06/08/2010

Newyddion Allan (ma's)
Annwyl bawb,
Dw i'n mwyhau'r gwyliau. Yr wythnos gyntaf es i'r Sioe yn Llanelwedd. Cwrddais â Mike a'i deulu yno. Mwynheais i'r sioe yn fawr. Roedd digon i weld yno ac roedd y tywydd yn braf. Ces i lawer i fwyta yn y neuadd fwyd newydd.Dw i wedi bod yn brysur yn helpu fy nhad-yng-nghyfraith gyda'r ceffylau a gweithio yn yr ardd. Es i i'r llyfrgell i gael dau lyfr i fynd gyda fi ar fy ngwyliau - "Y Deryn Du" gan Bob Eynon a "Jake" gan Geraint V. Jones. Dw i'n edrych ymlaen i'w darllen. Bydda' i'n mynd i Jersey yn fuan. Dw i'n gobeithio y bydd Caryl yn cael amser da yng Nghanada a bod pawb arall yn mwynhau eu gwyliau.

No comments: