12/10/2010

Newyddion Laura (a Joe)
Mae newyddion cyffrous 'da fi yr wythnos hon (i fi ta beth!). Mae Joe wedi dysgu seiclo ar ei feic heb stablisers! Mae e wedi bod yn ymarfer tamaid bach dros y pythefnos diwetha ac mae cwpl o gleisiau 'da fe i brofi hyn. Ond chwarae teg, so fe wedi cwympo 'to. Ro’n ni mor falch pan aethon ni i Halfords fore dydd Sul i brynu beic newydd - mae e wedi tyfu ma's o'r beic arall.

No comments: