22/04/2010

Neges Gareth (tadcu newydd)
Rhan orau'r Pasg oedd dyfodiad ein hŵyr, Osian, yn ysbyty Glangwili. Mae’n merch a'r babi yn iawn. Dw i wedi bod am dro sawl gwaith gyda fe (fe mewn pram wrth gwrs!) yn barod.
Dw i wedi edrych ar lawer o rygbi a mwynheuais i gêm y Gweilch yn erbyn Biarritz yng Nghwpan Heineken.
Dw i wedi cael llond bol o'r Etholiad a so dwirnod yr etholiad yn gallu dod yn ddigon cyflym. Diolch byth am y tywydd braf felly dw i wedi bod ma’s yn yr ardd ac ar fy meic yn aml.

Neges Allan (ma's)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i'n gobeithio bod pawb wedi mwynhau gwyliau’r Pasg. Roedd y tywydd yn fendegedig. Es i Poole yn Dorset gyda Gaynor i weld fy chwaer yn ei thŷ newydd am un penwythnos. Roedd ei thŷ yn hyfryd. Cyrhaeddon ni brynhawn dydd Gwener ac arhoson ni mewn trwy'r nos. Cawson ni bryd o fwyd blasus.Fore dydd Sadwrn aethon ni am dro i "Poole Quay." Gwylion ni'r "Grand National" mewn tafarn ar bwys tŷ fy chwaer yn y prynhawn. Yn anffodus enillon ni ddim byd ar y râs. Aethon ni ma’s am bryd o fwyd mewn bwyty Eidalaidd nos Sadwrn. Gwnaethon ni gyd gael amser da.

Neges Laura
Dyn ni'n wedi cael gwyliau hyfryd. Aethon ni rhywle pob dydd achos bod y tywydd mor braf. Aethon ni i Barc Howard, Parc y Dre, Penclacwydd a Pharc Gwledig Penbre. Hefyd, aethon ni i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Aeth Joe ar helfa Wyau Pasg yn ein gardd ni ar Sul Pasg a ffindiodd e wyth wy Pasg. A chwarae teg, mae tri ar ôl o hyd! Es i i siopa yng Nghaerdydd gyda fy ffrind i o'r gwaith ddydd Llun diwetha - roedd hi'n neis i gael amser ar fy mhen i hun.

No comments: