26/10/2010

Newyddion Gareth (Drwg/Patio/Golff)
Annwyl Gyfellion,
Fore dydd Sul es i i’r Barri gyda fy ngwraig Jackie, cwrddon ni â’m chwaer Ann a’i ffrind hi Molly. Aethon ni ma’s am bryd o fwyd i’r Frenhines Victoria - tafarn yn Sigington ar bwys Y Barri. Roedd y bwyd yn flasus iawn a chawson ni sgwrs hir dros y prynhawn. Gyrrais i adre tua phedwar o’r gloch. Fore dydd Llun chwaraeais i golff gyda Mike yn Abaty Glyn, roedd y tywydd yn braf iawn.

19/10/2010

Newyddion Gareth (patio)
Annwyl Gyfeillion,
Wel byddwch chi’n falch i glywed dw i’n siwr, dyn ni wedi cwpla’r patio! Mae fy ngwraig Jackie moyn peintio’r wal cyn i fi dynnu llun i anfon i’r blog. Gobeithio ein bod ni’n mynd i ymlacio tamaid bach nawr, cyn gwneud rhwybeth arall rownd ein tŷ ni. Gawn ni weld?
Newyddion Mike
Wythnos dda. Gaeth fy ngwraig ei phen –blwydd ac aethon ni i dafarn Y Bryngwyn ym Mhwll. Roedd y bwyd yn flasus iawn, fel arfer. Chwaeraeais i golff gyda Gareth a Neil yng Nglyn Abbey ddydd Mercher a ddydd Gwener, chwaraeais i ddim yn dda, rhaid i fi ymarfer yn fwy caled, pan mae’r amser ‘da fi. Fel dw i’n gwneud fy ngwaith cartref mae’r Scarlets yn chwarae yn erbyn Caerlŷr (Leicester), dydy e ddim yn hardd – mae’r Scarlets yn colli’n drwm. Dw i ddim yn gallu edrych ar y gêm!!! Un peth da, daeth fy wyres hena i ginio dydd Sul gyda’i thad hi.

15/10/2010

Newyddion Victoria

Dwi’n byrsur iawn wythnos ma! Es i i ffair briodas ddydd Sul diwetha, yn ‘The United Counties Showground’ yng Nghaerfyrddin, i arddangos fy ngwaith i. Ces i ymateb ardderchog ac mae 30 o bobl yn moyn cwrdd â fi am eu cardiau priodas. Aeth Owain i’r meithrin am ddau ddydd yr wythnos ‘ma a dw i wedi bod yn brysur yn cystylltu â phawb!

Newyddion Gareth (golff/patio)

Annwyl Gyfeillion,

Wel! Dyn ni’n cael tamaid bach o Haf Bach Mihangel ar hyn o bryd. Dw i wedi bod gweithio ar y patio dros y penwythnos diwetha a’r wythnos hon gyda fy ngwraig Jackie. Mae hi wedi gweithio’n galed chwarae teg. Dyn ni bron â cwpla’r patio, cwpl o ddyddiadau eto, bydd wedi cwpla ! Dw i wedi cael amser i chwarae golff hefyd chwarae teg.

Newyddion Allan
Annwyl bawb,
Roedd hi'n benwythnos prysur. Brynhawn dydd Sadwrn aethon ni i glwb golff Machynys am ginio. Roedd hi'n braf iawn eistedd yn yr haul. Cawsom fwyd blasus iawn. Cawson ni bysgod ffres a thato newydd mewn saws pesto a garlleg ar wely o bigoglys.
Roedd penblwydd Gaynor ddydd Sul - 10.10.10. Dw i ddim yn cael dweud ei hoedran hi ond mae'r hen raglen deledu ditectif ar ynys Hawaii yn roi cliw i chi! Aethon ni allan unwaith eto am ginio! Y tro yma aethon ni i'r Plough yn Rhosmaen. Mae'n werth mynd yno am bryd o fwyd arbennig

12/10/2010

Newyddion Laura (a Joe)
Mae newyddion cyffrous 'da fi yr wythnos hon (i fi ta beth!). Mae Joe wedi dysgu seiclo ar ei feic heb stablisers! Mae e wedi bod yn ymarfer tamaid bach dros y pythefnos diwetha ac mae cwpl o gleisiau 'da fe i brofi hyn. Ond chwarae teg, so fe wedi cwympo 'to. Ro’n ni mor falch pan aethon ni i Halfords fore dydd Sul i brynu beic newydd - mae e wedi tyfu ma's o'r beic arall.
Newyddion Mike (Gormod o ddathlu ddydd Sadwrn diwetha!)
Nos Wener aethon ni - fy ngwraig a fi - i Frankie and Benny’s ym Mharc Pemberton. Aethon ni gyda hen frindiau o’r ysgol a Phrifysgol Abertawe.
Do’n ni ond wedi’u gweld nhw dim ond un waith yn y pedwar deg blynedd ddiwetha. Roedd y bwyd yn flasus iawn gyda llawer o foteli o win. Roedd pen tost ‘da fi fore dydd Sadwrn. Gwelais i Caryl ym Mharc Trostre fore dydd Sadwrn – dw i’n meddwl! Ond, es i i’r clwb ffitrwyd, hefyd es i i’r safle gyrru golff ym Mhentre Nicholas. Nos Sadwrn, es i i Barc y Scarlets i edrych ar Gwpan Heineken, enillodd y Scarlets yn erbyn Perpignon, Ffrainc, 43-34. Gêm gyffrous, sgoriodd y Scarlets ceisiau ardderchog. Dydd prysur! Ddydd Sul, ymlaciais i ar y “deck” ar ôl cinio. Ar ôl gwneud fy ngwaith cartref, galla fi fynd i dafarn Pemberton i gael diod fach i helpu fy mhen tost!

07/10/2010

Newyddion Allan (Un o gefnogwyr Y Scarlets)
Sut mae bawb,
Roedd hi'n benwythnos tawel. Gweithais i yn yr ardd fore dydd Sadwrn. Brynhawn dydd Sadwrn es i i gwrdd â hen ffrind i edrych ar gêm rygbi yn Ffwrnes. Gwyliais i gêm rygbi'r Scarlets yn erbyn y Gweilch ar y teledu nos Sadwrn. Dw i'n credu taw dim ond un ohonon ni o'r dosbarth Cymraeg oedd yn hapus ar ôl y gêm. Roedd e'n neis i weld Ewrop yn enill y cwpan Ryder, gobeithio bydd e'n dda i Gymru.

06/10/2010

Newyddion Gareth (sy'n cefnogi'r Gweilch. Pam - sa i'n gwybod)!
Ces i wahoddiad wrth fy nghymydog fore Sadwrn diwetha i fynd i weld gem ym Mharc y Scarlets gyda fe a'i ffrind. Cawson ni bryd o fwyd blasus iawn yn Lolfa Quinnell cyn y gêm. Roedd hi'n gêm gyffrous a'r tim gorau'n ennill yn y pen draw. Gaeth y dyfarnwr, Nigel Owen, gêm ddiflas. Roiodd e ddim gais cosb i'r Gweilch achos bod rheng flaen y Scarlets yn cwympo’r scrym yn aml. Hefyd, tynnodd un o'r Scarlets y bêl dros y lein gais a dylai’r dyfarnwr fod wedi rhoi scrym i'r Gweilch. Beth bynnag, roedd rhagoraeth a profiad yn dweud yn y pen draw! Cyrhaeddais i adre am hanner nos ar ôl cwpwl o beints.
Dw i'n mynd i ymarfer gyda'r Grwp Opera heno. Bydd y sioe yn cael ei chynnal yn y Neuadd Goffa mewn pedair wythnos.
Newyddion Victoria
Es i i’r noson wybodaeth yn ysgol Parc y Tywyn neithiwr. Roedd dyn ‘na’n cyfieithu, ond ddefnyddiais i ddim o’r headphones a dw i’n falch iawn mod i wedi deall bron yr wybodaeth i gyd! Hefyd, ar ôl y cyflwyniad, siaradais i â’r cyfieithydd ac athrawes Seren yn Gymraeg. Hoffwn i ymarfer fy Nghymraeg yn aml tu fa’s i’r dosbarth Cymraeg, ond does dim lot o hyder da fi…roedd neithiwr yn step fach ond yn bwysig!

Newyddion Teresa
Wel, ces i wythnos lyfli eto! Dw i'n mwynhau bod ar fy mlwyddyn "ar wyliau" o’r gwaith!
Es i i nofio gyda Sean (fy mab) a John (fy nghwr)ddydd Sul ac wedyn cawson ni ginio Sul hyfryd gyda fy rhieni. Maen nhw wrth ei bodd yn gweld Sean!
Ddoe, aethon ni i grwp rhieni yn y bore cyn chwarae gatref yn y prynhawn. Dechreuodd Sean gropio wythnos yn ôl, a heddi ffindais i fe hanner ffordd ma’s drws blaen y tŷ! Roedd e'n edrych yn hapus iawn gyda’i "escape to victory"!

05/10/2010

Newyddion Gareth (drwg/golff)
Annwyl Gyfeillion,
Does dim llawer o hanes’da fi’r wythnos hon. Gweithiais ar y patio newydd dros y penwythnos diwetha. Fore dydd Llun chwaraeon ni i golff ’da’r ddau Neil. Ddydd Mawrth dw i’n mynd i weithio ar y patio eto.
Newyddion Mike
Wythnos diwetha chwaraeais i golff gyda Neil a Gareth yng Nglyn Abbey, Trimsaran. Roedd ITV yn ffilmio Neil ar y cwrs golff ar gyfer rhaglen deledu. Bydd y rhaglen yn helpu Neil i chwilio am gariad newydd, os oes eisiau help arno ef! Edrychwch ar y teledu ym mis Ionawr! Dros y penwythnos es i i Barc y Scarlets i edrych ar y Scarlets yn erbyn y Gweilch. Eto, roedd y Gweilch yn lwcus, mae’r dyfarnwr Nigel Owen yn hoff iawn o’r Gweilch, dwi’n meddwl! Ennillodd y Gweilch y gêm gyda chais a basiwyd ymlaen, ofnadwy! Dwi’n edrych ymlaen at y gêm nesaf.