30/06/2010

Newyddion Gareth (garlleg)
Beth am y tywydd yr haf yma 'te ? Dw i'n dwlu ar yr haulwen a'r gwres.
Aeth fy ngwraig a fi ar ein beiciau i Gefn Sidan fore dydd Sul.
Wedyn cawson ni BBQ yn yr ardd gyda'n teulu.
Ddigwyddodd dim arall cyffrous dros penwythnos diwetha. Gwelais i uchafbwyntiau ail brawf Cymru yn erbyn Seland Newydd ar y teledu. Unwaith eto gwaneth Cymru ormod o gamgymeriadau. Dw i'n meddwl bydd De Affrica yn ennill yn eu prawf nesa.

29/06/2010

Newyddion Gareth (drwg ond yn dda ar hyn o bryd)
Annwyl Gyfeillion,
Wel mae’r wythnos wedi mynd yn gyflym iawn, sa i wedi cael digon o amser i wneud pethau ro’n i’n moyn ei gwneud cyn y penwythnos, efallai bues i’n chwarae gormod o golff dros yr wythnos diwetha?
Ddydd Iau diwetha aeth fy ngwraig a fi i weld ein hŵyr ni, Rio, yn ysgol St. Michael’s yn niwrnod chwaraeon yr ysgol. Enillodd e lawer o rasys - mae e’n gyflym iawn. Bydd e siŵr o lwyddo mewn chwaraeon o ryw fath yn y dyfodol, yn fy marn i. Y peth pwysig yw dw i wedi gwneud fy ngwaith cartref, Ha! Ha!

28/06/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Y peth cyntaf, dw i eisiau dweud diolch i Caryl fy nhiwtor i am fod mor amyneddgar gyda fi yn y dosbarth, achos nos Wener diwetha enillais i wobr Dysgwr y Flwyddyn yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli. Dw i hefyd eisiau rhoi fy llongyfarchiadau i Bethan, cafodd hi’r wobr am Diwtor y Flwyddyn. Cafodd y gwobrau eu cyflwyno i’r enillwyr ar y noson gan yr Aelod Seneddol Nia Griffiths. Ces i fy enwebu gan Caryl fy nhiwtor i. Mwynheuais i’r wythnos gyda fy ngwraig Jackie, fy nhiwtor Caryl, Bethan a’i gŵr hi Carwyn.
Dw i wedi chwarae llawer o golff dros yr wythnos diwetha, dw i ddim wedi cael llawer o amser i ymarfer fy Nghymraeg, bydd rhaid i fi ddarganfod amser o rhywle.

Newyddion Mike
Beth am y tywydd! Penwythnos hyfryd - rhy dwym i weithio yn yr ardd, ychydig iawn o chwynnu a defnyddiais i’r biben ar y blodau, does dim dwywaith amdani, maen nhw eisiau’r glaw. Es i i gadw’n heini yng nghlwb DW dros y penwythnos a phrynhawn dydd Sadwrn aeth fy wraig a fi â fy wyrion i barti plant i ddathlu diwrnod y lluoedd arfog ym Mhorth Tywyn.

Llongyfarchiadau i Gareth a Bethan!
Yn noson wobrwyo Dysgwyr Sir Gâr, enillodd Gareth wobr Dysgwr y Flwyddyn ac Bethan wobr Tiwtor y Flwyddyn.
Llongyfarchiadau i'r ddau ohonyn nhw ar eu llwyddiant!

24/06/2010

Newyddion Gareth (newydd)
Mae hi wedi bod yn amser prysur yr wythnos diwetha. Aeth fy ngwraig a fi gyda ffrindiau nos Iau diwetha i Westy Parc y Starde i weld darlleniad o'r ddrama ' Buggerall' gan awdur lleol am i roi help i elusen Ray Gravelle. Roedd hi’n noson ardderchog.
Ddydd Llun es i i Sili eto i ofalu am fy wyrion achos bod fy merch i wedi mynd i Amsterdam ar fusnes. Es i i Ddiwrnod Chwareon yr ysgol a gwelais i Callum yn ennill y rhes 'sprint'! Des i nôl adre ddoe ar y tren.
Daeth fy llysfab a'i deulu â chi newydd ddoe i aros yng Ngwesty’r Neptune ym Mhorth Tywyn am bedwar diwrnod. Daethon nhw am pryd o fwyd gyda ni.
Newyddion Mike
Penwythnos dawel. Fore dydd Sadwrn es i i’r clwb ffitrwd a siopau ym Mharc Trostre fel arfer. Edrychais i ddim ar y teledu, chwaraeodd Cymru rygbi yn erbyn Seland Newydd. Roedd ofn arna i, siwr o fod, roedd brwydr fawr ‘da Cymru. Bydd yr ail brawf ddydd Sadwrn nesa, caewch eu llygad! Hoffwn i feddwl bydd Cymru’n chwarae’n dda ond …..

18/06/2010

Newyddion Gareth (newydd)
Aeth fy ngwraig a fi i Gastell nedd ddydd Sadwrn diwetha i weld fy nghefnither a'i phartner. Teithion ni ar y tren felly cawson ni ddigon i yfed gyda’n pryd o fwyd. Daethon ni nôl i Borth Tywyn am hanner awr wedi wyth. Cawson ni amser bendigedig.
Ddydd Sul ymwelon ni â’n merch hena, ei phartner a'n hwyrion.
Roedd y tywydd yn gymylog felly aethon ni â nhw i'r Parc Coffa.
Wedyn cawson ni bryd o fwyd gartre cyn iddyn nhw fynd nôl i Sili.

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Wel mae’r tywydd lan a lawr ar hyn o bryd, dyn ni ddim yn gwybod beth mae hi’n mynd i wneud o ddydd i dydd. Dw i wedi chwarae golff tair gwaith ers dydd Gwener, felly dydy’r tywydd ddim wedi bod cynddrwg â hynny. Mae popeth yn tyfu yn yr ardd nawr, dw i wedi cael llawer o sibwns a chiwcymer.
Bydd y tatws a ffa yn dringo nesa ac wedyn moron a betys os bydda i’n lwcus ha! ha!. Wel dyna i gyd am nawr.

15/06/2010

Newyddion Mike
Penwythnos neis a thawel. Nos Fercher cawson ni fwyd Tseiniaidd gyda photel o win yn y ’stafell haul. Fore dydd Sadwrn es i i glwyb ffitrwydd ym Mharc Trostre. Brynhawn dydd Sadwrn aethon ni i “Funsters” yn Yr Hendy. Roedd fy wyres, Eli yn dathlu ei phumed pen blwydd ar yr ail ar bymtheg o Fehefin. Roedd y parti yn ddrud iawn, costiodd e fy mab Dean dau gan punt, daeth pob plentyn yn nosbarth Cymraeg Eli!! Coginid y bwyd gan fy Mam ers talwn - llawer rhatach. Hefyd, edrychais i ar y pêl droed ar y teledu, Pencampwriaeth Cwpan y Byd. Chwaeraeodd Lloegr yn erbyn UDA, gêm gyfartal! Dw i’n cefnogi UDA a phob tîm sy’n chwarae yn erbyn Lloegr!

10/06/2010

Newyddion Gareth (newydd ond yn ddrwg yn aml)
Es i ar fy meic llawer gwaith dros y penwythnos diwetha. Roedd y tywydd yn braf iawn. Ceisiais i bysgota ond roedd y pysgod yn nofio amdana i!
Daeth fy merch ifanca, Bethan a fy wyrion ,Haf ac Osian, i gael pryd o fwyd gyda ni ddydd Sul achos roedd Simon, ein mab yng nghyfraith, yn gweithio. Mae Haf yn dwlu ar berfformio fel athrawes. Dw i'n siwr bod hi'n gwella fy Ngymraeg.
Edrychais i ar gêm Cymru yn erbyn De Africa ddydd Sadwrn. Ces i siom arall. Ro'n nhw'n chwarae’n iawn am tua tri deg munud. Sa i'n edrych ymlaen at y daith i Seland Newydd. Yn ffodus mae Morgannwg yn chwarae criced da ar hyn o bryd.

Newyddion Allan (ma's)
Annwyl Gyfeillion,
Cawson ni amser arbennig yng Ngwbert wythnos diwethaf. Arhoson ni yng Ngwesty'r Cliff am ddwy noson. Pryd cyrhaeddon ni brynhawn Dydd Iau roedd hi'n bwrw glaw felly aethon ni i'r spa am dair awr. Pan aethon ni 'nôl i'r ystafell roedd hi'n heulog. Roedd hi mor braf cawson ni ein pryd bwyd tu allan ar y teras.

08/06/2010

Newyddion Mike
Roedd y hanner tymor yn neis, roedd y tywydd yn wych a mwynheuon ni BBQ ar y “deck” dros y penwythnos. Es i i glwb ffitrwd llawer gwaith a chwaraeais i yng nghlwb golff Pentre Nicholas dros y gwyliau. Gan fod y tywydd yn dda gweithias i yn yr ardd a thorais i’r lawnt tu ôl ac o flaen y byngalo. Ddydd Llun aethon ni i Gaerfyrddin i weld siopau newydd ‘na, roedd darnau o Gaerfyrddyn wedi’u hailadeiladu, mae’n edrych yn dda. Roedd hanner tymor yn dda ag eithro dydd Sadwrn - es i i Gaerdydd i weld Cymru’n chwarae rygbi yn erbyn De Affrica. Unwaith eto roedd Cymru’n siomedig, a chollon nhw’r gêm. Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Seland Newydd nesa’ – Duw helpon nhw!

Newyddion Gareth (car newydd)
Annwyl Gyfeillion,
Mae’r tywydd wedi dod o’r diwedd, mae hi wedi bod yn araf iawn yn dod. Gweithiais i yn yr ardd fore dydd Sul a bore dydd Llun, dim ond tacluso a thynnu’r chwyn bant. Cawson ni newyddion da dros y penwythnos diwetha, dwedodd ein merch ni, Angela, bod hi’n disgwyl babi ym mis Hydref. Dyn ni i gyd yn edrych ymlaen at yr ychwanegaid i’r teulu. Mae ein hŵyr ni Rio yn disgwyl ymlaen at ei fam e’n cael babi, mae e eisiau brawd, ond dw i’n siwr bydd e’n hapus iawn gyda chwaer hefyd. Dw i wedi chwarae llawer o golff dros y hanner tymor gyda fy ffrindiau a fy ngwraig i Jackie.
Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Ddydd Gwener diwetha aeth fy ngwraig a fi, gyda fy chwaer hena, i’w thŷ hi yn Basingstoke. Mae hi wedi bod yn sefyll gyda fy chwaer ifanca i ers Mis Chwefror. Roedd llawer o bethau i wneud yn yr ardd ac yn ei thŷ hi. Gweithiodd y tri ohonon ni dros y penwythnos i wneud popeth yn daclus, yn arbennig yn yr ardd. Gyrron ni adref fore Mawrth, cyrhaeddon ni Gaerfyrddin tua hanner awr wedi un.