07/02/2011

Newyddion Caryl
Es i a Dyfrig i Gaerdydd ddoe. Aethon ni i siopa'n gyntaf yn John Lewis - prynnon ni'r peth hyn i dorri gwallt. Dych chi siwr o fod wedi'u gweld nhw - mae 8 darn gwahanol iddo fe - rhif 1 - 8 ac mae pob un yn torri gwallt i hyd arbennig. Bydd rhaid i fi dorri gwallt Dyfrig am y tro cyntaf ar ddechrau wythnos o wyliau rhag ofn mod i'n cael "slip up"!
Nesa', aethon ni i dy bwyta o'r enw "Positano's" i gael pryd o fwyd. Ty bwyta eidalaidd yw e ac roedd y bwyd yn hyfryd - cafodd y ddau ohonon ni bysgod mewn saws hufen a tharagon.
Wedyn tamaid bach mwy o siopa a draw i neuadd Dewi Sant erbyn 5 o'r gloch i weld sioe o gerddoriaeth Strauss. Roedd dawnswyr hefyd ar y llwyfan ac roedd y cyngerdd yn ffantastig.
Nôl wedyn i gasglu Max - roedd Aled fy mab a Lowri ei gariad yn edrych ar ei ôl e am y dydd. Roedd e wedi bod yn eitha da ond wedi cael dwy ddamwain ar y llawr!!!!!
Nos Wener, dechreuais i edrych ar y gêm ond ges i ddigon ac es i wneud tamaid bach o waith cyn y diwedd - do'n i ddim yn gallu edrych ar mwy!

No comments: