07/02/2011

Newyddion Mike

Wythnos brysur a drud yn anffodus! Roedd y car wedi torri lawr ddydd Llun
diwetha, roedd yr eiliadur wedi torri. Es i i garej Vauxall i brynu
eiliadur newydd, camgymeriad mawr. Roedd y pris yn bedwar cant punt! Y tro
nesaf - E-Bay! Chwaraeais i golf a chadw’n heini fel arfer a nos Wener
es i i edrych ar Gymru yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd - camgymeiriad
mawr eto, a drud iawn! Brynhawn dydd Sadwrn es i i Ffoslas i weld y rasys
ceffylau - dim camgymeiriad, enilliais i ddeuddeg punt!! Dw i wedi
ymddeol yn barod, yn anffodus.

No comments: