03/08/2010

Newyddion Graeth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Gobeithio bod pobl wedi gwneud y mwyaf o’r tywydd ar ddiwedd mis Mai a dechrau mis Mehefin, achos dw i’n meddwl bod yr Haf wedi cwpla amdanon ni eleni. Dyn ni wedi cael llawer o hafau fel hyn dros y blynyddoedd i adnobod y patrwm. Efallai bydda i’n anghywir y tro hwn. Ces i broblem gyda fy nghyfrifiadur i’r wythnos diwetha, ond mae e’n gweithio nawr. Roedd ein hŵyr ni’n wyth oed ddydd Sadwrn diwetha ac aeth fy nheulu i gyd i Abertawe am gêm o ‘Ten Pin Bowling’ ac wedyn aethon ni am bryd o fwyd. Fore dydd Sul aeth fy mab ifanca, fy ŵyr a fi i bysgota yng Nghasllwchwr, ddalon ni ddim, ond, mwynheuon ni i gyd y profiad.

No comments: