20/05/2011

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Roedd fy chwaer i, Ann, lawr o Basingstoke dros y penwythnos diwetha. Arhosodd hi gyda fy nai i Mark yn ei dŷ e yng Nghaerfyrddin. Aethon ni i gyd i weld y beddfaen newydd sy wedi cael ei ddodi ar feddau ei fam a’i dad e (fy chwaer a fy mrawd yng nghyfraith i) ym Mynwent Box, Llanelli. Roedd hi braidd yn emosiynol i weld eu henwau nhw ar y beddfaen, Collon ni'r ddau ohonyn nhw dros chewch wythnos ac un flynedd yn ôl. Aeth Ann a fy nai Mark yn ôl i Basingstoke a Llundain ddydd Mawrth diwetha. Chwaraeais i golff gyda Jackie,Neil (Saesneg) a Neil (Cymraeg) fore dydd Llun, ces i gêm eitha da hefyd.

No comments: