28/07/2010

Newyddion Gareth (newydd/garlleg/tadcu/drwg ambell waith)
Arhosodd fy ngwraig a fi gyda’n merch a'i theulu yn Sili am dri diwrnod yr wythnos diwetha.
Rhwng pethau eraill aethon ni â nhw i’r sinema i weld Toy Story 3 (mewn 3D!). Mwynheuon ni i gyd y ffilm. Ddydd Sul diwetha es i eto i Sili ond gyda fy merch arall a fy wyrion i barti Go-Kart ym Mhenarth i ddathlu penblwydd Gregor.
Gobeithio bydd fy ngwraig a fi’n mynd a'n hwyres i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent yr wythnos nesa.

No comments: