22/07/2010

Newyddion Gareth (drwg)
Annwyl Gyfellion,
Cawson ni noswaith bleserus yng Ngwesty Thomas Arms nos Iau diwetha, gyda’n dosbarth ni a phobl o ddosbarth uwch y Strade. Roedd y bwyd, y cwrw a’r gwin yn hyfryd iawn, roedd y noswaith yn llawn hwyl hefyd. Brynhawn dydd Sadwrn es i i Ddafen i weld gêm o griced gyda’n ffrindiau Bob a Mike, gwelon ni Ddafen yn batio, cawson nhw dri chant a thri rhediad mewn hanner cant o belawdau. Aethon ni adre pan aeth y ddau dîm mewn i gael te yn y pafiliwn. Fore dydd Sul daeth plymwr i weithio yn ein tŷ ni, doedd y gawod ddim wedi bod yn gweithio’n iawn. Gwnaeth e job dda hefyd. Dw i wedi cael digon o’r tywydd gwlyb yn barod, ble mae’r haul wedi mynd?

No comments: