01/04/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Ddydd Sadwrn es i i’r ‘Sadwrn Siarad’ yn Ysgol Gymunedol Cwrt Sart, Llansawel. Mwynheuais i’r diwrnod, roedd llawer o’r bobl yn ein dosbarth ni’n dod o ardal Castell-Nedd, ond ro’n nhw’n eitha da a dweud y gwir. Nos Sadwrn aeth fy ngwraig a fi gyda’n hŵyr ni i Theatr Elli i weld ‘Oliver’, cynhyrchiad wedi’i wneud gan ‘Ysgol St.Michael’s’. Roedd hi’n noswaith bleserus iawn. Cysgodd ein hŵyr ni dros nos Sadwrn yn ein tŷ ni, cawson ni fore diog dydd Sul, y tri ohonon ni’n cysgu’n hwyr. Gobeithio bod pawb wedi troi’u clociau nhw ymlaen nos Sadwrn!!.

No comments: