25/11/2009

Neges Gareth (drwg)
Mae’r tywydd wedi bod yn ofnadwy dros y penwythnos, bwrw glaw a gwyntog trwy’r amser. Arhosais i yn y tŷ dydd Sadwrn, ond es i ma’s i’r gampfa bore dydd Sul. Dydd Llun es i i’r cyfarfod rasys yn Ffos Las gyda fy nheulu i, cawson ni bryd o fwyd yn y tŷ bwyta cyn i’r ras gyntaf ddechrau. Ro’n ni’n gallu sefyll yn y tŷ bwyta trwy’r prynhawn, roedd e’n gyfleus iawn achos roedd y tywydd yn rhy oer a gwyntog i sefyll ma’s trwy’r prynhawn. Enillais i ddim, ond mwynheuais i y prynhawn gyda fy nheulu i.

Neges Gareth (newydd)
Mae fy merch ifanca, sy'n byw ym Mhorth Tywyn gyda ei theulu yn disgwyl babi ym mis Ebrill nesa. Clywon ni dros y penwythnos diwetha bydd y babi yn fachgen. Cafodd fy merch scan yn yr ysbytty yn Llanelli. Bydd e’n frawd i Haf a bydd e'n mynd i ysgol Parc y Tywyn fel ei chwaer.
Wedyn bydda i'n ymarfer mwy o'r iaith!
Do'n i ddim wedi mynd ma’s neithiwr i westy’r George i weld dysgwyr eraill achos roedd fy ngwraig yn sâl ar ôl cael pigiad ffliw. Chysgon ni ddim yn iawn dros nos Lun. Mae hi'n well nawr.

No comments: