25/02/2010

Neges Eileen
Sut mae bawb. Mae'n flin 'da fi, ond does dim lot o newyddion ‘da fi. Mae hi'n dawel iawn gyda ni ar hyn o bryd. Aeth fy merch a'i phartner i Fae Gaerdydd am benwythnos San Ffolant. Roedd Scott (partner Jill) wedi trefnu dwy nos mewn gwesty yn y Bae fel surpreis San Ffolant. Rhamantus iawn, on'd ife?

23/02/2010


Neges Neil
Mae'n 'flin 'da fi bawb ond sa i'n gallu dod i'r dosbarth nos Iau.. Ro'n i wedi anghofio bod tocynnau 'da fi i weld Jethro yn y Grand, Abertawe nos Iau! Dw i'n gwybod byddwch chi'n siomedig achos allech chi fod wedi gweld fy 650 llun o India'r Gorllewin tynnais i pan ro'n i bant!
Dim ots - byddaf i'n dod â nhw’r wythnos nesa. ('da llawer o storiau hefyd).
Yn y llun - dw i'n cael brandi a choffi (10 o'r gloch yn y bore wrth gwrs) ym mar traeth yn St Maartin 'da Sue (ffrind newydd). Roedd hi'n bwrw glaw tipyn bach - ond stopiodd hi'n gyflym iawn ac wedyn aethon ni i siopa. (St. Maartin a Gibraltar yw’r lleoedd rhata yn y byd nawr am nwyddau di - dreth).
Mwynheuais i fy nghwyliau yn y Caribbean. Ble nesa nawr?
Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Es i i’r gampfa fore dydd Sadwrn. Gwelais i Gymru yn erbyn Yr Alban brynhawn dydd Sadwrn ar y teledu, roedd Cymru’n lwcus iawn.
Chwaraeais i golff fore dydd Sul. Nos Sul aeth fy ngwraig a fi ma’s am bryd o fwyd yng Ngwesty Parc y Strade, am Noson San Ffolant wrth gwrs, roedd y bwyd yn hyfryd iawn, cawson ni noswaith dda iawn. Chwaraeon ni golff fore dydd Llun a bore dydd Mawrth achos roedd y tywydd yn braf iawn.

Neges Gareth (newydd ond drwg ambell waith)
Aeth fy ngwraig a fi i Sili ger Penarth dros y penwythnos diwetha.
Arhoson ni yn nhŷ ein merch i ofalu am ein hwyrion am ddwy nos. Aeth ein merch a'i phartner i Gaer i fynychu priodas eu ffrind.
Aethon ni a'n hwyrion i " Coconuts" - lle chwarae plant fore dydd Sadwrn.
Gwelais i gêm Cymru yn erbyn yr Alban ar y teledu. Pa mor lwcus o’n ni! Diolch byth am Shane Williams!
Aethon ni i Barc Cosmeston fore dydd Sul i fwydo’r elyrch (a’r hwyaid!) a chwarae ar offer y plant. Daethon ni nôl adre brynhawn dydd Sul.
Ro’n ni yn y gwely erbyn hanner awr wedi wyth!

Neges Mike
Dim byd arbennig dros hanner tymor, dim o gwbl. Fel arfer, gofalon ni (fy ngwraig a fi) am fy wyrion. Roedd fy wyrion yn brysur iawn ac ro’n ni’n flinedig iawn ar ddiwedd y dydd. Maen haws pan mae Eli (fy wyres) yn yr ysgol ac mae fy wyr (dau oed) yn chwarae ar ei ben ei hun. Maen nhw’n ymladd trwy’r amser.
Wrth gwrs edrychais i ar y rygbi ar y teledu, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Enillodd Cymru yn erbyn yr Alban ac roedd Cymru’n lwcus iawn, doedd Cymru ddim yn haeddu i ennill. Collodd Y Scarlets yn erbyn Leinster er gwaetha’r Scarlets yn chwarae’n dda iawn.
Dw i’n edrych ymlaen at Nos Wener yr wythnos ‘ma, ymwela i â fy ffrind oedd yn Ysgol y Graig (Gramedeg Llanelli) a Phrifysgol Abertawe ‘da fi, sa i wedi’i weld e am bedwar deg blwyddyn.

16/02/2010

Neges Scott
Roedd hi’n benwythnos ddiddorol yr wythnos ddiwetha, digon o chwaraeon a digon o gwrw.
Fore Dydd Sadwrn, es i i Stadiwm y Liberty, gyda ffrindiau, i weld y gêm pêl drôed rhwng Dinas Abertawe a Preston North End. Roedd hi’n gêm dda, enillodd Abertawe - dwy gôl i ddim.
Ar ôl y gêm pêl drôed, es i a fy ffrindiau i dafarn yng nghanol y ddinas i weld y gêm rygbi fawr – Lloegr yn erbyn Cymru. Roedd hi’n gêm siomedig iawn, yn arbennig i gefnogwyr Cymru. Wrth gwrs, collodd Cymru…
Amser hawdd y penwythnos i ddod – gwylio’r gêmau rhwng Abertawe a Newcastle (pêl drôed) a Chymru yn erbyn Yr Alban (rygbi) ar y teledu.
Adroddiad ar Farathon Llundain eto – ar ôl wythnos dawel yn rhedeg yr wythnos diwetha, dw i’n dechrau rhedeg mwy o filltiroedd. Dw i’n gobeithio cyflawni pum deg milltir gan Nos Wener. Ond dim rhedeg Dydd Sadwrn o gwbl – digon o chwaraeon eraill i fwynhau!

Neges Victoria
Aethon ni i’r pwll nofio yn Rhydaman Ddydd Sul diwethaf. Dyma’r tro cyntaf i Owain fynd i nofio. Roedd e’n hapus iawn a mwynheuodd e! Mae Seren a Evan yn gallu nofio yn dda iawn nawr.
Yn y nos, gwelon ni’r ffilm ‘The Water Horse’ ar DVD. Roedd ofn ar Evan o’r anghenfil môr!

11/02/2010

Neges Eileen
Sut mae bawbBeth am y gêm rygbi gyda Cymru’n chwarae ddydd Sadwrn diwetha te? Beth gallwch chi ddweud? Ro’n i’n meddewl bod y dair gêm yn wael, a dweud y gwir. Gobeithio bydd y gemau dros y penwythnos yn well. Aethon ni i dafarn "Plough & Harrow" yn Nhrebanos am bryd o fwyd heddiw. Roedd y bwyd yn dda iawn, ac roedd y prisiau’n rhesymol.

Neges Laura
Sut mae bawb? Es i a'r mab i'r sinema brynhawn Dydd Sadwrn i weld y ffilm 'Astroboy'. Aethon ni gyda’n ffrindiau a gaethon ni amser da. Nos Sadwrn es i ma's am bryd o fwyd i Frankie & Bennies gyda fy ffrindiau - roedd y bwyd yn flasus iawn a'r botel o win hefyd! Fore Dydd Sul es i i redeg, dim ond cwpl o filltiroedd ond dw i'n ceisio!

10/02/2010

Neges Neil
Sut mae Bawb.
Ddoe ro'n i ym Madeira. Es i i'r farchnad blodau - roedd y "Proteus" a'r "Bird of paradise" yn lliwgar iawn. Es i lawr y mynydd mewn basged gwiail (wicker). Ces i ofn mawr. WEdyn es i i Westy Reids am de. Nawr dyn ni'n hwylio adre' - dw i'n cyrraedd Southampton ddydd Sadwrn.
Gwela i chi ar ôl hanner tymor'da fy lliw haul a fy ngwaith cartre'.

Neges Gareth (newydd)
Aeth fy ngwraig a’i ffrind i Ddiwrnod Menywod ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn diwetha. Mwynheuodd hi’r dydd ond nid y rygbi. Dwedodd hi bod y bwyd yn weddol a’r cwmni'n ardderchog.
Edrychais i ar y gêm ar y teledu ar fy mhen fy hunan. Dyna ganlyniad! Edrychais i ar gemau’r Eidal yn erbyn Iwerddon a’r Alban yn erbyn Ffrainc. Dw i wedi bod yn seiclo ac ymarfer corff hefyd dros y penwythnos. Felly sa i'n wedi bod yn daten soffa bob dydd.
Dw i'n meddwl bydd Cymru’n codi’u gêm yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn nesa. Dylai fe fod yn llawer fwy cyffrous.

08/02/2010

Neges Neil
Yn Antiga, Aethon ni i Borthladd Saesnig a "Nelson's Dockyard". Wedyn cawson ni gimwch i ginio 'da llawer o daqiris mefus wedi'u rhewi. Dyn ni ar y ffordd adre nawr - dw i'n meddwl bydd hi'n oerach cyn bo hir.

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Aeth fy ngwraig a fi gyda fy merch, mab yng nghyfraith a’n hŵyr ni i Swindon fore dydd Sadwrn. Chwaraeodd fy ŵyr i dros Gaerdydd dan wyth mlwydd o oedran yn erbyn Swindon a Bryste mewn twrnamaint trionglog, collon nhw un gêm, enillon un gêm,chwaraeodd fy wŷr i’n dda iawn am ei oedran e.
Ges i ddiwrnod tawel ddydd Sul, gwnes i fy ngwaith cartref yn y bore ac ymlacio yn y prynhawn.

Neges Mike
Doedd y penwythnos ddim yn dda! Ar fore dydd Sadwrn es i i glwb MW ym Mharc Trostre i gadw’n heini, mwynheuais i yna. Roedd e’n ofnadwy yn y prynhawn! Es i i Barc y Scarlets yn gyntaf a chollodd y Scarlets yn erbyn y Gleison. Es i adre’n gyflym i edrych ar Lloegr yn erbyn Cymru ar y teledu, aeth e o ddrwg i waeth, collodd Cymru!
‘Sdim ots! Dydyn ni ddim yn eisau ennill y Gamp lawn.
Es i i Glwb Trydanol, Stradey, ar nos Sadwrn. Anghofiais i’r gêm ar ôl ychydig o beintiau. Aethon ni i siopa ar fore dydd Sul ac ymelodd fy wyrion gyda eu rhieni nhw yn y prynhawn, swnllyd iawn a neis iawn.

04/02/2010

Neges Laura
Wel dyna sioc! Codais i fore Dydd Sadwrn ac roedd hi'n wyn ym mhobman. Aethon ni (fi, fy ngŵr i a fy mab i) am dro i Lyn Dafen i fwydo'r hwyaid ac roedd peth o’r dŵr wedi rhewi o hyd. Ar ôl cinio aethon ni i'r traeth am dro eto ond roedd yr eira wedi mynd. Ges i Ddydd Sul tawel - dim ond tamaid bach o siopa, glanhau'r tŷ a wnes i gacen banana gyda 'help' Joe (fy mab i).

03/02/2010

Neges Allan
Sut mae? Y peth cyntaf dw i am wneud yw diolch i chi am y garden i Gaynor. Roedd hi wrth ei bodd i gael e. Mae hi'n gwella nawr ar ôl ei llawdriniaeth ac mae hi'n hapus i fod gartref. Dydy hi ddim yn gallu gwneud llawer, felly fi yw'r pen cogydd a phen golchwr poteli. Dw i'n edrych ymlaen i weld y gêm fawr rhwng Cymru a Lloegr ar brynhawn Dydd Sadwrn. Ogi Ogi Ogi !!!!

02/02/2010

Neges Neil (Mecsico)
Echddoe ro'n i ym Mecsico - es i i'r traeth a nofio yn y môr. Wedyn cawson ni ddydd ar y môr cyn i ni gyrraedd Jamaica y bore 'ma. Heno dyn ni'n hwylio am Dortola - fy hoff ynys yn y Caribi - ble bydda i'n ymweld â siop a bar "Pwssers Rum". Byddwn ni'n gadael India'r Gorllewin ar ôl bod yn Antiga ddydd Iau am Fadeira.

Neges Gareth (newydd)
Mwynheuais i’r Sadwrn Siarad yn Ysgol y Strade ddydd Sadwrn diwetha a thrafodaeth am sgwrsio ar dudalen 33 yn y dosbarth diwetha gyda Dafydd.
Mae gêm rygbi enfawr yn cael ei chwarae yn Thwickenham ddydd Sadwrn nesa.
Dw i'n dyfynnu o'r llyfr newydd gan Huw Richards "Mae'r perthynas rhwng y Cymry a'r Saeson wedi’i seilio ar ymddiried a ddeall. So ni'n ymddiried ynddyn nhw a so nhw'n ein deall ni."
Bydd y gêm yn nodweddiadol ar ôl y cwyn wrth Caerlyr yn erbyn y Gweilch am Lee Byrne. Dw i'n edrych ymlaen at y gêm.
Fel arfer bydd fy ngwraig yn siopa pan fydd y gêm ar y teledu achos bydda i’n berson gwahanol pan fydd y gem yma yn cael ei chwarae!

Neges Mike
Penwythnos perffaith!! Enillodd y Reds (Pêl droed), enillodd Llanelli (Rygbi), enillodd y Scarlets yn erbyn Wasps, collodd y Gweilch!!! Dim ond jocio, wrth gwrs.
Ddydd Sadwrn es i i’r Sadwrn Siarad yn Ysgol Y Strade. David Morgan oedd y tiwtor, mwyheuais i’r cwrs - a dim canu! Adolygon ni’r ffurf amodol a’r ffurf amhersonol. Es i i gadw’n heini ar fore dydd Sadwrn.
Roedd dydd Sul yn dawel a dwi’n mynd i dafarn Pemberton ym Mhorth Tywyn cyn bo hir. Rhaid i fi fynd!

Neges Eileen
Mae'n flin 'da fi do'n i ddim yn gallu mynd i'r "Sadwrn Siarad" achos roedd bola tost ‘da fi. Gobeithio roedd y dydd yn dda i bawb. Pryd bydd y tywydd yn gwella? Roedd rhai o’r heolydd yn llithrig iawn bore 'ma. Digon yw digon!