07/02/2011

Newyddion Gareth (drwg)

Annwyl Gyfeillion,

Fore dydd Gwener diwetha chwaraeais i golff ’da Mike, Neil ‘Saesneg’ a Jackie fy ngwraig i yn Abaty Glyn, roedd y tywydd yn oer ond roedd hi’n sych. Dw i wedi cael penwythnos dawel, dim ond ma’s am bryd o fwyd brynhawn dydd Sadwrn gyda ein merch ni Angela a’i theulu hi. Aethon ni i’r Beefeater ar bwys ein tŷ ni, roedd y bwyd yn ddigon da a dweud y gwir.

No comments: