14/07/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfellion,
Gorffenais i’r Cwrs Haf ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Gwener diwetha.
Roedd gwaith y cwrs yn ddiddorol iawn fel arfer, Roedd rhaid i ni i gyd siarad Cymraeg bob dydd gyda Angharad, ein tiwtor ni. Cawson ni ddwy ddarlith yn ystod yr wythnos, un am hanes yr Iaith Gymraeg, ac un am hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru, roedd y ddwy ohonyn nhw’n ddiddorol iawn. Brynhawn dydd Llun aeth fy ngwraig a fi, gyda’n merch, mab-yng-nghyfraith a hŵyr ni i’r cyfarfod rasys yn Ffos Las, roedd y tywydd yn braf iawn, enillodd i ddim y tro hwn, gwell lwc y tro nesa efallai?

No comments: