28/06/2011

Cyngor Gareth ar gyfer dysgwr newydd
Petasech chi’n dechrau i ddysgu Cymraeg, dylech chi wrando ar eich tiwtor chi. Dylech chi wneud eich gwaith cartref pob wythnos. Dylech chi ymarfer siarad yr iaith gyda’ch ffrindiau. Dylech chi fynd i bob Sadwrn Siarad dros y flwyddyn. Dylech chi ofyn i rywun os dydych chi ddim yn gwybod beth yw rhywbeth yn Gymraeg. Ddylech chi ddim siarad Saesneg yn y dosbarth. Ddylech chi ddim colli llawer o ddosbarthiadau yn y tymor. Ddylech chi ddim anghofio dod â’ch gwaith cartref i’r dosbarth. Ddylech chi ddim poeni am y treigladau.
Cyngor Mike ar gyfer rhywun yn meddwl am ddysgu Cymraeg
Dylwn i fod wedi dysgu Cymraeg pan o’n i’n blentyn - ‘sai fe wedi bod yn fwy hawdd, dw i’n meddwl. Doedd fy wyrion ddim yn siarad Cymraeg tair blynedd yn ôl ond nawr mae fy wyres yn rhugl ac yn siarad yn gyflym, dim ond chwe oed yw hi ac mae hi’n mynd i’r ysgol Gymraeg. Dylai fy rhieni fod wedi siarad Cymraeg â fi pan o’n i’n ifanc. Roedd y ddau yn siarad Cymraeg ond es i i’r ysgol Saesneg! Dylech chi gael eich trochi yn Gymraeg – dyma’r ffordd orau i siarad Cymraeg. Mae darllen cylchgrawn fel Lingo yn dda achos dych chi’n dethol os dych chi’n dechrau dysgu - darnau fwy profiadol neu brofiadol iawn.
Hefyd mae llyfrau gan Bob Eynon yn dda achos mae geiradur bach ar ddiwedd y stori i’ch helpu chi. Mae cwrs preswyl yn wych - a dim siarad yn Saesneg! Suddo neu nofio! Hefyd, dylech chi fynd i nosweithiau cymdeithasol i siarad Cymraeg dros peint. (Gwell byth, sawl peint)!

22/06/2011

Hanes gwyliau Gareth (drwg/golff) pan oedd e'n blentyn
Mae fy nhiwtor i – Caryl, wedi gofyn i’r dosbarth i gyd i ysgrifennu rhywbeth am ein gwyliau ni pan ro’n ni’n blant.
Wel, do’n i ddim yn mynd yn bell fel arfer, dim ond dyddiau ma’s i’r traeth gyda’r ysgol sul, neu glwb ble roedd fy nhad i’n aelod. Ond y lle ro’n i’n cofio mynd iddo’n aml roedd lawr y Bwlch (Bwlch y Gwynt) ar bwys y môr ym Machynys am bicnicau. Roedd pob teulu yn pigo cocos ac wedyn berwi nhw mewn sosbenni ro’n nhw wedi dod â ar dân gwersyll ro’n nhw wedi dechrau. Bwyta cocos gyda bara cartre - hyfryd iawn. Roedd y Bwlch yn boblogaidd iawn y pryd hwnnw. Mae’r cwrs golff yn y fan a’r lle nawr.
Hanes gwyliau Mike pan oedd e'n ifanc
Pan o’n i’n blentyn ro’n i’n arfer teithio i’r Alban i aros gyda fy nghefnder yn Clydebank ar bwys Glasgow. Roedd yr ardal yn gas ond roedd y bobl yn neis a chyfeillgar. Roedd rhan fwyaf o’r bobl yn arfer gweithio yn iard John Browns neu yn ffatri Periannau Singer Sowing, dych chi’n cofio amdanyn nhw? Maen nhw wedi cau, nawr. Es i bob blwyddyn a mwyheuais i’n fawr gyda’r Albanwyr. Ro’n i’n arfer mynd i lynau’r Alban - gwelais i anghenfil Loch Ness un tro, honest! Ar ôl bod yn y dafar - gormod o “Doch and Doris” dw i’n meddwl.(Doch and Doris yw hanner peint a wysgi siaswr. Neis iawn!!!) Ro’n i ddim ond yn bymtheg oed! Bachgen drwg.
Mae’r tir uchel yn hardd yn Yr Alban a Chastell Caeredin yn ddiddorol a hanesyddol.

13/06/2011

Newyddion Gareth (golff)
Annwyl Gyfeilion,
Chwaraeais i a Jackie golff gyda ffrindiau dair gwaith yr wythnos diwetha - dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Dyn ni wedi bod i’r gampfa dair gwaith hefyd. Dyn ni wedi cael gwahoddiad i briodas ein nai ni ar y degfed ar hugain o fis Gorffennaf yn Derby - rhywbeth i edrych ymlaen at.
Dyn ni’n mynd i Basingstoke ar y trydydd o fis Gorffennaf - mae ein nai arall yn dathlu ei benblwydd hanner cant e.

Newyddion Mike
Wythnos brysur gyda golff, cadw’n heini, a gwaith cartref Cymraeg.
Darllenais i storiau gan Bob Eynon yn y llyfr “Rhywbwth I Bawb”. Dw i’n hoff iawn o’r eirfa ar waelod y dudalen, do’n i ddim yn edrych ar y “Geriadur Mawr” bob amser. Gaeth fy wyres Eli ei phen-blwydd dros y penwythnos - roedd hi’n chwe oed ddydd Sadwrn . (Mynd ar un ar bymtheg oed!). Aeth hi i Folly Farm i ddathlu’r dydd. Daeth fy wyres Alicia (13 oed), i ginio dydd Sul ac roedd hi’n gyffrous iawn - roedd hi’n mynd i weld JLS yn Stadiwm y Liberty nos Sul. Dw i’n meddwl mod i’n gallu ei chlywed hi’n gweiddi nawr!

06/06/2011

Newyddion Mike
Wythnos brysur. Er dw i wedi ymddeol does dim amser ‘da fi! Chwarae golff, gofalu am fy wyrion, mynd i gadw’n heini - diolch byth dw i’n ddim yn gweithio. Mae swydd newydd ‘da fi (rhan amser) yn ogystal â siopa gyda fy ngwraig (swydd llawn amser!). Y swydd sy ‘da fi yw ysgifennydd Y Lleng Prydeinig (RBL) ym Mhorth Tywyn - gobeithio bydda i’n gwneud y swydd ddim ond am dri mis. Bydd Wembley dan ei sang ddydd Llun pan bydd clwb pêl droed Abertawe yn chwarae yn erbyn Reading, y wobr, chwarae yn y gyngrair gyntaf, a naw deg miliwn punt!

Newyddion Gareth (golff)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i wedi cael wythnos brysur iawn, ond mae hi wedi bod yn bleserus. Chwaraeais i golff gyda ffrindiau fore dydd Llun, fore dydd Mercher a fore dydd Gwener - gyda Jackie, Richard ein mab ifanca ni, a Rio ein hŵyr ni ddwywaith. Gofalon ni am yr ŵyr Rocco ddwywaith. Ro’n ni’n falch i weld y penwythnos a dweud y gwir i gael tamaid bach o dawelwch.
Newyddion Mike
Doedd dim llawer o amser y wythnos diwetha gan ein bod ni’n gofalu am ein hwyrion y rhan fwyaf o’r wythnos. Fel arfer, chwaraeais i golff ddydd Gwener gyda Gareth a Neil ac es i i gadw’n heini fore ddydd Iau a Sadwrn.
Gan fod y tywydd yn eitha dda, torriais i’r lawnt tu ôl i ac o flaen y byngalo heddiw. Mae’r ardd yn edrych yn dda gyda’r Lupins yn edrych yn arbennig o bert.