20/04/2010

Neges Gareth (drwg)
Annwyl Gyfeillion,
Dw i wedi bod yn brysur iawn dros y Pasg, chwarae golff, bwyta mas, garddio, ac yn mynd i’r Cwrs Pasg ym Mhrifysgol Abertawe am dri diwrnod yr wythnos hon. Mae’r tywydd wedi bod yn braf iawn dros y Pasg, mae hi’n gwneud gwahaniaeth i ragolwg pawb dw i’n credu. Gobeithio bod pawb wedi cael Pasg neis.

Neges Mike
Mae gwyliau’r Pasg yn dod i ben. Dw i’n meddwl bod y Pasg yn bleserus, mae’r plant yn mwynhau wyau siocled ac mae cristnogion yn mwynhau mynd i’r eglwys. Edrychais i ar y Pab ar y teledu ar Ddydd Sul y Pasg. Pa fodd bynnag, mae’r eglwys gatholig mewn trwbl gyda’r offeriaid Gwyddeleg.Taw piau hi.
A fi, ymlaciais i drwy’r gwyliau a wnes i ddim arbennig. Ro’n i’n arfer chwarae golff ers llawer dydd a hoffwn i chwarae golff eto. Es i i gwrs golff Pentre Nicholas a tarais i lawer o bêlau golff ar y “driving range”.
Beth am y llosgfynydd yn Ynys yr Iâ? Dyn ni’n mynd (dw i’n meddwl!) i Hong Kong am wyliau byr ar 2 Mai!!

No comments: