20/12/2010

Newyddion Caryl
Des i ma's o'r ysbyty ddydd Mercher diwetha - aeth popeth yn iawn a dw i'n gwella'n dda. Dw i braidd yn flinedig ond aeth Dyfrig ma's â fi yn y car ddoe ac ro'n i'n teimlo'n iawn.
Gobeithio wnaethoch chi fwynhau'r parti nos Iau diwetha yn y Thomas Arms - ro'n i'n meddwl amdanoch chi!
Mae Dyfrig wedi rhoi'r addurniadau Nadolig lan - felly mae'r ty'n edrych yn hyfryd yn enwedig gyda'r ardd yn llaen eira. Mae Max yn mwynhau hefyd - mae e'n lico cael cwmni ac yn gorwedd ar y soffa 'da fi a chysgu bob prynhawn!
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi gyd!

Newyddion Gareth (drwg)

Annwyl Gyfeillion,

Wel mae e bron arnon ni, Nadolig dw i’n siarad am. Bydd e’n dod a mynd mewn fflach a bydd ein waledi ni i gyd yn cael eu hysgafnhau, a byddwn ni i gyd wedi dodi pwysau arnon ni. Ond mae rhaid i ni fwynhau ein hunain weithiau. Dw i’n casau’r gaeaf, yr haf yw’r tymor i fi, ond dw i’n lico’r gwanwyn hefyd. Dw i’n edrych ymlaen at y nosweithiau golau yn y gwanwyn.

Newyddiion Mike

Es i i weld fy wyres yng Nghyngerdd Nadolig yn Ysgol Bryniago ym
Mhontardulais ddydd Iau diwetha. Canodd y plant fel angylion, sioe dda,gwnaeth yr athrawesau llawer o waith. Dros y penwythnos, fore dydd Sadwrn, es i i glwb ffitrwydd ym Mharc y Trostre ac yn y prynhawn es i i Barc y Scarlets i edrych ar y Scarlets yn erbyn Treviso yng Nghwpan Heineken. Enillodd y Scarlets ond mwy o anafiadau i Steven Jones a Mathew Rees. Gêm anodd yn erbyn Treviso y penwythnos nesaf. Dwi’n gobeithio bod pob chwaraewyr yn ffit.
Edychwch ar y llun, ymwelodd fy wyrion â’r dywysoges Disney dros y gwyliau yn Florida!

07/12/2010

Newyddion Gareth (drwg ond da am fynd i'r Sadwrn Siarad)!

Annwyl Gyfeillion,

Ddydd Sadwrn diwetha es i i’r ‘Sadwrn Siarad’ ym Mhrifysgol Abertawe. Iona oedd enw ein tiwtor ni, roedd saith ohonon ni yn y dosbarth Canolradd. Roedd y dydd yn ddiddorol iawn, cawson ni ddigon o waith i wneud trwy’r dydd, ond doedd e ddim yn rhy anodd a dweud y gwir. Cawson ni damaid bach o hwyl hefyd. Dw i’n credu mwynheuodd pawb y dydd.

06/12/2010

Newyddion Laura
Dw i wedi bod yn eitha prysur yn ddiweddar. Mae lot o bethau yn digwydd yn yr ysgol - Sioe Ffasiynnau ac ymarfer am y sioe Nadolig. Dw i wedi bod yng Nghaerdydd dros y penwythnos hyn. Es i gyda fy ffrindiau i weld y sioe 'Mama Mia' neithwr - roedd hi'n ardderchog! Aethon ni i siopa ddydd Sadwrn. Gaethon ni bryd o fwyd cyn y sioe yn ' Demiros', arhoson ni mewn gwesty a daethon ni adre heddiw(dydd Sul). Ges i amser da ond bydda i'n mynd i'r gwely yn gynnar heno!

03/12/2010

Newyddion Victoria
Mae tamiad bach o newyddion da fi…

Ro’n i yn y Llanelli Star ddoe! Ysgrifennais i ‘press release’ bach achos anfonais i lythyr a ‘sample’ o gerdyn priodas i Clarence House i Tywysog Gwilym a Kate Middleton. Dwi’n gwybod bod hi’n ‘shot hir’, ond dych chi byth yn gwybod!! Dwi’n gobeithio bydd y cyhoeddusrwydd yn dda i fy musnes i.
Bydda i’n rhoi gwybod i chi os dwi’n cael caniad o’r palace!!

Mike a Buzz


Dyma Mike gyda'i ffrind newydd Buzz yn Florida.

02/12/2010

Newyddion Allan (ma's)
Sut mae bawb,
Mae newyddion da gyda fi. Dechreuais i swydd llawn amser yn ysgol y Strade Ddydd Llun. Dw i'n gweithio fel technegydd gwyddoniaeth yn y bore a thechnegydd technoleg yn y prynhawn. Mae dyn sy'n gweithio yn yr adran dechnoleg yn ymddeol ddiwedd yr wythnos, felly cynigiwyd ei swydd i fi. Dw i'n gweithio gyda fe ychydig yr wythnos hon ond yn gweithio ar fy mhen fy hun wythnos nesaf. Mae popeth yn mynd yn dda ar y foment.Gwela' i chi yn y dosbarth nesaf.
Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Dyn ni’n cael tywydd oer yn gynnar eleni. Fore dydd Gwener diwetha chwaraeais i golff ’da fy ngwraig Jackie a fy ffrind Mike o’r dosbarth Cymraeg. Roedd hi’n oer iawn a bwrw eira pan dechreuon ni, ond twymodd hi lan tamaid bach ar ôl y gawod o eira. Cawson ni gêm eitha da yn y tywydd ofnadwy. Dyn ni ddim yn mynd i chwarae golff yr wythnos hon os bydd y tywydd yn oeri mwy.
Newyddion Mike
Yr wythnos diwetha dychwelon ni o Orlando Florida. Arhoson ni ar bwys Down Town Disney yng Ngwesty’r Marriott. Roedd y tywydd yn dda, yn yr wythdegau pan roedd y tywydd yng Nghymru yn stormus a gwlyb iawn - trist! Aethon ni i Epcot, Animal Kingdom, Universal Studios sawl gwaith. Roedd y tân gwyllt yn Epcot a Golau Nadolig yn Universal Studios yn ffantastig. Hefyd, hwylion ni mewn cwch aer i weld aligators a snapping turtles a llawer o adar gwahanol, hefyd. Gwell byth, cwrddais i â Buzz!