31/08/2010







Gwyliau yng Nghanada
Ces i a Dyfrig wyliau hyfryd yng Nghanada. Hedfanon ni i Montreal a threulio un noson yno - roedd eglwys hardd iawn yno. Gyrron ni wedyn i Quebec ac aros am ddwy noson. Roedd y tywydd yn dwym iawn ac aethon ni am daith mewn llong ar afon St Lawrence. Noson wedyn ar Ynys de Coudres a Chicutimi cyn symud ymlaen at dwy noson wrth ochr Llyn Sacacomie - mae un o'r lluniau yn dangos y ddau ohonon ni'n ymlacio wrth ochr y llyn. Roedd staff y gwesty wedi bod ar streic am 5 wythnos a'r teulu a'u ffrindiau oedd yn rhedeg y gwesty. Roedd y lle'n ffantastig ac roedd jacuzzi yn ein 'stafell wely!
Gyrron ni lawr wedyn i Kingston am un noson cyn gyrru i Toronto i gwrdd â ffrindiau. Aethon ni i weld Niagara ac i bentre bach o'r enw Niagra on the Lake, treulio prynhawn a noson gyda'n ffrindiau yn eu tafarn leol (llawer o win, cwrw a cocktails) a mynd lan twr CN. Roedd hi'n bwrw glaw yn Niagra ac mae'r ail lun yn dangos ni o dan yr ymabrel. Yn y CN roedd moose enfawr ac wrth gwrs roedd rhaid i fi gael llun wedi'i dynnu!
Roedd y bwyd yn ffantasti - steak hyfryd, cwn poeth blasus a gwin neis iawn. Do'n i ddim moyn dod nôl!

No comments: