16/11/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Chwaraeais i golff fore dydd Gwener diwetha gyda Brian, hen ffrind ro’n i’n gweithio gyda flynyddoedd yn ôl. Mae e’n gallu chwarae golff yn well na fi, ond mwynheuais i’r gêm ’da fe. Cawson ni damaid bach o hwyl ar y ffordd rownd y cwrs golff. Aeth fy ngwraig Jackie a fi i Theatr Elli ar nos Sadwrn i weld ‘Songs From The Shows’- roedd e’n eitha da, ond doedd y meicroffonau ddim yn gweithio’n iawn. Ro’n ni’n flin am y bobl ifanc roedd yn perfformio ar y llwyfan. Gwela i chi gyd nos Fawrth nesa.

08/11/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Fore dydd Gwener diwetha chwaraeais i golff gyda fy ngwraig Jackie, roedd y cwrs golff yn wlyb iawn. Dyn ni ddim yn mynd i chwarae heddiw achos bod hi wedi bwrw dros nos, bydd y cwrs yn rhy wlyb i chwarae arno, yn fy marn i. Bydd rhaid i ni wneud rhywbeth yn y tŷ heddiw dw i’n credu. Dyna gyd o newyddion sy gyda fi’r wythnos hon.

03/11/2010




Newyddion Gareth (Tadcu newydd)
Wel mae newyddion da gyda fi heddiw. Cafodd fy merch i Angela fabi ddydd Gwener diwetha, bachgen bach. Maen nhw wedi rhoi enw iddo fe’n baro - ‘Rocco’ - brawd i Rio. Felly mae dau wyr gyda ni nawr. Cafodd y babi ei eni ar fy mhenblwydd i. Dw i’n anfon lluniau y patio hefyd. Dyn ni’n mynd i chwarae golff nawr gyda ffrindiau yn Abaty Glyn, gobeithio bydd y tywydd yn cadw’n sych!