28/09/2010

Newyddion Mike
Dyma ni’n dechrau ar flwyddyn newydd i fynd ymlaen i ddysgu Cymraeg. Dechreuodd y dosbarth Cymraeg ddydd Iau diwetha a cawson ni lawer o hwyl yn y dosbarth! Dyma’r ffordd orau i ddysgu Cymraeg, dw i’n meddwl. Dros y penwythnos es i i glwb DW ym Mharc Trostre, Hefyd, ymarferais i golff ar y safle gyrru yng nghlwb Pentre Nicholas fore dydd Sadwrn. Ddydd Sul, ymwelodd fy wyres hena o‘r Hendy, i ginio dydd Sul, Alicia yw ei henw hi, mae hi’n ddeuddeg oed, (mwy fel ugain mlwydd oed)! Mae hi’n ymarfer fel Cheerleader ar gyfer y Scarlets.

No comments: