04/08/2010


Newyddion Victoria
Sut mae bawb!
Es i i Gei Newydd yn y carafan wythnos diwetha gyda Justin a’r plant.
Arhoson ni yn ‘Nghei Bach’, safle eitha bach ar bwys Cei Newydd. Roedd y safle’n neis iawn gyda golyfa hyfryd dros Bae Ceredigion, tŷ bwyta gwych a thraeth bach lawr y ffordd.
Roedd y tywydd tamiad bach yn siomedig - sych, ond llawer o gymylau. Aethon ni i Gei Newydd ddydd Llun a dydd Mawrth a chwaraeodd y plant ar y traeth. Aethon ni i Aberaeron ddydd Mercher i fwyta hufen iâ mêl a dal crancod, ac wedyn aethon ni i Langrannog ddydd Iau i gwneud castell tywod a bwyta sglods! Daethon ni dod ddydd Gwener (un dydd yn gynnar achos bod y tywydd yn wlyb a diflas!)
Dwi’n brusur iawn yr wythnos ma. Mae rhaid i fi gorffen archeb priodas erbyn dydd Gwener achos bod ni’n mynd i’r Cotwolds ar y penwythnos am un wythnos. Dwi’n gobethio bydd y tywydd yn gwella…hwyl am y tro!!

No comments: