06/10/2010

Newyddion Victoria
Es i i’r noson wybodaeth yn ysgol Parc y Tywyn neithiwr. Roedd dyn ‘na’n cyfieithu, ond ddefnyddiais i ddim o’r headphones a dw i’n falch iawn mod i wedi deall bron yr wybodaeth i gyd! Hefyd, ar ôl y cyflwyniad, siaradais i â’r cyfieithydd ac athrawes Seren yn Gymraeg. Hoffwn i ymarfer fy Nghymraeg yn aml tu fa’s i’r dosbarth Cymraeg, ond does dim lot o hyder da fi…roedd neithiwr yn step fach ond yn bwysig!

No comments: