05/10/2010

Newyddion Mike
Wythnos diwetha chwaraeais i golff gyda Neil a Gareth yng Nglyn Abbey, Trimsaran. Roedd ITV yn ffilmio Neil ar y cwrs golff ar gyfer rhaglen deledu. Bydd y rhaglen yn helpu Neil i chwilio am gariad newydd, os oes eisiau help arno ef! Edrychwch ar y teledu ym mis Ionawr! Dros y penwythnos es i i Barc y Scarlets i edrych ar y Scarlets yn erbyn y Gweilch. Eto, roedd y Gweilch yn lwcus, mae’r dyfarnwr Nigel Owen yn hoff iawn o’r Gweilch, dwi’n meddwl! Ennillodd y Gweilch y gêm gyda chais a basiwyd ymlaen, ofnadwy! Dwi’n edrych ymlaen at y gêm nesaf.

No comments: