24/05/2011

Newyddion Gareth (golff)
Annwyl Gyfeillion,
Wel, mae’r tywydd tamaid bach yn wyntog ar hyn o bryd - mae‘n chwarae hafoc gyda fy ngolff i, ond mae’r gwynt yn well na’r glaw pan dw i’n chwarae. Siaradais i’n rhy fuan – ces i, Jackie a’r ddau Neil i gyd eu dal mewn cawod fawr y bore yma (dydd Llun) yn Abaty Glyn, ro’n ni’n wlyb trwodd. Dylen ni fod wedi chwarae prynhawn yma, mae’r haul yn disgleirio nawr. Mae popeth yn tyfu yn yr ardd, moro, tatws, ffa dringo, ciwcymber, tomato a winwns. Dyna i gyd dw i’n tyfu eleni.

No comments: