19/10/2010

Newyddion Mike
Wythnos dda. Gaeth fy ngwraig ei phen –blwydd ac aethon ni i dafarn Y Bryngwyn ym Mhwll. Roedd y bwyd yn flasus iawn, fel arfer. Chwaeraeais i golff gyda Gareth a Neil yng Nglyn Abbey ddydd Mercher a ddydd Gwener, chwaraeais i ddim yn dda, rhaid i fi ymarfer yn fwy caled, pan mae’r amser ‘da fi. Fel dw i’n gwneud fy ngwaith cartref mae’r Scarlets yn chwarae yn erbyn Caerlŷr (Leicester), dydy e ddim yn hardd – mae’r Scarlets yn colli’n drwm. Dw i ddim yn gallu edrych ar y gêm!!! Un peth da, daeth fy wyres hena i ginio dydd Sul gyda’i thad hi.

No comments: