03/05/2011

Newyddion Mike
Mae’r tywydd yn parhau’n dda - tywydd da ar gyfer golff a garddio eto. Dathlais i fy mhen-blwydd ddydd Iau diwetha - os byddai’r dosbarth Cymraeg yn cwrdd byddwn i wedi dod â chacen ben-blwydd i’r dosbarth! Aethon ni i dafarn Y Caulfields i ddathlu. Roedd y bwyd yn flasus iawn. Edrychais i ddim ar briodas William a Kate, es i i chwarae golff, wrth gwrs. Penwythnos brysur ar y ceir - newidais i’r olew yng nghar fy ngwraig a car fy mab ifanca. Roedd hi’n wyntog ac oerach nos Lun, dw i’n meddwl bod y tywydd yn newid.

No comments: