30/09/2010

Newyddion Gareth (golff/drwg)
Annwyl Gyfellion,
Dydy’r tywydd ddim wedi bod yn rhy wlyb dros y penwythnos diwetha. Ro’n i’n gallu gweithio ar y patio, barod i ddodi fflagenni newydd lawr.
Chwaraeais i golff ’da ffrindiau fore dydd Llun a bore dydd Mercher - chwaraeodd Mike ’da ni fore dydd Mercher. Fore dydd Mercher roedd criw yn ffilmio Neil am raglen deledu, roedd rhaid i ni fynd rownd y cwrs golff ’da fe pan ro’n nhw’n ffilmio fe. Mae e’n seren nawr dw i’n meddwl.

No comments: