23/02/2011


Newyddion Victoria

Gwelais i Neil ar y teledu nos Sadwrn diwetha. Anfonais i e-bost ato fe i ddweud “Da iawn” am siarad Cymraeg ar deledu cenedlaethol!! Ro’n i’n meddwl ei fod e wedi gwneud yn dda hefyd - chwarae teg!

Cawson ni benwthnos gyffrous achos roedd Seren yn cael ei wythfed penblwydd Aethon ni â Seren, Evan a wyth o ffrindiau da Seren i sinema’r Apollo yng Nghaerfyrddin i weld y ffilm ‘Gnomeo a Juliet’. Roedd e’n brynhawn gwyllt!! Roedd pen tost ‘da fi ar ôl gwrando ar y merched yn siarad a chwerthin yn y car ar y ffordd!!

Dwi’n brusur iawn gyda fy ngwaith a bydda i’n arddangos yn y ffair briodas mawr yn Neuadd y Brangwyn yn Abertawe dydd Sul nesa.


22/02/2011

Newyddion Mike

Chwaraeais i golf gyda Gareth dydd Gwener, nos Wener es i i
edrych ar y Scarlets yn erbyn Ulster. Unwaith eto dylai’r Scarlets fod wedi
ennill ond collon nhw’r gêm yn y muned olaf. Trwy’r penwythnos es i
siopa gyda fy ngwraig a daeth fy wyres hena i ginio dydd Sul. Nos
Fawrth diwetha ces i lyfr ynglŷn â Bwlch y Gwynt a Machynys, mae e’n
ddiddorol iawn. Wrth gwrs, mae e’n gwrs golff nawr. Mae e’n drist – ae’r
Cymuned wedi mynd ond y lle wedi gwella.

Newyddion Gareth (drwg)

Annwyl Gyfeillion,

Roedd y tywydd yn ddigon da i ni gael chwarae gêm o golff fore dydd Gwener diwetha - chwaraeais i gyda Mike a Neil ‘Saesneg’ yn Abaty Glyn. Chwaraeodd Mike gêm dda iawn a dweud y gwir. Gwelais i Neil ‘Cymraeg’ ar y rhaglen ‘Take Me Out’ neithiwr, gwnaeth e’n eitha da’n fy marn i. Mae rhagolygon y tywydd ddim yn rhy dda am yr wythnos nesa, efallai fyddwn ni ddim yn gallu chwarae golff, bydd rhaid i ni aros i weld.

15/02/2011

Newyddion Caryl
Es i a Dyfrig i Fryste ddydd Sadwrn diwetha - roedd fy mab, Emyr yn chwarae mewn gig yn yr undeb. Os licech chi glywed y band mae gwe-fan 'da nhw. Dyma'r cyfeiriad - www.bristolhornstars.co.uk
Ddydd Sul aethon ni i gael pryd o fwyd yn nhy bwyta newydd Raymond Blanc - Brasserie Blanc yng nghanol Bryste. Roedd y bwyd yn wych ond eitha drud.
Ddydd Sadwrn nesa' dyn ni'n mynd i Borthcawl i weld fy mab hena, Aled yn chwarae mewn cystadleuaeth bandiau pres. Sa i'n credu bod amser 'da fi i ddod nôl i'r gwaith!
Newyddion Mike

Gofalon ni am yr wyrion ddydd Gwener, - wedi blino Nos Wener! Penwythnos
eitha da - es i i’r gampfa fore dydd Sadwrn ac es i i’r safle gyrru
cyhoeddus ym Mhentre Nicholas brynhawn dydd Sadwrn am awr. Edrychais i
ar y teledu ar Alban yn erbyn Cymru - gêm eitha da. O leiaf, ennillodd Cymru.Dathlais i gyda pheint yn y Pemberton Arms wedyn.

Newyddion Gareth (drwg)

Annwyl Gyfeilion,

Gobeithio bod y gwanwyn rownd y cornel, digon yw digon o’r tywydd hyn, ond mae’r nosweithiau’n dechrau bod yn olau - arwydd da dw i’n credu. Chwaraeais i ddim golff fore dydd Gwener achos roedd rhaid i fi ymweld â fy meddyg i am ganlyniadau prawf gwaed - mae popeth yn eitha da - diolch byth. Mae Bethan ein tiwtor ni’n gweithio ni’n galed yn y dosbarth Cymraeg, pryd wyt ti’n dod ’nôl Caryl? Na dim ond jocan dw i!

07/02/2011

Newyddion Caryl
Es i a Dyfrig i Gaerdydd ddoe. Aethon ni i siopa'n gyntaf yn John Lewis - prynnon ni'r peth hyn i dorri gwallt. Dych chi siwr o fod wedi'u gweld nhw - mae 8 darn gwahanol iddo fe - rhif 1 - 8 ac mae pob un yn torri gwallt i hyd arbennig. Bydd rhaid i fi dorri gwallt Dyfrig am y tro cyntaf ar ddechrau wythnos o wyliau rhag ofn mod i'n cael "slip up"!
Nesa', aethon ni i dy bwyta o'r enw "Positano's" i gael pryd o fwyd. Ty bwyta eidalaidd yw e ac roedd y bwyd yn hyfryd - cafodd y ddau ohonon ni bysgod mewn saws hufen a tharagon.
Wedyn tamaid bach mwy o siopa a draw i neuadd Dewi Sant erbyn 5 o'r gloch i weld sioe o gerddoriaeth Strauss. Roedd dawnswyr hefyd ar y llwyfan ac roedd y cyngerdd yn ffantastig.
Nôl wedyn i gasglu Max - roedd Aled fy mab a Lowri ei gariad yn edrych ar ei ôl e am y dydd. Roedd e wedi bod yn eitha da ond wedi cael dwy ddamwain ar y llawr!!!!!
Nos Wener, dechreuais i edrych ar y gêm ond ges i ddigon ac es i wneud tamaid bach o waith cyn y diwedd - do'n i ddim yn gallu edrych ar mwy!
Newyddion Mike

Wythnos brysur a drud yn anffodus! Roedd y car wedi torri lawr ddydd Llun
diwetha, roedd yr eiliadur wedi torri. Es i i garej Vauxall i brynu
eiliadur newydd, camgymeriad mawr. Roedd y pris yn bedwar cant punt! Y tro
nesaf - E-Bay! Chwaraeais i golf a chadw’n heini fel arfer a nos Wener
es i i edrych ar Gymru yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd - camgymeiriad
mawr eto, a drud iawn! Brynhawn dydd Sadwrn es i i Ffoslas i weld y rasys
ceffylau - dim camgymeiriad, enilliais i ddeuddeg punt!! Dw i wedi
ymddeol yn barod, yn anffodus.

Newyddion Gareth (drwg)

Annwyl Gyfeillion,

Fore dydd Gwener diwetha chwaraeais i golff ’da Mike, Neil ‘Saesneg’ a Jackie fy ngwraig i yn Abaty Glyn, roedd y tywydd yn oer ond roedd hi’n sych. Dw i wedi cael penwythnos dawel, dim ond ma’s am bryd o fwyd brynhawn dydd Sadwrn gyda ein merch ni Angela a’i theulu hi. Aethon ni i’r Beefeater ar bwys ein tŷ ni, roedd y bwyd yn ddigon da a dweud y gwir.

02/02/2011

Newyddion Gareth (Tenerife)

Annwyl Gyfellion,

Mae’r pythefnos ddiwetha wedi mynd mewn fflach, mae e’n teimlo fel dim ond ddoe ro’n i’n pacio ni i fynd. Cawson ni ŵyliau da iawn - roedd y tywydd yn eitha da ambell waith. Roedd y gwesty a’r bwyd yn neis hefyd. Dw i’n edrych ymlaen at y dosbarth Cymraeg nos Iau nesa. Gobeithio fydda i ddim wedi anghofio gormod o’r iaith dros fy ngŵyliau i?