23/02/2011


Newyddion Victoria

Gwelais i Neil ar y teledu nos Sadwrn diwetha. Anfonais i e-bost ato fe i ddweud “Da iawn” am siarad Cymraeg ar deledu cenedlaethol!! Ro’n i’n meddwl ei fod e wedi gwneud yn dda hefyd - chwarae teg!

Cawson ni benwthnos gyffrous achos roedd Seren yn cael ei wythfed penblwydd Aethon ni â Seren, Evan a wyth o ffrindiau da Seren i sinema’r Apollo yng Nghaerfyrddin i weld y ffilm ‘Gnomeo a Juliet’. Roedd e’n brynhawn gwyllt!! Roedd pen tost ‘da fi ar ôl gwrando ar y merched yn siarad a chwerthin yn y car ar y ffordd!!

Dwi’n brusur iawn gyda fy ngwaith a bydda i’n arddangos yn y ffair briodas mawr yn Neuadd y Brangwyn yn Abertawe dydd Sul nesa.


No comments: