06/10/2010

Newyddion Gareth (sy'n cefnogi'r Gweilch. Pam - sa i'n gwybod)!
Ces i wahoddiad wrth fy nghymydog fore Sadwrn diwetha i fynd i weld gem ym Mharc y Scarlets gyda fe a'i ffrind. Cawson ni bryd o fwyd blasus iawn yn Lolfa Quinnell cyn y gêm. Roedd hi'n gêm gyffrous a'r tim gorau'n ennill yn y pen draw. Gaeth y dyfarnwr, Nigel Owen, gêm ddiflas. Roiodd e ddim gais cosb i'r Gweilch achos bod rheng flaen y Scarlets yn cwympo’r scrym yn aml. Hefyd, tynnodd un o'r Scarlets y bêl dros y lein gais a dylai’r dyfarnwr fod wedi rhoi scrym i'r Gweilch. Beth bynnag, roedd rhagoraeth a profiad yn dweud yn y pen draw! Cyrhaeddais i adre am hanner nos ar ôl cwpwl o beints.
Dw i'n mynd i ymarfer gyda'r Grwp Opera heno. Bydd y sioe yn cael ei chynnal yn y Neuadd Goffa mewn pedair wythnos.

No comments: