03/01/2012



Parti Nadolig 2011

Cafodd y dosbarth noson hyfryd yn nhafarn y "Cauldfield", Porth Tywyn i ddathlu'r Nadolig. Roedd pawb wedi mwynhau'u bwyd, cwrw a gwin. Fel arfer, roedd Neil wedi gwisgo'n smart iawn mewn coch a gwyrdd gyda het arbennig Nadoligaidd. Roedd rhai wedi cyrraedd Porth Tywyn ar y tren, cwpwl wedi gyrru ac ambell un wedi cerdded.

Bydd y dsoabrth yn ail ddechrau ar ôl gwyliau'r Nadolig, nos Iau, 12 Ionawr 2012.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!