16/09/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Roedd y tywydd ddydd Gwener yn ofnadwy, bwrw glaw mân trwy’r dydd, felly, do’n i ddim yn gallu chwarae golff ’da Mike a Neil. Gobeithio bydd hi’n gwella wythnos nesa. Brynhawn dydd Sadwrn es i i Barc Pemberton, gwelais i ‘Y Scarlets’ yn erbyn ‘Conaught’. Es i gyda fy mab yng nghyfraith i, a fy wŷr i. Roedd ‘Y Scarlets’ yn lwcus iawn i ennill y gêm yn y pen draw. Cwrddais i â Scott a’i ffrindiau e yn y gêm, siaradais i â fe yn ystod hanner amser. Ddydd Llun chwaraeais i golff gyda Neil a ffrind arall o’r enw Neil hefyd. Ddydd Mawrth, gweithiais i ar y patio, yn y glaw mân, dw i’n codi’r fflagenni hen lan i ddodi fflagenni newydd lawr, mae hi’n dasg fawr a dweud y gwir. Fore dydd Mercher ges i gêm o golff gyda fy ngwraig i, chwaraeodd Mike ’da Neil Price a Neil Blower. Gwela i chi i gyd yr wythnos nesa yn y dosbarth.

No comments: