29/04/2010

Newyddion Tadcu
Does dim byd cyffrous wedi digwydd i fi dros y penwythnos diwetha. Beth bynnag mwynheuais i’r tywydd yn yr ardd ac ar fy meic.
Dyn ni wedi dechrau ymarfer gyda’r Grwp Opera am y sioe nesa Il Trovatore gan Verdi. Does dim plot ‘da fe ond mae’r gerddoriaeth yn ardderchog.
Bydd fy ngwraig a fi'n mynd i weld ein merch ac wyrion fory yn Sili.
Byddwn ni'n dod nôl trannoeth
Mae Morgannwg yn chwarae’n well. Maen nhw wedi ennill dwy gêm a cholli un erbyn hyn.

No comments: