23/09/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Ddydd Sul diwetha aeth fy ngwraig a fi i Fae Caerdydd am y dydd. Roedd y tywydd yn braf iawn. Cerddon ni tua milltir i’r argae o’r maes parcio, wedyn, cawson ni gwch yn ôl i gael cinio canol dydd mewn tŷ bwyta ar y rhodfa. Roedd y bwyd yn hyfryd ac roedd y tâl am wasanaeth yn werth pob ceiniog - roedd y gwasanaeth yn ardderchog. Fore dydd Llun chwaraeon ni golff ’da’r ddau Neil. Brynhawn dydd Llun gweithais i yn yr ardd, newid y ddelltwaith (lattice) ar ôl iddo gael ei beintio gan fy ngwraig i. Ddydd Mawrth (heddiw) - a dw i’n ymlacio, gwneud fy ngwaith cartref, ar ôl smwddio i fy ngwraig.

No comments: