20/04/2011

Newyddion Mike
Dechreuodd y penwythnos Nos Iau gyda chinio’r dosbarth Cymraeg yn Nhafarn Bryngwyn ym Mhwll. Roedd y bwyd yn ardderchog fel arfer. Ddaeth dim ond pedwar myfyriwr a dau diwtor ond cawson ni amser da.
Chwaraeais i golf ddydd Gwener gyda Gareth ac es i i Barc y Scarlets Nos Sadwrn i weld Y Scarlets yn erbyn Munster. Doedd y gêm ddim yn dda a chollodd y Scarlets 6-13. Dylai’r Scarlets fod wedi ennill y gêm hon. Mae angen blaenwyr newydd gyda tân yn eu bola ar Y Scarlets!
Torrais i’r lawntiau tu ôl ac o flaen y byngalo dros y penwythnos, gan fod y tywydd yn dda.

16/04/2011



Noson ma's

Cawson ni noson hyfryd yn Nhafarn Y Bryngwyn nos Iau diwetha'. Fel dych chi'n gallu gweld o'r lluniau - ffeindiodd Mike ffrind newydd!




Roedd y bwyd yn ardderchog - ces i hwyaden, sglodion a saws Hoi Sin a dyma beth gaeth pawb arall:-

Allan a Bethan - stecen gyda madarch a garlleg

Gareth - stecen a sglodion

Mike - cyw iâr Efrog newydd a sglodion

Victoria - cyw iâr gyda mêl a sglodion


Doedd dim lle 'da fi i bwdin ond gaeth Mike, Gareth a Victoria bwdin. Gaeth pawb ddigon o gwrw a gwin hefyd! Ni oedd y ford ola' i adael - roedd y ty bwyta'n wag pan gadawon ni.

14/04/2011

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Fore dydd Sul chwaraeodd ein hŵyr ni Rio, bêl-droed dros Y Reds dan deng mlwydd oed yn erbyn Merthyr Tydfyl - enillodd Y Reds 5-3. Wrth gwrs, roedd rhaid ein bod ni - Jackie a fi - fod ar y cae’n gefnogwyr gyda ei fam, tad a’i frawd e. Fore dydd Llun chwaraeais i golff gyda’r ddau Neil. Nos Llun es i i’r cyfarfod rasys yn Ffos Las gyda fy mab-yng-nghyfraith i, Emmanuel, ond mae ei fam e, a phawb arall yn ei alw fe’n Manny.

12/04/2011

Newyddion Mike
Wythnos ddiddorol, es i i Barlwr y Maer Nos Fawrth. Dirprwy Faer Llanelli yw Roger Rees. Mae e wedi bod dysgu hanes Cymraeg yn Nhafarn y George ym Mhorth Tywyn a gwahoddodd e ni i’r Parlwr ar gyfer bwffe a diod - cwrw a gwin eto! Roedd hi’n noson neis gyda cherddoriaeth gitâr. Fel arfer, roedd golff, wyrion a’r clwb ffitrwydd ar gyfer gweddill yr wythnos. Dw i’n edrych ymlaen at Ffos Las ddydd Llun a chinio diwedd y tymor gyda’r dosbath Cymraeg yr wythnos nesaf.

06/04/2011

Newyddion Caryl Dw i'n edrych ymalen at weld pawb yn nhafarn y Bryngwyn ar 14 Ebrill - bydd hi'n hyfryd cael sgwrs a dal lan gyda newyddion pawb. Dw i nôl yn y gwaith llawn amser nawr ac mae popeth yn mynd yn iawn ar hyn o bryd. Nos Sadwrn diwetha, es i i noson i godi arian i Fand Porth Tywyn yn y neuadd ym Mhorth Tywyn. Cawson ni bryd o fwyd 3 chwrs ac wedyn twmpath (dawnsio gwerin). Ro'n i wedi blino'r diwrnod nesa' ac roedd pen tost ofnadw 'da fi - gormod o win siwr o fod!!!! Mae Gareth yn mynd i'r Cwrs Pasg yn Abertawe, 18 - 20 Ebrill - beth am bawb arall? Mae'r Cwrs Pasg yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg a chwrdd a llawer o ddysgwyr eraill.
Newyddion Gareth (drwg) Annwyl Gyfeillion, Ces i benwythnos tawel yr wythnos hon. Fore dydd Sul aeth fy ngwraig a fi i weld ein hŵyr ni’n chwarae pêl-droed dros Y Reds yn erbyn Abertawe. Cafodd y gêm ei chwarae ym Mhenygaer. Roedd cwpwl o blant talentog ar y cae. 3-3 roedd y sgôr yn y pen draw - canlyniad iawn yn fy marn i. Chwaraeais i gêm o golff fore dydd Llun gyda Neil Price a Neil Blower yn Abaty Glyn.
Newyddion Mike Aethon ni i fwyta ma’s ddwywaith yr wythnos hon i ddathlu ddiwrnodauarbennig. Y tro cyntaf achos pen-blwydd fy mab ifanca, yn y Bryngwynym Mhwll, a'r ailwaith, ddydd Sul, i gael ginio ar gyfer Sul y Mamau yn nhafarn y Pemberton ym Mhorth Tywyn. Roedd y bwyd yn flasus iawn yn y y ddwy dafarn. Hefyd, aethon ni i Gaerfyrddin ddydd Iau diwetha a bwyton ni yn Weatherspoons! Chwaraeais i golffddwywaith yr wythnos diwetha ac es i i’r clwb ffitrwyd ddwywaith. Dwywaith ywenw gêm yr wythnos ddiwetha!!