21/09/2010

Newyddion Mike
Wythnos dawel,eto. Chwaraeais i golf gyda Neil a Gareth, dwywaith, yng Nglyn Abbey ar bwys Trimsaran, roedd y tywydd yn iawn. Collais i ugain ceiniog iddyn nhw! Es i i’r clwb ffitrwydd sawl gwaith. Siopais i ym mharc Trostre gyda fy nghwraig, Wendy ac wedyn paned o Latte yn Starbucks. Dathlodd fy wyr ei ben-blwydd ddydd Gwener - llongyfarchiadau ar ei ben-blwydd yn dair oed, am ddyn ifanc! Edrychais i ar y Pab ar y teledu - dyna olygfa! Gormod o wastraff arian, dw i’n meddwl. Mae llawer gormod o bobl tlawd a newynog yn y byd. Hefyd, dwedodd un o grŵp y Pab bod Prydain fel gwlad trydydd byd!!

No comments: