaerdydd. Roedd y gêm yn gyffrous, enillodd Dinas Abertawe.
Ar ol y pêl droed, gwelais i’r gem rygbi rhyngwladol - Cymru yn erbyn Seland Newydd – roedd y gêm hon yn ddiflas iawn, collodd Cymru’r gêm. Beth bynnag, y flwyddyn nesaf…
Ar Ddydd Sul, es i i gwrs hyfforddi athletau ym Mhrifysgol Abertawe. Y rheswm yw achos dw i’n moyn bod hyfforddwr athletau yn y dyfodol. Roedd y cwrs yn bleserus iawn yn rhoi fi digon o syniadau i fi eu defnyddio.
Y penwythnos hon, bydda i’n ymlacio yn y ty, efallai ymarfer yn y gampfa.

11/11/2009

Neges Caryl
Mae diwrnod bant o'r gwaith 'da fi heddi - dydd Mercher. Mae dau ddyn wedi dod i'r ty i roi eriel newydd yn yr atic fel ein bod yn gallu edrych ar y teledu yn y lolfa, yn y gegin, yn y 'stafell wely ac yn y lolfa newydd.
Gobeithio bod pawb wedi darllen fy neges i - bydda i'n rhoi prawf i chi nos Iau am y neges!!!!
Neges Eileen
Sut mae bawb.
Aethon ni i dafarn y "Stradey Arms" am bryd o fwyd dydd Sul. "Carvery" oedd e gyda thri dewis o gig. Roedd y pris yn chwech punt nawdeg pump ceiniog yn unig. Roedd y bwyd yn dda iawn a byddwn ni'n mynd yno eto yn bendant.
Neges Mike
Dros y penwythnos edrychais i ar lawer o rygbi ar y teledu. Cymru yn erbyn Seland Newydd - gêm galed ond Seland Newydd oedd y tim gorau. Hefyd, edrychais i ar y Scarlets ar y teledu yn erbyn y Harlequins. Roedd y gêm yn gyfartal. Roedd tim ifanc gyda'r Scarlets a chwaraeon nhw'n dda iawn. Mae fy wyr ac wyres ar wyliau yn Florida am bythefnos - dw i wedi ymddeol yn wir!
Dydd Llun, aethon ni - fy ngwraig a fi i Gaerdydd. Aethon ni i Ganolfan Dewi Sant. Mae pob math o siopau yn y ganolfan, Roedd fy ngwraig ym mharadwys, ro'n i yn uffern dw i'n credu! Jôc , wrth gwrs!
Neges Gareth (drwg)
Penwythnos diwetha ces i amser tawel yn y ty dros ddydd Sadwrn a dydd Sul. Chwaraeais i golff bore ddoe gyda fy ngwraig Jackie a fy ffrindiau Neil a Diana. Roedd y tywydd yn braf iawn ond roedd y cwrs golff yn wlyb iawn. Heddiw dw i'n gwneud fy ngwaith caretref, dw i wedi bod i'r gampfa cyn dechrau fy ngwaith cartref, amser nawr i ynlacio a cymryd amser dros fy ngwaith.
Neges Gareth (newydd)
Roedd Grwp Opera Porth Tywyn yn perfformio yr opera La Tarviata yn Neuadd Goffa Porth Tywyn wythnos diwetha. Ro'n i yn y côr a mwynheuais i'r wythnos. Cawson ni barti buffet yn nhafarn y Caulfields ar nos Fercher, digon o gwrw yng Nghwesty'r George nos Wener a physgod a sglodion ar ôl y sioe nos Sadwrn yn y Neuadd. Mae llawer o'r bobl yn y grwp yn siarad Cymraeg felly dw i wedi bod yn ymarfer fy Nghymraeg.

Neges Neil
Wythnos diwetha es i i weld "Another Night of Queen" gan Gary Mullen a "The Works" yn y Grand yn Abertawe. Es i â Vivienne, fy ffrind o Fynyddcerrig. Wel - wrth gwrs doedd e ddim mor dda â "Freddie" ond roedd e'n eitha da.
Hefyd, dw i wedi cwpla peintio fy waliau (o'r diwedd). Maen nhw'n hollol "burnt paprika"!
Ddydd Llun chwaraeais i golff 'da Gareth (drwg) (eto) ond heddiw - mae hi'n bwrw glaw - felly dim golff! (Dim ond golffwr tywydd braf dw i). Sa i'n meddwl bydda i'n chwarae golff cymaint nawr mae'r tywydd yn waeth nes i fi ddod yn ôl o India'r Gorllwin.
Dw i newydd brynu oergell gwin newydd - felly 'fory rhaid i fi aros gartre i'w dderbyn e (a sa i'n yfed gwin gwyn hyd yn oed).

09/11/2009

Neges Allan
Ro'n i ar wyliau hanner tymor wythnos diwetha. Ar ddydd Llun es i i Borth Tywyn i helpu fy chwaer symud tŷ. Roedd hi'n symud nôl i Poole yn Dorset. Ar ddydd Iau teithiais i, gyda Gaynor, i Gaerdydd. Arhoson ni yng ngwesty'r Copthorne am ddwy noson. Gadawon ni'r car ym maes parcio'r gwesty a dalon ni'r bws i ganol y ddinas. Cawson ni ddigon i fwyta ac yfed heb boeni am yrru nôl i'r gwesty.

Dwy neges wrth Scott
Yn ystod y hanner tymor, es i ddim i unman achos roedd rhaid i fi fynd i’r gwaith bob dydd...
...ond, gwelais i gyngerdd yn Arena Rhyngwladol Caerdydd Nos Sul diwetha. Roedd e'n ardderchog.
Bob nos, peintiais i’r ystafell sbar achos mae digon i wneud yn y tŷ – dw’n meddwl bydda i’n rhoi’r tŷ ar werth yr haf nesa, felly dwi’n trio gwneud y ty yn fwy .
Es i i redeg fel arfer – es i dairgwaith yn ystod yr wythnos, dros pedwar deg milltir.
Y flwyddyn nesa, dw i’n moyn mynd i rywle yn ystod y gwyliau, falle Iwerddon neu Ffrainc.



Yr wythonos hon, bydda i’n ddechrau nôl yn fy nosbarth Cymraeg nos Iau nesa.
Ar ddydd Mercher, es i i gyfarford gwaith yn Llandrindod Wells. Roedd y cyfarfod yn iawn, ond mwynhauais i’r daith traws gwlad. Dylwn i fod wedi bod yn yrrwr rali!
Nos yfory, baswn i’n ymlacio o flaen y teledu ond sa i’n siwr ar hyn o bryd achos gallwn i mynd ma’s yn lle. Mae’n dibynnu ar fy ffrindiau.
Ar y penwythnos, dylwn i fod wedi bod yn mynd i Gaerdydd i wylio’r gêm rygbi ond mae rhaid i fi aros gatre achos does dim arian ‘sa fi! Roedd rhaid i fi werthu fy nhocyn.
Nawr bydda i’n gwylio’r gêm ar y teledu yn lle, ond bydda i’n prynu pryd of fwyd i fwyta hefyd.

Neges Hayley
Dyma fi o'r diwedd.
Dw i wedi bod yn brysur iawn yn y gwaith dros yr ychydig o wythnosau diwethaf.
Es i i Aberystwyth ddoe. Gorfod i mi godi'n gynnar, oherwydd bod rhaid i mi fod yna erbyn deg o'r gloch y bore.
Cwrddais i ag ychydig o ffrindiau am bryd o fwyd neithiwr. Aethon ni i'r Golden Dragon (y Ddraig Aur) yn Llanelli. Ces i gyri cyw iar blasus iawn. Bydd rhaid i mi fynd nawr- 'rwyf ar gwrs diflas iawn prynhawn yma.

04/11/2009

Neges Gareth (drwg)
Ddigwyddodd ddim llawer o bethau dros hanner tymor. Ces i fy mhenblwydd i ar ddydd Iau diwetha, aeth fy ngwraig â fi ar y trên i Ddinbych-y-Pysgod am y dydd, cwrddon ni â’n merch, mab-yng-nghyfraith a’n hŵyr ni, buon nhw yn sefyll yn Nynbych-y-Pysgod dros hanner tymor. Aethon ni i gyd ma’s am bryd o fwyd, roedd e’n hyfryd iawn, ces i benblwydd da.

03/11/2009

Neges Mike
Dros y penwythnos diwetha es i i Barc y Scarlets (Nos Wener). Roedd y Scarlets yn chwarae yn erbyn y Dreigiau yng Nghyngrair Magners. Chwaraeodd y Scarlets yn well ac ennillon nhw 18 - 3. Cafodd dim cais ei sgorio, dim ond ciciau cosb. Doedd y Dreigiau ddim yn hoffi chwarae! Ar ddydd Sadwrn es i i Glwb Ffitrwydd MC i gadw’n heini am wyth o’r gloch yn y bore. Am ddeg o'r gloch es i i siopa gyda fy nghwraig, ond yn gyntaf, yfais i latte mawr yn M&S.
Yn y prynhawn edrychais i ar y rygbi ar y teledu. Roedd Caerdydd yn chwarae yn erbyn y Gweilch. Eto, collodd y Gweilc - trist! Ar Nos Sul bues i yn nhafarn Pemberton ym Mhorth Tywyn. Dydd LLun a Dydd Mawrth gofalodd fy nghwraig a fi am fy wyrion. Penwythnos nodweddiadol!

Neges Eileen
Sut mae bawb.
Es i i’r llyfrgell bore 'ma. Edrychais i ar y silffoedd gyda'r llyfrau ar y sel am ugain ceiniog yr un. Roedd un o'r llyfrau yn Gymraeg, felly prynais i hwnna. Bydda i’n ymarfer darllen dros hanner tymor.

Neges Gareth (newydd)
Mwynheuais i’r lluniau ar y blog o fabi newydd Victoria a'ch ci newydd. Cafodd fy ngwraig a fi amser prysur dros tri diwrnod wythnos diwetha. Roedd ein dau wyr yn aros gyda ni. Mae llawer o egni gyda nhw. Aethon ni â nhw i seiclo ar y ffordd arfordirol a chwarae ar y traeth ac yn y parc gwledig ym Mhembre. Es i â nhw i Childs Play yn Llanelli ar fore dydd Mercher achos roedd y tywydd yn ofnadwy. Penderfynodd y ddau fachgen i saethu eu sanau mewn gwn yn Childs Play. Doedd y rheolwr ddim yn hapus! Cymrodd fy ngwraig a fi dau ddiwrnod i wella ar ol eu hymweliad!

Neges Neil
Wel! Beth wnes i yn ystod hanner tymor? Dw i'n gallu dweud wrthoch chi beth do'n i ddim wedi gwneud! Mae eisiau glanhau a pheintio fy wal o hyd achos ddydd Llun - chwaraeais i golff 'da Gareth; dydd Mawrth - chwaraeais i golff 'da Gareth; dydd Mercher - chwaraeais i golff 'da Gareth a dydd Iau - chwaraeais i golff 'da Gareth.
Ddydd Gwener, es i i'r ocsiwn yng Nghross Hands - ond phrynais i ddim byd.
Nos Sadwrn - es i a fy wyrion i Masala yn West End i gael cyri. Roedd e'n hyfryd iawn (a phoeth iawn).

29/10/2009

Ci bach newydd
Cyrhaeddodd Max nos Wener diwetha. So fe'n fawr iawn ar hyn o bryd ond mae e wedi tyfu'n barod. Mae'n e'n mwynhau chwarae gyda'i siarc ac yn hoff iawn o gysgu ar sliperi fy mab!
Aethon ni â fe am dro ar y traeth yn Llanelli heddi ond doedd e ddim eisiau cerdded yn bell. Cwrddodd e â llawer o bobl ac un ci arall o'r enw Rosie. Cafodd e sglodion i ginio heddi a bydd e'n cael bisgedi amser te.





22/10/2009

Neges Scot
Nos Wener diwetha, es i gyda ffrindiau i weld sioe gomedi yn Theatr Abertawe, gyda’r comediwr Rhod Gilbert. Roedd e'n gomediwr ardderchog.
Dw i'n credu, yn wreiddiol, ei fod e’n dod o Gaerfyrddin, ond so fe'n gallu sairad Cymraeg.
Roedd e'n ddoniol iawn - roedd y tŷ yn llawn yna a dw i'n meddwl bod mwyafrif y bobl wedi mwynhau'r perfformiad.
Yn ddiweddar, dw i wedi bod yn gweithio’n galed yn y gwaith - digon i wneud ar hyn o bryd!
Y penwythnos hwn, dw i'n edrych ymlaen at ymlacio tu flaen i’r teledu.

Neges Victoria
Sut mae bawb!
Anfonais i e-bost at Caryl wythnos diwetha i ddweud mod i’n moyn cofrestu ar y cwrs. Bydda i’n dilyn y llyfr gartre, a bydd Caryl yn anfon y gwaith cartref ata i bob wythnos. Dw i’n gobeithio dod nôl i’r dosbarth ar ôl Nadolig.
Gobeithio bod pawb yn iawn. Mae Owain wedi dechrau gwenu nawr…dyma ffoto i chi i’w weld!
Neges Caryl
Sa i'n gallu aros am 'fory. Bydda i'n casglu fy nghi bach newydd am 3.30 ddydd Gwener. Dw i wedi paratoi popeth yn y tŷ - prynais i fwyd, gwely a theganau iddo fe ddydd Sul diwetha. Prynnodd fy nhŵr lyfr i fi yn esbonio sut i edrych ar ôl gŵn bach a sut i'w hyfforddi - gawn ni weld!!!!!
Neges Allan
Gweithiais i yn yr ardd ar Ddydd Sadwrn achos roedd y tywydd yn braf. Torrais i'r lawnt am y tro olaf eleni, dw i'n gobeithio. Ar Nos Sadwrn es i gyda fy ngwraig, fy nwy chwaer a fy nith i'r "Cornish Arms" ym Mhorth Tywyn am bryd o fwyd. Roedd y lle yn brysur iawn. Cwrddais i â llawer o ffrindiau doeddwn i ddim wedi gweld am sbel. Ces i bysgod i fwyta ac roedden yn flasus iawn.

21/10/2009




Gwyliau Neil
Wythnos diwetha, ro'n i'n AR fy ngwyliau yn y Balkans. (Montenegro, Albania a Chroatia). Ro'n i'n aros yn Budva (Montenegro) a theithio i Albania a Chroatia o 'na.

Roedd y tywydd yn newidiol gyda llawer o law a gwynt (arbennig o Budva) a heulwen man hyn a man draw.
Mae’r llun cyntaf o Hen Dre Budva. Roedd y tywydd yn fy atgoffa o Lanelli.

Pan aethon ni i Albania, roedd rhaid i in groesi y bont 'ma AR ein bws!!!!!!! Mae Albania yn newid yn gyflym iawn. Cafodd llawer o ffyrdd newydd eu hadeiladu ac maen nhw’n moyn llawer o ymwelwyr i fynd ‘na nawr. (Mae’r tai bach yn lan iawn).

Hefyd aethon in i Dubrovnik yn Croatia, Mae’r hen ddinas yn hardd iawn. Cafodd di ei difetha’n wael iawn yn rhyfel Croatia/Serbia (1991 - 1995). Bomiodd Serbia Dubrovnik o’r bryn 'ma

20/10/2009

Neges Mike
Beth am y Scarlets ddydd Sadwrn diwetha!! Roedd Gwyddelod Llundain yn disgwl ennill yn hawdd. Enillodd y Scarlets 27-25 yn Llundain yng Nghwpan Heineken. Mae’r Scarlets ar ben eu grwp nhŵ. Mae tim ifanc ‘da ni yn Llanelli. Mae’r dyfodol yn ddisglair? Bydd y gem nesaf ym mis Rhagfyr yn erbyn Leinster. Enillodd Leinster Cwpan Heineken y llynedd. Bydd hi’n gêm anodd.

Neges Gareth (drwg)
Digwyddodd llawer o bethau dros y penwythnos, enillodd "Y Reds"ac wedyn enillodd "Y Scarlets" brynhawn dydd Sadwrn. Fore dydd Sul chwaraeodd fy wyr i dros "Camford" dan wyth mlwydd o oedran. Sgoriodd Rio un gôl, chwaraeodd e’n dda iawn a dweud y gwir. Brynhawn dydd Sul chwaraeais i gem o golff gyda fy ngwraig i, enillais i!

Neges Gareth (newydd)
Rhedodd ein merch hena yn hanner marathon Caerdydd ddoe. Aeth fy ngwraig a fi a’n hwyron i weld eu mam yn gorffen ar bwys Neuadd y Ddinas. Nes ymlaen aethon ni i gyd gyda ei phartner i gael cinio ym Mae Gaerdydd. Roedd y tywydd yn braf a mwynheuon ni y dydd yn fawr iawn.

Neges Laura
Es i i Westy’r Celtic Manor dros y penwythnos gyda fy ffrindiau. Aethon ni i ddefnyddio'r spa. Roedd e’n ardderchog! Ymlacion ni ar bwys y pwll nofio ac yn y jacuzzi. Gaethon ni bryd o fwyd yn un o'r tai bwyta yn y gwesty ac roedd y bwyd yn flasus iawn. Daethon ni adre brynhawn dydd Sul.

Neges Eileen
Mae'r cwrs gradd yn mynd yn dda iawn ar hyn o bryd. Rhaid i fi ysgrifennu dau draethawd o ddau fil o eiriau yr un, erbyn diwedd mis Tachwedd. Felly, dim pwysau te. Diolch byth bydd hi’n hanner tymor wythnos nesa. Mae angen llawer o amser arna i i feddwl.

15/10/2009

Gwyliau Allan
Es i Wbert yng Ngheredigion ar fy ngwyliau diwetha'. Es i gyda fy ngwraig, Gaynor. Arhoson ni mewn gwesty am dair noson. Enw'r gwesty oedd "Gwesty Gwbert." Roedd y tywydd yn dwym ac yn heulog. Un diwrnod aethon ni i Fwnt. Roedd e'n lle pert iawn ac roedd yr olygfa'n hardd iawn.

14/10/2009



Gwyliau Mike

Es i i’r Eidal ar fy ngwyliau diwetha. Ymwelon ni â Rhufain,Florence, Assissi, Venice a Pisa. Pisa oeddd y gorau. Ro'n i’n gryf iawn pan ro’n i yn Pisa. Edrychwch ar y llun!
Gwyliau Gareth (newydd)
Es i i’r Eidal ar fy ngwyliau diwetha. Ymwelon ni â Rhufain,Florence, Assissi, Venice a Pisa. Pisa oeddd y gorau. Ro'n i’n gryf iawn pan ro’n i yn Pisa. Edrychwch ar y llun.
Penwythnos Laura
Aethon ni i Frankie & Benny's nos Wener i gael pryd o fwyd. Fore dydd Sadwrn es i siopa i Tesco ac yn y prynhawn es i a'r mab i'r sinema i weld y ffilm 'UP' gyda ei ffrind e - roedd hi'n ddoniol iawn. Wnaethon ni ddim lot dydd Sul dim ond ymweld â fy nhad i,mae e'n mynd nol i Ffrainc ddydd Iau.
Gwyliau Gareth (drwg)
Aeth ein teulu ni i Gyprus ar ein gwyliau diwetha, roedd y tywydd yn braf iawn, awyr las bob dydd. Roedd y lle'n hyfryd a’r bwyd yn ardderchog, digon o welyau haul i bob un ohonon ni, dim codi'n gynnar i ddodi tywelion ar y gwelyau haul cyn yr Almaenwyr. Aethon ni i'r parc dwr sawl tro gyda’n ŵyr ni. Mwynheuon ni bob tro. Roedd y pwll nofio'n dda iawn hefyd. Yr unig beth, roedd e'n ddrud iawn i brynu popeth fel cwrw, gwin a bwyd, os dyn ni’n moyn yr haul mae rhaid i ni dalu ma’s!.
Neges wrth Eileen
Sut mae bawb.
Gobeithio bod chi'n iawn. Mae fy merch tamaid bach yn unig ar hyn o bryd. Mae ei chariad hi wedi mynd i Awstralia, i briodas ei chwaer e. Enw’r priodfab yw Shane - dyna enw priodol i ddyn o Awstralia, on'd ife? p
o.n. Caryl, gwelais i ti a dy fam ar y blog. Dw i'n meddwl dy fod di’n edrych fel dy fam.


Taith Neil

Ar gyfer fy nhaith diwethaf, es i i Blymouth i 'Diwrnodau Llynges' (Navy Days) 'i weld y llongau a chwrdd â’r dynion'. Es i 'da fy ffrind Brian o Chatham a chwrdd a hen ffrind Stevie sy'n byw yn Saltash. Dw i ddim wedi gweld Stevie ers 1978 pan ro'n i'n byw yn Hong Kong. Pan ro'n ni ar lan y cei ro’n ni’n meddwl sut dringai’r gadair olwyn 'na’r ramp?

Does dim amser 'da fi nawr - dw i'n mynd bant i Albania a rhaid i fi bacio!!

08/10/2009

Penwythnos Allan
Dros y penwythnos es i ymweld â fy ffrind Steve yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin. Roedd e wedi cael llawdriniaeth ar ei stumog. Ar Nos Sadwrn cwrddas i â fy ffrindiau yng nghlwb rygbi Ffwrnes i ddweud sut roedd Steve a ches i un neu ddau beint hefyd. Ar brynhawn Dydd Sul es i am dro gyda fy ngwraig, Gaynor ar y ffordd arfordirol. Roedd y tywydd yn braf iawn.

06/10/2009

Penwythnos Gareth (drwg)
Sut mae bawb,
Wel, does dim llawer o newyddion 'da fi am y penwythnos diwethaf. Bore dydd Sadwrn gwnes i fy ngwaith cartref Cymraeg. Yn y prynhawn edrychais i ar y teledu.
Dydd Sul ro'n i'n gweithio yn yr ardd trwy'r dydd, tacluso'r ty gwydr a.y.y.b. cyn y gaeaf, wel dyna fe.
Penwythnos Neil
Ddydd Iau diwetha, casglais i fy nghar newydd o Gross Hands. Prynais i Nissan Micra SE 1.4 Automatig. Y lliw yw arian. Dw i'n hapus iawn gyda'r car, mae e'n gyrru'n dda iawn.

Prynhawn ddoe, es i i arwerthiant yn Cross Hands i weld os oedd unrhywbeth ro'n i eisiau'i brynu, i werthu ar e-bae, i ennill elw. Yn anffodus doedd dim byd diddorol 'na.
Ddydd Llun, byddaf i'n mynd i Tesco a Marks a Spencer yn Fforestfach i brynu trowsus newydd yn barod i fynd ar fy nghwyliau dydd Sadwrn nesa (falle byddaf i'n gweld Tony yn Tesco).

Penwythnos Gareth (newydd)
Ymarferais i gyda Grwp Opera Porth Tywyn ddwywaith wythnos diwetha. Dyn ni'n paratoi i berfformio La Traviata gan Verdi yn Neuadd Goffa Porth Tywyn fis nesa. Bydd hi'n brysur yn ystod yr wythnosau nesa pan dyn ni'n ymarfer ar y llwyfan. Bydd yr opera yn cael ei gynnal dim ond tair noswaith diolch byth!

Hanes Eileen
Dw i wedi dechrau cwrs gradd rhan-amser, yn yr "Humanities". Bydda i'n mynd i Foothold yn Stebonheath bob bore Dydd Llun. Ar hyn o bryd, mae e'n mynd yn dda iawn. Dw i'n gobeithio bod pawb yn iawn. Gwela i chi Nos Iau.

Penwythnos Mike
Nos Sadwrn diwetha es i i glwb British Legion ym Mhorth Tywyn. Gwelais i Owen Money. Mae Owen Money yn gomediwr Cymreig. Ro’n i’n meddwl i fyddwyn i'n ddim yn ei hoffi e. Ond ces i fy synnu, roedd e‘n llawer o hwyl. Hefyd, roedd y jociau yn lan!

04/10/2009



Priodas yn y teulu
Es i i Brighton dros y penwythnos. Roedd fy nghefnder yn priodi am y tro cyntaf - mae e'n bum deg saith!!! Cawson ni ddiwrnod hyfryd a mwynheuodd bawb. Es i gyda fy nhwr a fy mam.
Dechreuodd y briodas am 3 yn yr eglwys yn Brighton ac roedd brecwast y briodas yn Nhy Parc Stanmer - chawson ni ddim bwyd tan 7 o'r gloch. Ond roedd digon o siampên drwy'r prynhawn a digon o win gwyn a coch drwy'r nos. Gorffennodd y parti am 11.30 a dw i wedi blino'n lan heddi.
Mae'r priodfab â'r briodferch wedi mynd i Florence ar eu mis mêl.

01/10/2009

Penwythnos Allan
Roedd hi'n benwythnos prysur iawn. Dathlon ni benblwydd mam Gaynor. Roedd hi'n wythdeg oed ddydd Sul. Aethon ni i westy Parc y Strade i gael cinio dydd Sul wedyn daethon ni nôl i'n ty ni i dorri'r gacen penblwydd.

29/09/2009

Hanes Gareth (newydd)
Dechreuais i bysgota yn ystod yr haf. Rhoiodd fy merch ifanca wialen i fi am fy mhenblwydd.
Aeth fy ngwraig a fi i bysgota ar y môr, Towyn Bach rhwng Porth Tywyn a Llanelli am saith o'r gloch yn y bore i ddal y penllanw.
Roed hi'n ddiwrnod hyfryd ond roedd y pysgota yn ofnadwy! Tanglodd fy lein ar ôl dim ond fy ail gais.
Bydda i'n ceisio eto yn fuan.

28/09/2009






Penwythnos Neil
Unwaith eto - cafodd bawb amser da ym Mhorthcawl ar Benwythnos Gwyl Elvis. Dyn ni wedi bwcio yn barod ar gyfer y flwyddyn nesa.
Llun 1 - Roc a rôl - un am yr arian (one for the money) ........
Llun 2 - Brandi a choffi am ddeg o'r gloch fore Sadwrn (mae'n draddodiad).
Llun 3 - Mae Elvis yn fyw ac iach ac yn byw ym Mhorthcawl!









Penwythnos Gareth Drwg.
Dydd Sadwrn cafodd Jackie,fy ngwraig i, ei phenblwydd hi. Aeth y teulu i gyd ma's am gyri i dŷ bwyta Masala nos Sadwrn. Roedd y bwyd yn hyfryd iawn, cawson ni amser da iawn hefyd.

24/09/2009



Gwyliau Caryl
Croeso nôl i bawb yn nosbarth Canolradd 1, Ysgol y Strade, nos Iau - mae rhai o'r dosbarth yn posh iawn ac wedi cael llyfrau cwrs newydd. Ond dim ond llungopiau (photocopies) i'r rhai sy heb dalu!!!!!!

Es i i Bortiwgal ar fy ngwyliau 'da fy ngwr. Roedd y tywydd yn ardderchog - yn heulog ac yn dwym iawn bob dydd. Dim glaw o gwbl!!!!
Dyma ni'n mwynhau taith ar gwch - cwch cyflym iawn. Neidion ni o'r cwch i nofio yn y môr.
Yfais i lawer o ddiodydd diddorol bob nos -fel dych chi'n gallu gweld yn y ddau lun cynta'.

24/04/2009


Neil yn Skegness
Y penwythnos cyn diwetha es i i Skegness ar gyfer fy aduniad llynges (HMS Loch Fada).

Ro'n i'n arfer gwasanaethu ar HMS Loch Fada yn Singapore rhwng 1965-1967.

Ar y bwrdd mae fy nghasgliad o fesurau rwm, pwmp rwm, twb rwm , sgriwiau corc a wrth gwrs RWM Y LLYNGES.

03/02/2009


Neil yn Nheneriff
Cafodd y llun 'ma ei dynnu yn y Bar 'Bojangles' yn Nheneriff. Dw i a Meinir (o Fanobier) yn canu 'Rydw i'n hwylio' (I am Sailing) gan Rod Stewart. Wrth gwrs ro'n i'n sariad yn Gymraeg pob amser â'n gilydd. Roedd rhaid i Meinir i fy helpu i pan ganon ni yn Gymraeg.
Cwestiwn bach i bawb - Sawl gwin coch oedd Neil wedi yfed cyn canu dros y meicroffon?

05/01/2009



Cinio Nadolig.

Aeth y dosbarth i La Brasa am eu cinio Nadolig eleni. Roedd y bwyd yn hyfryd ac fe wnaeth pawb fwynhau'r noson. Bydd y dosbarth yn cwrdd ar ôl y Nadolig nos Iau, 8 Ionawr yn Ysgol y Strade am 7.

Diolch i Neil am dynnu ac anfon y llun ar gyfer y blog.