29/09/2008


Penwythnos Elvis
Wel - dyn ni wedi bwcio am y flwyddyn nesa yn barod! Arhoson ni yn y Rhosyn a Choron yn Nottais (ger Porthcawl). Roedd y gwesty'n dda iawn - gyda bwyd gwych!.
Nos Wener, aeth Neil 'y bachgen Teddy' i'r Hi-Tide am noswaith o ddawnsio ac yfed gwin coch! Dych chi'n gallu gweld cwrddodd e â Marylin Monroe!
Bore ddydd Sadwrn - brandi a choffi i ddechrau'r diwrnod am hanner awr wedi deg yn y bore. Ar ol 'na aeth popeth braidd yn niwlog!
Nos Sadwrn yn yr Hi-Tide eto - mwy o win coch ac roedd Neil 'Yr Elvis tew' yn dawnsio eto.

21/09/2008

Gwyliau Gareth
Aeth fy ngwraig a fi gyda fy mab a’i gariad e i Barbados ar y trydydd ar hugain o fis Awst am bythefnos. Priododd fy mab a’i gariad e pan o’n ni yno. Aeth diwrnod y briodas yn dda iawn, roedd yr haul yn disgleirio ac roedd y priodfab a'r briodferch yn edrych yn hapus iawn.
Cawson ni amser diflas ar y ffordd ma’s. Cychwynnon ni ar ein taith ni o Gatwick hanner awr yn hwyr. Ar ôl i ni fod yn yr awyr am hanner awr, gwnaeth yr awyren sŵn ofnadwy. Nesa’, clywon ni’r peilot yn siarad a dwedodd e fod rhaid iddo fe droi yn ôl i Gatwick. Cawson ni ddeg awr o oedi yn aros am awyren arall i ddod o Heathrow.
Hanner awr ar ôl eistedd lawr ar yr awyren newydd, penderfynodd un teithiwr, dyn o’r enw Mohammed, doedd e ddim eisiau teithio. Felly, roedd rhaid iddyn nhw ffeindio ei fagiau e a gadawodd e’r awyren.
Tamaid bach o ddrama ar ddechrau fy ngwyliau i....... !!!!!

11/09/2008


Gwyliau Mike yn Florida - 2008.
Ar 4 Gorffennaf aethon ni i Florida am wyliau - fy ngwraig, Wendy, fy nau fab, Dean a Warren, fy merch yng nghyfraith, Sue a fy nwy wyres, Elli a Lewis. Mae Elli yn ddwy oed ac mae Lewis yn flwydd oed.
Cyrhaeddon ni’r Unol Daleithiau ar Ddiwrnod Annibyniaeth. Roedd llawer o ddathlu. Arhosodd Dean, Suzy a’r plant yng Ngwesty’r Dolphin yn Disney.
Arhoson ni mewn condominiwm yn “Cain Island”, yn Kissimmee, ar ffordd 192.
Cawson ni broblemau - roedd y tywydd yn llaith, roedd y tymheredd yn naw deg, ac ar ôl wyth awr ar awyren doedd dim dwr twym yn y condo. Doedd pethau ddim yn dda!
Cwynais i ar y diwrnod nesaf a cawson ni gondominiwm newydd.
Arhoson ni yn Florida am bythefnos. Aethon ni i lawer o barciau Disney – Animal Kingdom, Epcot, Magic Kingdom, Kennedy Space Centre, a phob dydd cawson ni Crispy Cream Doughnuts!
Fy ymweliad i Ganolfan Gofod Kennedy oedd fy ffefryn. Aethon ni ‘na ddwywaith. Hoffwn i fynd eto yn y dyfodol. Mae gofodwyr yn ddewr iawn a chafodd llawer o ofodwyr eu lladd mewn damweiniau.
Cwrddodd Elli a Lewis ag Alice in Wonderland, y Mad Hatter, Tigger ac eraill yn y parciau. Mae Lewis yn ifanc iawn, a thorrodd e ddau ddant newydd ar ei wyliau.
Cawson ni wyliau hapus a hoffwn i fynd i Florida eto.

08/09/2008


Neithiwr aeth Gareth a Neil i'r ty bwyta Gurkha newydd yn Stryd Murray yn Llanelli. Roedd y bwyd yn flasus iawn! (a'r gwin coch wrth gwrs). Roedd y noson ar gyfer codi arain i Gôr Meibion Llanelli. Ar ol y bwyd - dawnsiodd merched ifanc o Nepal a dyma nhw!
Wyr newydd Neil.
Dyma fy wyr newydd Daniel. Dw i'n meddwl bydd e'n chwarae rygbi dros Gymru cyn bo hir! Wythnos diwetha oedd y tro cyntaf i fi ei weld e ers iddo fe gael ei eni. Mae e'n bedwar mis oed nawr. Mae fy nwy wyres Charlotte a Sophie a fy nghyn wraig yn eistedd gyda fi hefyd. Maen nhw'n byw yng Nghaint. Arhosais i yng Nghaint fel gallwn i ymweld â'r wyl gwrw yn Earls Court. Hefyd, es i i Hastings (ble maen nhw'n ffilmio Rhyfel Foyle) i gael pysgod a sglodion. Mae 'na siop 'sgod a 'sglod gwych yn Hastings yn agos i'r cytiau pysgota dan y clogwyni.