15/02/2011

Newyddion Caryl
Es i a Dyfrig i Fryste ddydd Sadwrn diwetha - roedd fy mab, Emyr yn chwarae mewn gig yn yr undeb. Os licech chi glywed y band mae gwe-fan 'da nhw. Dyma'r cyfeiriad - www.bristolhornstars.co.uk
Ddydd Sul aethon ni i gael pryd o fwyd yn nhy bwyta newydd Raymond Blanc - Brasserie Blanc yng nghanol Bryste. Roedd y bwyd yn wych ond eitha drud.
Ddydd Sadwrn nesa' dyn ni'n mynd i Borthcawl i weld fy mab hena, Aled yn chwarae mewn cystadleuaeth bandiau pres. Sa i'n credu bod amser 'da fi i ddod nôl i'r gwaith!

No comments: