04/08/2010


Newyddion Gareth (newydd)

Ces i benwythnos dawel ond ddydd Llun diwetha aeth fy ngwraig , ein hwyres, Haf, a fi i'r Eisteddfod. Cyrhaeddon ni ar y Maes tua 11 o'r gloch a gadawon ni tua 6 o'r gloch. Cawson ni ddydd arbennig. Mwynheuodd Haf bws Cyw a dawnsio gyda Heini ym mhabell Bwrdd yr Iaith. Roedd y cinio yn y Pabell Bwyta yn flasus iawn.
Edrychais i, trwy ddamwain, ar seremoni Coroni'r Bardd yn y prynhawn!
Aethon ni mewn i’r Pafiliwn yn disgwyl gweld y gystadleuaeth ddawnsio i Haf ond ro'n ni'n rhy hwyr. Ro’n i’n meddwl bydden ni'n ddiflas ond mwynheuon ni’r seremoni. Ro'n ni yn y rhes ffrwnt a gwelodd ein teulu Haf ar y teledu. Cafodd ei hwyneb ei beintio felly roedd hi’n hapus iawn.



No comments: